Gemau rhagbrofol Euro 2024: Cymru 2-1 Croatia
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd Harry Wilson noson i'w chofio ar achlysur ei hanner canfed cap rhyngwladol trwy sgorio'r goliau sy'n sicrhau bod gobeithion Cymru o fachu lle ym mhencampwriaeth Euro 2024 yn dal yn fyw.
2-1 oedd y sg么r terfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd sy'n sicrhau triphwynt pwysig i Gymru yng ngr诺p D.
Roedd y perfformiad yn un cofiadwy hefyd allai lleddfu rhywfaint o'r pwysau diweddar ar yr hyfforddwr Rob Page.
Fe gafodd sawl un o chwaraewyr Cymru hanner cyntaf arbennig o dda ac roedd angen arbedion safon uchel gan y golwr Dominik Livakovic i atal cic rydd gan Wilson ac ergydiad isel gan Neco Williams.
Er bod Croatia ymhell o fod ar eu gorau, roedd angen pwyll yn erbyn t卯m a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan y Byd. Di-sg么r oedd hi ar yr egwyl er bod Cymru'n haeddu bod ar y blaen.
Daeth g么l gyntaf Wilson - ei seithfed i'w wlad a'i ail o'r ymgyrch - yn fuan wedi dechrau'r ail hanner.
Pas gampus gan Brooks dros ben amddiffynwyr Croatia, Wilson yn rheoli'r b锚l ar ei fron cyn ei chodi gyda'r droed chwith dros y golwr.
Dan James wnaeth helpu i greu'r ail g么l ar 么l dod i'r maes yn lle Brooks. Ar 么l casglu'r b锚l ar yr ochr chwith fe basiodd i Moore ac fe darodd ei groesiad yntau gefn pen Wilson ac fe anelodd yn berffaith i'r rhwyd.
Am gyfnod roedd trydedd g么l i Gymru'n edrych yn fwy tebygol na g么l i'r ymwelwyr.
Ond yna fe ymosododd Croatia - bu ond y dim i Dion Drena Beljo benio'r b锚l i'r rhwyd, cyn iddi gael ei chyfeirio heibio'r postyn am gic gornel.
O'r gic honno, fe darodd y b锚l ben Moore gan deithio i gyfeiriad yr eilydd Mario Pasalic a'i hanelodd yn hawdd i gefn y rhwyd.
Roedd yna densiwn sylweddol weddill y g锚m cyn y cyhoeddiad bod yna bum munud o amser ychwanegol, ac roedd angen ymateb cyflym a dau arbediad campus gan Danny Ward i warchod y fantais cyn i'r chwiban olaf seinio.
Mae Cymru wedi codi i ail safle Gr诺p D gyda 10 o bwyntiau - chwe phwynt tu 么l i Dwrci ar y brig, a drechodd Latfia 4-0 nos Sul - a gyda'r un nifer o bwyntiau 芒 Croatia yn y drydedd safle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023