Graffiti ar adeilad y 大象传媒 wedi protestiadau yng Nghaerdydd

Disgrifiad o'r llun, Bu cannoedd o bobl yn cymryd rhan yn y brotest oedd yn galw am gadoediad yn Gaza

Cafodd y gair "liars" ei baentio ar ochr adeilad 大象传媒 Cymru yng nghanol Caerdydd yn ystod protest o blaid Palestina ddydd Sadwrn.

Dywedodd un o'r protestwyr fod y gwrthdystiad - oedd yn galw am gadoediad brys yn Gaza - wedi cael ei drefnu ar y cyd gan sawl gr诺p.

Roedd torfeydd wedi casglu ger cerflun Aneurin Bevan ar Stryd y Frenhines, cyn iddyn nhw orymdeithio lawr Heol y Santes Fair tuag at adeilad y 大象传媒.

Mae dynes 69 oed o Abertawe bellach wedi cael ei chyhuddo o achosi niwed troseddol

Mae disgwyl i Deidre Murphy ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ar 14 Tachwedd.

Ffynhonnell y llun, JOEY WHITFIELD

Disgrifiad o'r llun, Graffiti ar adeilad y 大象传媒

Roedd y brotest yn y brif ddinas yn un o nifer o ddigwyddiadau tebyg gafodd eu cynnal ar hyd y Deyrnas Unedig wrth i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ddwysau.

Mae Israel wedi bod yn cynnal cyrchoedd awyr dwys mewn ymateb i'r ymosodiadau gan Hamas ar 7 Hydref, pan gafodd 1,400 o bobl eu lladd.

Ers hynny mae'r Weinyddiaeth Iechyd yn Gaza yn dweud bod dros 7,500 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd.

Disgrifiad o'r fideo, Y cyn-AS Bethan Sayed 'methu cysgu' oherwydd y sefyllfa yn Gaza

Mae aelodau o'r pedair plaid yn Senedd Cymru wedi galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza.

Mae'r 大象传媒 wedi derbyn cais am ymateb.