Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dechrau'r broses o ethol Esgob Tyddewi newydd
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae drysau Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi eu cloi er mwyn ethol esgob newydd - proses a allai gymryd hyd at dridiau.
Daw'r etholiad yn dilyn ymddeoliad Dr Joanna Penberthy dros yr haf, wedi chwe blynedd yn y swydd.
Oherwydd salwch, roedd Dr Penberthy yn absennol o'r gwaith am gyfnodau hir, dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mewn proffil ysgrifenedig, sydd wedi ei baratoi gan aelodau o'r Esgobaeth, mae yna alw i'r Esgob newydd greu undod yn dilyn "cyfnod o raniadau".
Joanna Penberthy, 61, oedd yr Esgob benywaidd gyntaf i gael ei hordeinio yng Nghymru ym mis Ionawr 2017, ond mae hi wedi bod yn ffigwr dadleuol.
Cafodd ei beirniadu yn hallt ar 么l ysgrifennu neges ar wefan X, neu Twitter gynt, ym mis Mawrth 2021 yn dweud wrth bobl am "beidio byth ag ymddiried mewn Tori".
Roedd hi'n ymateb i adroddiadau ar y pryd bod y Ceidwadwyr am ddiddymu Senedd Cymru.
Fe ymddiheurodd am y neges rai wythnosau yn ddiweddarach, a dileu ei chyfrif Twitter, gan ddweud bod rhai o'i sylwadau wedi eu mynegi mewn ffordd "anghyfrifol ac amharchus".
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, bod ei sylwadau wedi "peri pryder i nifer o blwyfolion yng ngorllewin Cymru."
Ac yn 么l Archesgob Caergaint ar y pryd, roedd y neges yn "annerbyniol" ac wedi "peri embaras".
Cyfnod heriol i'r Esgobaeth
Yn 么l John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg ar 大象传媒 Radio Cymru, mae hi wedi bod yn gyfnod heriol i'r Esgobaeth.
"Mae yna raniadau mewn eglwys, bob amser. Dydy pawb ddim yn cytuno," meddai.
"Ond mae absenoldeb yr Esgob oherwydd salwch wedi efallai rhoi lle i fwy o raniadau achos mae'r Esgob yn uno cymdeithas fel arfer.
"Mae'r esgobaeth yn chwilio am rhywun fedr uno pobl unwaith yn rhagor."
Beth yw'r broses?
Fe fydd 47 o bobl, sydd yn cynrychioli eglwysi o bob rhan o Gymru, yn cwrdd tu mewn i'r Eglwys Gadeiriol i enwebu a phleidleisio ar restr gyfrinachol o ymgeiswyr i olynu Dr Penberthy.
Mae'r Coleg Etholiadol, sy'n cynnwys holl esgobion Cymru, yn dechrau ar y gwaith fore Llun a bydd ymgeiswyr ar gyfer etholiad yn cael eu henwebu yn y cyfarfod.
Fe fydd unrhyw ymgeisydd sy'n derbyn dau-draean o bleidleisiau'r rhai sy'n bresennol yn cael ei ddatgan yn Ddarpar Esgob.
Ond os nad oes canlyniad clir, mae'r Coleg yn dychwelyd i'r cam enwebu ac mae'r broses yn ailddechrau.
Unwaith mae'r penderfyniad wedi ei wneud, bydd y Gadeirlan yn ailagor a bydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn gwneud y cyhoeddiad.
Bydd gan y Coleg Etholiadol hyd at dridiau i wneud penderfyniad, ac os yw'n methu ethol unrhyw un ar 么l hynny, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan Fainc yr Esgobion.
Unwaith yr etholir esgob, bydd ganddo ef neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd.
Os bydd yn derbyn, caiff yr etholiad ei gadarnhau'n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Cysegredig a gynhelir yn fuan wedyn.
Yna cysegrir yr esgob newydd yng Nghadeirlan Bangor, sedd Archesgob Cymru ar hyn o bryd.
Mewn proffil o'r Esgobaeth, sydd wedi ei lunio ar gyfer y Coleg Etholiadol, mae yna gyfaddefiad bod yr Esgobaeth wedi bod trwy "gyfnod o ansicrwydd mawr yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf", sydd wedi cael ei "ddylanwadu gan salwch hir dymor, ac ar adegau, annisgwyl yr Esgob diwethaf."
Nodir hefyd bod y Glerigiaeth a Lleygwyr wedi teimlo "blinder a mor芒l isel" yn sgil sylwadau'r Esgob diwethaf oedd wedi "creu rhaniadau".
Mae yna alw hefyd am ethol Esgob fydd ac ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth ond "heb arddel agenda bleidiol".
"Fe fydd angen i'r Esgob newydd fod yn rhywun all roi'r Esgobaeth nol at ei gilydd, ac adfywio'r teulu esgobaethol," meddai'r proffil.
Yn 么l yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi, mae yna heriau mawr ar gyfer yr Esgob newydd.
"Mae'n hanfodol bwysig i ddod 芒 phobl n么l at ei gilydd, a'u casglu nhw n么l i'r gorlan fel petai," meddai.
"Mi fydd yna dalcen caled a sialensiau gerbron yr Esgob newydd, pwy bynnag fydd y person hynny.
"Beth sydd yn bwysig i wneud fel pobl sydd yn dilyn yr Arglwydd Iesu, yw ein bod ni yn cefnogi yr Esgob nesaf ac yn dod yn un gyda'n gilydd."
Mae'r proffil hefyd yn s么n am yr angen i ddefnyddio "adnoddau a phobl yn y ffordd gorau" gyda'r awgrym clir y bydd angen i'r Esgob newydd ystyried cwtogi ar y nifer o adeiladau eglwysig yn yr Esgobaeth.