Ateb y Galw: Behnaz Akhgar
- Cyhoeddwyd
Y gyflwynwraig sy'n wyneb a llais cyfarwydd ar deledu a radio ´óÏó´«Ã½ Cymru, Behnaz Akhgar, sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Wel dwi'n cofio un atgof o pan o'n i yn y cot felly mae'n rhaid fy mod wedi bod tua dwy oed.
Roedd hi'n brynhawn poeth yn Shiraz (Iran) - aeth fy chwaer hŷn Vicky i nôl ffan i mi ac fe 'nath hi ddal ei bys yn y ffan. Dwi dal i gofio hi'n sgrechian.
Yn ffodus nath hi ddim colli ei bys yn y diwedd! Dwi methu credu mod i'n cofio hynny oherwydd dwi ddim yn dueddol i gofio llawer o fy mhlentyndod.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae'n rhaid i mi ddwued Three Cliffs Bay ar Benrhyn Gŵyr. Dyma'r darn cyntaf o'r nefoedd y cefais fy nghyflwyno iddo yn fy arddegau. Mae wastad yn braf ac yn dawel yno gan fod yn rhaid i chi ddringo lawr i'r traeth.
Fyddwn i ddim yn nofio yno oherwydd y cerrynt, ond mae'n lle gwych i fynd am dro neu i gael picnic. Dwi mor hoff o'r lle nes i mi hyd yn oed fynd â Derek Brockway yno ar gyfer ei gyfres Weatheman Walking.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae cymaint i'w ddewis, fel fy mhriodas sef y penwythnos cyntaf o ryddid ar ôl y lockdown neu'r noswaith gyntaf ddes i adref gyda fy mab.
Ond mae yna un noson eithaf random yn aros yn y cof.
Roeddwn i yn San Diego yn 2004 gyda fy chwaer yn ymweld â fy nheulu sy'n byw yno.
Roedden ni'n cael noson dawel mewn bar Gwyddelig yn y dref. Dywedais wrth fy nghefnder fy mod i eisiau bod mewn bar Americanaidd gan fod gennym gymaint o fariau Gwyddelig yn y DU! Hanner awr yn ddiweddarach roedd hi wedi ein gyrru ni i ffin Mecsico, a 'nathon ni gerdded drosodd - roedd y gwahaniaeth mewn golwg ac arogl yn ein hitio yn syth.
'Nath fy ngefnder roi pep talk i'n paratoi ni ar sut i gadw'n ddiogel, ac i ffwrdd â ni mewn tacsi i far lle'r oedd yn $5 i fynd i mewn, gyada'r holl ddiodydd wedi'u cynnwys yn hynny. Daeth y shots tequila un ar ol y llall. 'Naethon ni chwerthin cymaint a gorffen y noson gyda'r tacos anhygoel 'ma.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cwpan hanner llawn.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Byddai'n rhaid i hynny fod pan oeddwn i'n gwneud y tywydd yn fyw ym Mhenarth, a gwylan yn ysgarthu ar fy nhrwyn pan o'n i'n darlledu'n fyw ar y teledu.
Fe 'nes i gario 'mlaen yn gwneud yr adroddiad tywydd fel arfer tra roedd y baw yn rolio i lawr fy wyneb. O'n i methu dweud os mai baw neu glaw oedd o...
Dwi dal i chwerthin am y peth hyd heddiw.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rwy'n teimlo embaras yn hawdd iawn, ond does 'na ddim unrhyw beth mawr sy'n sefyll allan yn amlwg.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Deuddydd yn ôl. Roedd fy ffrind wedi ypsetio am farwolaeth ei mam, felly 'nath hynny effeithio arna i hefyd. Ond dwi'n crio drwy'r amser - ddim crio'n uchel, jest dagrau.
Dwi hyd yn oed yn gwneud hyn tra'n darlledu ar y radio weithiau!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mae gen i arferiad gwael iawn o godi o'r bwrdd bwyta a dechrau golchi llestri pan fydd fy ngwestai'n dal i fwyta.
Mae gen i gegin open plan ac rwy' dal yn teimlo'n rhan o'r sgwrs o'r gegin, ond fe ddylwn i aros yn fy sedd 'nes bod pawb wedi gorffen.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff lyfr yw Journeys of the Souls: Case Studies of life between lives, gan Michael Newton.
Roedd y llyfr hwn yn hynod ddiddorol i mi wrth iddo geisio esbonio beth sy'n digwydd i'r enaid pan fyddwn ni'n marw.
Fy hoff ffilm yw Inception. O'n i wrth fy modd yn dod allan a pheidio â deall beth ddigwyddodd ac yna ei wylio eto a cheisio gwneud synnwyr ohono.
O ran Podlediadau, rwyf wrth fy modd â Diary of a CEO with Steven Bartlett.
Mae ganddo westeion gwych a sgyrsiau cadarnhaol.
Rwy'n teimlo'n uplifted bob tro rwy'n gwrando ac fel arfer yn dysgu rhywbeth defnyddiol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Mae Oprah Winfrey yn fenyw mor anhygoel ac ysbrydoledig i mi. Rwy'n meddwl y byddai gennym lawer i siarad amdano - dwi'n meddwl amdani bron fel brenhines! Mi fyswn i hefyd yn gofyn iddi am awgrymiadau ar sut allaf wella fy hun.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rwy'n credu mewn aliens ac UFOs. Mae'r rhan fwyaf o bobl dwi'n siarad efo'n meddwl mod i'n wallgof!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mi fyswn i wrth fy modd yn mynd i Bora Bora, i fynd am dro hir a yna nofio yn y dŵr gwyrddlas 'na. Cael awyr y môr a bwyta bwyd môr blasus.
Yna gwylio'r haul yn codi… dwi byth yn cael yr amser i wylio'r byd yn mynd heibio felly byddwn i'n gwneud hynny am rai oriau.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Rwyf wrth fy modd â llun priodas Mam a Dad. Maen nhw'n edrych mor hyfryd ac oni bai amdanyn nhw fyddwn i ddim yma heddiw a bod y person ydw i.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Byddwn i wrth fy modd yn bod yn Beyoncé am ddiwrnod i weld o ble mae hi'n cael ei hegni a'i hysbrydoliaeth!