Nicky John: Gorbryder ar ôl canser Emi 'hefo ni am byth'
- Cyhoeddwyd
Bydd gêm bêl-droed arbennig yn cael ei chynnal ddydd Sul wrth i deulu un o wynebau cyfarwydd y bêl gron yng Nghymru ddiolch am driniaeth canser eu merch.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn enw Emi, merch cyflwynydd a sylwebydd Nicky John, i godi arian at Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.
Fe dderbyniodd Emi ddiagnosis o ganser ar yr arennau ym Mawrth 2022, a hithau ond yn flwydd oed.
Ond wedi derbyn cemotherapi, dywedodd Nicky - sydd fwyaf adnabyddus am gyflwyno rhaglenni Sgorio ar S4C - fod Emi yn gwneud yn "grêt", er ei bod yn parhau i gael ei monitro gan yr ysbyty yn Lerpwl.
"Ar hyn o bryd mae hi'n gwneud yn grêt ac yn rhedeg rings rownd ni yma," meddai Nicky ar raglen Dros Frecwast ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.
Cae-y-Castell yn Y Fflint fydd yn cynnal y gêm, rhwng rhai o gyn-chwaraewyr CPD Wrecsam a thîm o enwogion Uwch Gynghrair Cymru.
Ychwanegodd Nicky: "Mae hi wedi gorffen ei thriniaeth cemotherapi ers diwedd Mawrth felly 'da ni mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle 'da ni'n mynd bob tri mis i gael scans yn Alder Hey ac mae'r nesaf ym mis Rhagfyr.
"Ond mae hi'n gwneud yn grêt."
"Y diabetes ydi'r peth diweddaraf 'da ni'n delio hefo, felly mae hynny'n her wahanol.
"Ond 'da ni mor lwcus i fod yn sefyll lle rydan ni heddiw a weithiau mae edrych 'nôl ar y ffon ar luniau o le yr oeddan ni flwyddyn a hanner yn ôl yn agoriad llygad, ac yn atgoffa rhywun faint o heriol mae'r siwrna wedi bod a be' mae hi wedi bod drwyddo."
Yn wynebu ei gilydd yn Y Fflint brynhawn Sul fydd rhai o gyn-chwaraewyr CPD Wrecsam a Senseless FC, sef tîm yn cynnwys rhai o gyn-chwaraewyr Uwch Gynghrair Cymru.
"Mi ddoth cadeirydd Wrexham Legends, John Morris, ata'i a son rhai misoedd yn ôl bellach am ei gynlluniau i drefnu gêm rhwng rhai o gyn-wynebau Wrecsam a falle rhai o gyn-wynebau Uwch Gynghrair Cymru hefyd.
"Mae na ddipyn o sgyrsiau wedi bod, ac mi ofynnwyd os fyswn yn fodlon iddyn nhw ei chwarae yn enw Emi a bod unrhyw arian yn mynd at elusen o'n dewis ni fel teulu.
"Mae hynny'n amlwg yn rywbeth sy'n eich cyffwrdd chi ac yn reit emosiynol i ddweud y gwir, ond hefyd yn adlewyrchiad o sut mae pawb wedi bod yn meddwl amdanon ni ac yn dymuno'r gorau i ni yn ystod y flwyddyn a hanner diwetha'."
Dywedodd fod y dymuniadau hynny wedi cynnig cryfder i'r teulu mewn cyfnod anodd: "I fod yn hollol onest dim ond rŵan, yn ystod y cyfnod yma mae rhywun yn edrych nôl a sylweddoli pa mor anodd oedd beth aethon ni drwyddo fo.
"'Da ni mewn sefyllfa eithriadol o ffodus rwan lle 'da ni'n gallu edrych yn ôl a dweud fod ni wedi dod drwy hyn gobeithio, ond nid pawb sydd mor ffodus o gyrraedd y pwynt yma.
"A dwi'n meddwl fel rhiant hefyd, ar ôl bod drwy rhywbeth fel hyn, dwyt ti byth yn colli'r gor-bryder yna o boeni am fynd drwy rywbeth tebyg eto.
"Fydd hynny'n rywbeth fyddwn yn cario hefo ni am byth."
'Y teulu pêl-droed yng Nghymru'
Ychwanegodd Nicky fod y gefnogaeth gan deulu a ffrindiau, yn ogystal â'r gymuned bêl-droed yng Nghymru, wedi bod o gymorth iddyn nhw.
"Un peth sydd 'di dod a ni drwy'r holl beth ydi'r gefnogaeth 'da ni wedi ei gael.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae pobl wedi bod mor ffeind, mae 'na adegau, yn enwedig yn y dyddiau cynnar yna, doedd yr un bore neu nos lle oeddwn yn mynd i fy ngwely neu codi yn y bore heb llwyth o negeseuon gan bobl ar fy ffon, yn enwedig y teulu pêl-droed yma yng Nghymru 'de.
"Roedd prydau o fwyd yn cyrraedd y drws, bob mathau o bethau fel'na.
"Felly heb y gefnogaeth yma gan ffrindiau a theulu, a theulu ehangach y byd pêl-droed yng Nghymru, dwi ddim yn siwr sut fysan ni wedi goroesi, ond dwi mor ddiolchgar amdanyn nhw."
Bydd cic gyntaf y gêm ar Gae-y-Castell, Y Fflint, am 14:00 brynhawn Sul, 29 Hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022