Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
1,200 milltir, 15 teiar fflat, 1 her arbennig
Mae g诺r o Landybie newydd orffen her enfawr o reidio beic i Rufain i godi arian i elusen.
Beiciodd Daniel Evans 1,200 o filltiroedd drwy Ffrainc ac i lawr arfordir Yr Eidal i godi arian er cof am fachgen o'r ardal, Joseph, a fu farw o ganser neuroblastoma yn dair oed yn 2021.
Ond gallai popeth fod wedi mynd i'r gwellt ar y diwrnod cyntaf...
Heriau i godi arian
Roedd Daniel yn 'teimlo'n s芒l', meddai, pan glywodd am sefyllfa druenus Joseph Yeandle a'i deulu o Frynaman. Roedd y bachgen bach yn dioddef o ganser neuroblastoma, ac roedd ei deulu yn ceisio codi arian i dalu am driniaeth iddo nad oedd ar gael gan y GIG.
Dyna sut y ffeindiodd Daniel ei hun yn beicio i'r Alban yn haf 2021, gan ddringo tri chopa uchaf Prydain ar y ffordd, er mwyn codi arian i'r teulu.
Wedi marwolaeth Joseph yn dair oed ddiwedd y flwyddyn honno, sefydlodd ei deulu elusen sydd yn codi arian ar gyfer talu am driniaethau plant eraill s芒l, fel nad yw eu teuluoedd nhw yn gorfod gwneud.
Roedd Daniel, wrth gwrs, yn gwybod fod rhaid iddo wneud her arall i godi mwy o arian i'r achos. Ond beth oedd yr her am fod?
"O'dd angen cael y balans rhwng rhywbeth heriol, ond rhywbeth roedd posib i mi ei wneud," meddai. "Dwi'n caru Rhufain, dwi'n caru seiclo, a 'nes i roi dau a dau at ei gilydd. 'Nes i siarad gyda'n nhad amdano fe a ddywedodd e mod i'n dwpsyn... felly o'n i'n gwybod ei fod yn un da!"
Roedd Daniel am seiclo 1,200 o filltiroedd dros 15 diwrnod, i lawr drwy ddwyrain Ffrainc, drwy'r Alpau a lawr arfordir yr Eidal i Rufain... ar ei ben ei hun.
Beth allai fynd o'i le?!
Trafferthion teiars
Wel... fel mae'n digwydd, pyncjars... a llawer iawn ohonyn nhw. Pymtheg i fod yn fanwl gywir:
"Rhaid bod hwnna'n rhyw fath o record. Ar y dydd cynta', ges i bump! Ges i help gan lot o bobl oedd yn pasio, oedd yn lwcus, achos dwi ddim y gorau gyda mecanics beic. Roedd gen i dri thiwb mewnol, a 'nes i eu defnyddio nhw i gyd... wedyn ges i dwll arall...
"O'n i'n beicio i mewn i'r goedwig 'ma, a do'n i ddim wedi gweld neb ers rhyw bum milltir, ac o'n i rhyw 17 milltir o fy ngwely am y noson. O'n i yng nghanol nunlle, a ges i pyncjar... a nes i jyst eistedd am 'chydig ar ochr y l么n, wir yn ceisio meddwl beth o'n i am ei wneud nawr?
"Yna daeth rhyw Ffrances, fel rhyw angel, mewn fan a rhoi lifft i mi 20 munud mas o'i ffordd hi i dref gyfagos, a hyd yn oed mynd 芒 fi i'r siop feiciau ac egluro beth o'n i ei angen. 'Nes i drio rhoi arian iddi, ond wrthododd hi - dywedodd hi 'pob lwc' ac i ffwrdd 芒 hi.
"Roedd e'n anhygoel, achos gallai hynny fod wedi bod ei diwedd hi, a hynny ar y diwrnod cynta'."
Cafodd ychydig llai o drafferthion gyda'i feic, weddill y siwrne. Ond mae'n cyfadde' iddi fod yn daith anodd am amryw o resymau, nid yn unig am iddo gael ei stopio gan heddwas yn Yr Eidal am feicio drwy olau coch. Yn ffodus, chafodd o mo'i roi mewn cell, dim ond cael rhybudd... a wnaeth o ddim y camgymeriad yna eto!
Yn lwcus chafodd o ddim damwain yn ystod y daith, a fyddai wedi gallu bod yn drychinebus ag yntau ar ei ben ei hun, ond doedd o ddim bob amser yn teimlo'n ddiogel ar y ffordd, eglurodd:
"Roedd hi'n iawn yn Ffrainc, ond roedd hi'n teimlo lot mwy peryglus yn Yr Eidal. Roedd hi'n frawychus; ceir yn hedfan heibio a lor茂au ddim yn rhoi lle i ti, yn gyrru fel taset ti ddim hyd yn oed yna.
"Y gwaetha' oedd mynd drwy'r mynyddoedd yn yr Alpau. Mae'r twneli yn gyfyng ac os oedd lori yn dod tu 么l i ti, roedd 'na s诺n fel injan jet enfawr, ac wedyn chwa mawr o wynt wrth iddyn nhw basio - o'dd e ddim yn hwyl."
Gwres a gorfoledd
Er ei fod wedi cynnal yr her ym mis Medi, gan obeithio am dywydd cymedrol iddo gael beicio ynddo, roedd hi'n llethol o boeth am y bythefnos fuodd o wrthi, meddai:
"Y peth gwaetha' oedd y gwres - roedd e'n wallgo'. Roedd y bobl leol yn dweud ei bod hi'n anarferol, a'i bod hi rhyw 10 gradd yn oerach fel arfer. Wrth fynd lan i'r Alpau, o'n i'n diferu o chwys."
Ac wrth gwrs, pan mae chwys, mae angen digon o dd诺r...
"Rhai dyddiau, ro'n i'n rhedeg mas o dd诺r a methu dod o hyd i siop. Dwi'n cofio hynny yn yr Alpau - mynd drwy bentrefi bach heb siopau a nunlle i brynu d诺r. Pan 'nes i gyrraedd reit i'r top, o'n i mor sychedig.
"O'n i'n stopio i brynu brechdan i ginio fel arfer, a chael pryd mawr gyda'r nos; dwi wrth fy modd gyda bwyd Eidalaidd, a ges i bethau anhygoel! Ond rhai dyddiau, mae'n debyg mod i'n llosgi 3,800 o galor茂au y dydd, ac mae ceisio cael gymaint 芒 hynny i mewn i ti yn anodd, felly 'nes i golli pwysau."
Ond wrth gwrs, roedd ambell i uchafbwynt ar y daith, cofiodd, ac ambell i foment fydd yn para' yn y cof am byth.
"Tua hanner ffordd drwy'r Alpau, roedd hi'n serth ofnadwy, a hynny yn syth bin ar ddechrau'r diwrnod, ac fuodd rhaid i mi ddringo drwy'r dydd. Ond roedd cyrraedd copa Col d'Izoard yn anhygoel.
"'Naeth hi gymryd gymaint i mi gyrraedd yno, ro'n i'n ofnadwy o sychedig a jest yn gorfod gwthio a gwthio drwodd. Ond pan 'nes i gyrraedd y top a throi rownd a gweld o lle o'n i wedi dod, 'nath e chwalu mhen i. Fi 'naeth hynny, jyst gyda nghoesau! Roedd e'n deimlad anhygoel."
Cafodd groeso yn Rhufain gan ei rieni, a oedd wedi hedfan draw i'w gwrdd, ac roedd wrth ei fodd yn eu gweld ar 么l bod ar ei ben ei hun cyhyd... er fod ei fam wedi dweud yn syth wrtho pa mor ddrewllyd oedd o! Dyna beth sydd yn digwydd ar 么l 15 diwrnod o feicio, pan does gen ti ond un set o ddillad beicio a dim llawer o gyfle i'w olchi, mae'n debyg...
Yr her nesa'
Ac yntau bellach yn 么l adref yn Llandybie, mae amser nawr i feddwl yn 么l dros yr her, ac i ddechrau meddwl am yr un nesa':
"Y peth gwaetha' am hwn oedd y pyncjars a 'naeth hynny wir effeithio ar fy ysbryd i. Ti'n gorfod dig deep. O'n i jest yn trio cofio pam mod i'n codi'r arian a meddwl am beth oedd teulu Joseph wedi bod drwyddo... doedd hyn yn ddim byd. Cymryd ychydig o eiliadau i feddwl am hynny, a ti n么l wrthi.
"Mi fydd yna rywbeth arall, ond dwi angen meddwl am her go iawn.
"Dwi wir yn mwynhau herio fy hun; mae'n gymhelliant i fynd a gwneud rhywbeth. A ti methu dibynnu ar neb arall, dim ond ti dy hun."
Cawn weld felly beth sydd nesa' ar restr o heriau 'twp' Daniel!
Hefyd o ddiddordeb: