大象传媒

Estyn: Sgiliau Cymraeg mewn ysgolion Saesneg 'yn bryder'

  • Cyhoeddwyd
disgyblFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd adroddiad blynyddol Estyn yn cael ei gyhoeddi yn llawn ym mis Ionawr

Mae sgiliau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cynradd Saesneg yng Nghymru yn "dal i fod yn bryder", yn 么l adroddiad newydd.

Aeth Estyn - y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru - i ymweld 芒 gwahanol fathau o ysgolion y llynedd er mwyn cael trosolwg o'r hyn sy'n gweithio, neu ddim, o fewn y system addysg.

Noda'r adroddiad bod diffyg dealltwriaeth ymhlith disgyblion o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Wrth ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru bod y sylwadau yn "siomedig".

Cafodd yr adroddiad ei lunio gan brif arolygydd Estyn, Owen Evans, a'r bwriad yw rhoi syniad o'r hyn sydd angen ei wella o safbwynt addysg a hyfforddiant.

Mae'n nodi "nad ydi mwyafrif y disgyblion yn gwneud digon o gynnydd o ran y Gymraeg, na chwaith yn eu dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru".

O'r 169 o ysgolion cynradd Saesneg a gafodd eu harolygu, cafodd 51 (30%) o'r rheiny eu hamlygu fel rhai sydd angen gwella sgiliau Cymraeg disgyblion, yn enwedig sgiliau llafar.

Fe dderbyniodd naw (18%) o'r 50 o ysgolion cynradd Cymraeg a gafodd eu harolygu, yr un argymhelliad hefyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Owen Evans, pwrpas yr adroddiad yw rhoi trosolwg o'r hyn sy'n gweithio neu ddim yn ein hysgolion

Wrth gyfeirio at ysgolion cynradd yn benodol, mae'r adroddiad yn dweud: "Yn debyg i'r llynedd, mewn gormod o ysgolion, dyw disgyblion ddim yn gwneud digon o dasgau ysgrifennu hir.

"Mae gormod o gamgymeriadau syml o ran gramadeg ac atalnodi yn cael eu methu, yn ogystal 芒 diffyg adborth gan athrawon."

O'r holl ysgolion uwchradd a gafodd eu hymweld, cafodd 64% (18) argymhelliad i wella effeithiolrwydd y dysgu.

'Arbrofi gyda dulliau addysgu newydd'

Noda'r adroddiad hefyd fod lefelau presenoldeb yn parhau yn is na'r cyfnod cyn y pandemig, gyda phresenoldeb disgyblion o gefndiroedd mwy di-freintiedig yn achos pryder arbennig.

Er hynny mae'r adroddiad yn nodi bod sgiliau llafar disgyblion yn arbennig o gryf yn y rhan fwyaf o ysgolion, tra bod disgyblion hefyd yn arddangos sgiliau digidol hynod o effeithiol.

Yn ogystal, mae'n dweud bod y rhan fwyaf o ysgolion wedi datblygu "gweledigaeth glir ar gyfer cwricwlwm newydd Cymru", ac yn "arbrofi gyda dulliau addysgu newydd".

Ychwanegodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, bod yr adroddiad yn dangos "diffyg dealltwriaeth o'r pwysau sydd ar arweinwyr ysgolion a cholegau, a'r amgylchiadau heriol sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd".

Bydd adroddiad blynyddol Estyn yn cael ei gyhoeddi yn llawn ym mis Ionawr.

Pynciau cysylltiedig