´óÏó´«Ã½

'Colli degawd o hyrwyddo' ar ôl diddymu Bwrdd yr Iaith

  • Cyhoeddwyd
Meirion Prys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd diddymu Bwrdd yr Iaith yn gamgymeriad, yn ôl Meirion Prys Jones

"Rydyn ni wedi colli degawd o hyrwyddo'r iaith ar lawr gwlad yn sgil diddymu Bwrdd yr Iaith," yn ôl cyn-brif weithredwr y corff.

Mae Meirion Prys Jones yn credu bod angen sefydlu corff i fod yn gyfrifol am hybu'r iaith a sicrhau bod pobl yn ei defnyddio.

Daw'r galw yma union 30 mlynedd ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Cafodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei sefydlu o ganlyniad i'r ddeddf, ac yn ôl Mr Prys Jones roedd hwnnw'n gam eithriadol o bwysig yn hanes yr iaith. 

"Deddf oedd yn agor drws ar gyfnod cwbl wahanol o safbwynt y Gymraeg," meddai.

"Roedd e'n rhoi'r remit ehanga' posibl i'r Bwrdd gan ddweud 'gwnewch unrhyw beth chi'n teimlo sy'n briodol i hyrwyddo'r Gymraeg'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid hyrwyddo'r iaith yn well os am sicrhau miliwn o siaradwyr, yn ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith.

Roedd y ddeddf yn dweud y dylai'r Gymraeg gael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru.  

"Holl fwriad y peth oedd rhoi'r cyfle i bobl gael dewis gwasanaeth Cymraeg yn ddiofyn ac yn ddi-gwestiwn," meddai.

"Beth oedd yn bwysig i ni oedd bod cyrff cyhoeddus yr oedden ni'n gyfrifol amdanyn nhw yn deall y ddeddf ac yn deall sut i weithredu o fewn y ddeddf ac mi oedd gyda ni swyddogion hynod o abl ynglŷn â gwneud hyn i ddigwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna nifer o wendidau'n perthyn i'r ddeddfwriaeth, yn ôl Sian Howys

Yn ôl Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, roedd y ddeddf yn benllanw blynyddoedd o ymgyrchu ond doedd e ddim yn fêl i gyd.   

"Ar un ystyr roedd e'n fuddugoliaeth, ond wrth gwrs ar y llaw arall roedd yna nifer o wendidau'n perthyn i'r ddeddfwriaeth," meddai.

"Doedd y sector breifat ddim yn cael ei gynnwys ac ry'n ni wedi gweld twf y sector breifat dros y blynyddoedd... ond hefyd roedd deddfwriaeth 1993 yn dibynnu gormod ar unigolion yn cwyno yn hytrach na bod pethau'n dod yn ddwyieithog yn ddiofyn."

Fe wynebodd Bwrdd yr Iaith feirniadaeth am fethu â gorfodi sefydliadau i gydymffurfio.

Arweiniodd hynny at alwadau am sefydlu Comisiynydd a mesur iaith 2011 a diwedd Bwrdd yr Iaith.

Roedd hynny'n gamgymeriad ym marn Meirion Prys Jones, am nad oedd unrhyw un yn gyfrifol am hyrwyddo'r iaith ar lawr gwlad.

"Ni wedi colli degawd yn dilyn y ddeddf ddiwethaf, pethe'n cael eu had-drefnu, cadeiriau'n cael eu symud - ni methu fforddio hynny," meddai.

"Mae'r ddegawd ddiwethaf wedi bod yn ddegawd o ailddysgu beth y'n ni'n wybod yn barod. Mae ishe meddwl nawr yn fwy penodol am gael asiantaeth hyd braich i hyrwyddo'r Gymraeg."

'Rhaid cael ffordd i hyrwyddo'r iaith'

Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Os ydan ni eisiau miliwn o siaradwyr Cymraeg... mae'n rhaid cael ffordd i'w hyrwyddo fo.

"Sefydliadau, trefniadau, cyrff gweithredol sy'n newid trefn pethau. Dydy o ddim yn digwydd jest trwy ddweud dyna 'dan ni 'isio mewn hyn a hyn o flynyddoedd os nad oes gyda ni ddarpariaeth i wneud iddo ddigwydd."

Tra bod rhai'n dadlau fod yna ormod o bwyslais ar reoleiddio ar draul hyrwyddo'r iaith, mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni nad yw pwerau'r Comisiynydd yn ddigon cryf.

"Os rhywbeth mae angen cryfhau'r ochr rheoleiddio achos pan 'dan ni ddim yn cael gwasanaeth Cymraeg does dim recourse, does dim digon o ddatrysiad na gorfodaeth," meddai Sian Howys.

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn poeni nad yw'r llywodraeth wedi bod yn gwneud digon o ran hybu a datblygu'r iaith ers cyflwyno Mesur y Gymraeg 2011.

Ychwanegodd Ms Howys: "Mae'r cyfrifiad yn dangos hynny. 'Dan ni'n gweld gormod o bethe ar chwâl rhwng gwahanol adrannau. Mae angen ymagwedd sydd wedi cysylltu ag yn fwy holistig ynglŷn â chynllunio dyfodol cynaliadwy i'r Gymraeg."

Ffynhonnell y llun, Mike Dean
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Efa Gruffudd Jones bod modd dadlau bod Llywodraeth Cymru yn "gorff mwy grymus i allu hybu a hyrwyddo" nag oedd Bwrdd yr Iaith

Mae Meirion Prys Jones yn cydnabod bod yna agweddau cadarnhaol, ond mae'n dal i boeni bod diffyg cyfeiriad.

"Mae 'na bethau da yn digwydd yn y llywodraeth, categoreiddio ysgolion, Comisiynydd wedi dangos diddordeb mewn ehangu remit i wneud mwy o waith hyrwyddo ac mae'r ddwy elfen yna yn bwysig. Yr elfen yn y canol sy'n pryderu fi.

"Mater o ddewis yw siarad Cymraeg… mae angen dwyn perswâd ar bobl i ddewis defnyddio'r Gymraeg.

"Ac wrth i gymunedau Cymraeg eu hiaith ddirywio mae angen mwy o sylw ar y broses yna o ddweud dyma beth yw manteision siarad Cymraeg."

'Shifft mawr wedi bod'

Yn ôl Comisiynydd Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mae modd dadlau bod Llywodraeth Cymru - sydd bellach â'r rôl o hyrwyddo'r iaith, ynghyd â swyddfa'r comisiynydd - yn "gorff mwy grymus i allu hybu a hyrwyddo" nag oedd Bwrdd yr Iaith.

"Dwi ddim yn meddwl 'mod i'n cytuno'n llwyr â Meirion Prys Jones nad oes dim byd wedi digwydd yn y ddegawd diwethaf," meddai ar Dros Frecwast fore Gwener.

"Yn sicr o ran y gwaith o ddatblygu darpariaethau cyrff cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg, dwi'n meddwl bod yna shifft mawr wedi bod.

"Dwi'n meddwl hefyd bod 'na waith wedi bod o ran datblygu agweddau ar addysg Gymraeg, ac yn y blaen, sydd ar y ffordd i fod yn llwyddiannus."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Fe wnaeth Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 gyfraniad pwysig wrth roi statws i'r Gymraeg, ei gwneud yn weledol ar draws Cymru, a chynyddu'r cyfleoedd i bobl ei defnyddio.

"Fe wnaeth baratoi'r tir ar gyfer cryfhau'r ddeddfwriaeth yn dilyn datganoli, gyda Mesur y Gymraeg 2011 yn rhoi hawliau cyfreithiol i siaradwyr Cymraeg a sefydlu Comisiynydd y Gymraeg i warchod yr hawliau hynny.

"Fel llywodraeth, mae gennym nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith erbyn 2050.

"I gyrraedd y nod yma, rydym wedi cyflwyno cynlluniau i gynyddu defnydd o'r iaith yn y cartref ac yn yr ysgol, datblygu cynllun gweithredu technoleg Cymraeg, sefydlu Comisiwn arbennig i edrych ar ddyfodol ein cymunedau Cymraeg, ac rydym yn gweithio ar Fil Addysg Gymraeg.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, waeth lle ydyn ni ar ein taith ieithyddol, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i weithio gyda'n gilydd i sicrhau ei dyfodol."