Traean o aelwydydd Cymru'n cael 拢300 ar gyfer help biliau
- Cyhoeddwyd
Bydd tua thraean o aelwydydd Cymru yn dechrau derbyn 拢300 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddydd Mawrth i'w helpu gyda'u biliau.
Mae 422,000 o aelwydydd yng Nghymru yn gymwys ar gyfer ail daliad costau byw Llywodraeth y DU, sy'n gyfanswm o 拢900 ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Bydd y rhai sydd 芒 hawl i'r taliad yn ei dderbyn yn awtomatig dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Mel Strides AS, yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau mai "mynd i'r afael 芒 chwyddiant yw'r ffordd orau o hybu incwm pobl".
Ychwanegodd: "Wrth i ni weithio i'w haneru, rydyn ni'n amddiffyn y cartrefi mwyaf bregus rhag prisiau uchel gyda'r taliad Costau Byw diweddaraf hwn."
Llai o gymorth ar gael eleni
Siroedd Blaenau Gwent a Merthyr sydd 芒'r gyfradd uchaf o aelwydydd sydd 芒 hawl i'r taliad yng Nghymru - y ddau bron ar 40% - tra mai Sir Fynwy yw'r isaf, gyda 21% yn gymwys.
Wrth groesawu'r taliad, mae elusen Sefydliad Bevan yn pryderu bod teuluoedd yn ei chael hi'n anoddach eleni, a bod llai o gymorth ar gael.
Dywedodd Dr Steffan Evans, pennaeth polisi y sefydliad: "Dangosodd arolwg a wnaethon ni dros yr haf fod un o bob saith o bobl yng Nghymru weithiau, yn aml, neu bob amser yn cael trafferth fforddio hanfodion.
"Y gaeaf diwethaf fe gafon ni gyd 拢66 oddi ar ein bil ynni bob mis. Dyw hynny ddim am fod yno eleni.
"Efallai mai hwn fydd y gaeaf cyntaf y bydd yn rhaid i ni dalu dwywaith cymaint am ein hynni nag a wnaethon ni cyn y rhyfel yn Wcr谩in.
"Mae'r holl bwysau yn mynd i ddod ar adeg pan nad yw lefel y gefnogaeth yn mynd i fod yn agos at yr hyn oedd y llynedd."
I fod yn gymwys ar gyfer y taliad roedd angen i unigolyn fod 芒 hawl i fudd-dal cymwys rhwng 18 Awst 2023 a 17 Medi 2023.
Fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, fod y llywodraeth wedi darparu cymorth o 拢3,300 ar gyfartaledd i gartrefi eleni a'r llynedd, ond mae Sefydliad Bevan yn dadlau fod angen i'r llywodraeth edrych ar atebion hirdymor.
Mae'r elusen yn galw am gynyddu budd-daliadau, sicrhau bod pobl yn medru gweithio digon o oriau i ennill cyflog teilwng a lleihau'r pwysau mae talu am ynni a thai yn rhoi ar aelwydydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2023