Arestio dau ar amheuaeth o lofruddio dyn yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn Wrecsam.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn ardal Pentre Gwyn am tua 18:14 nos Lun, ond bu farw'r dyn 40 oed yn y fan a'r lle.
Mae'r ddau a gafodd eu harestio mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechn茂aeth tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd y Prif Arolygydd, Mark Hughes eu bod yn "cadw meddwl agored yngl欧n 芒'r amgylchiadau arweiniodd at y farwolaeth".
"Rydyn ni yn nyddiau cynnar yr ymchwiliad ar hyn o bryd, ond hoffwn bwysleisio nad ydyn ni'n credu bod yna unrhyw berygl ehangach i'r gymuned," meddai.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad, i gysylltu 芒 nhw.