Graffiti ar adeilad y 大象传媒 wedi protestiadau yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd y gair "liars" ei baentio ar ochr adeilad 大象传媒 Cymru yng nghanol Caerdydd yn ystod protest o blaid Palestina ddydd Sadwrn.
Dywedodd un o'r protestwyr fod y gwrthdystiad - oedd yn galw am gadoediad brys yn Gaza - wedi cael ei drefnu ar y cyd gan sawl gr诺p.
Roedd torfeydd wedi casglu ger cerflun Aneurin Bevan ar Stryd y Frenhines, cyn iddyn nhw orymdeithio lawr Heol y Santes Fair tuag at adeilad y 大象传媒.
Mae dynes 69 oed o Abertawe bellach wedi cael ei chyhuddo o achosi niwed troseddol
Mae disgwyl i Deidre Murphy ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ar 14 Tachwedd.
Roedd y brotest yn y brif ddinas yn un o nifer o ddigwyddiadau tebyg gafodd eu cynnal ar hyd y Deyrnas Unedig wrth i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ddwysau.
Mae Israel wedi bod yn cynnal cyrchoedd awyr dwys mewn ymateb i'r ymosodiadau gan Hamas ar 7 Hydref, pan gafodd 1,400 o bobl eu lladd.
Ers hynny mae'r Weinyddiaeth Iechyd yn Gaza yn dweud bod dros 7,500 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd.
Mae aelodau o'r pedair plaid yn Senedd Cymru wedi galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza.
Mae'r 大象传媒 wedi derbyn cais am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2023