大象传媒

Storm Ciar谩n: Rhybuddion am wynt a glaw i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Cae p锚l-droed Abergwili ger Caerfyrddin o dan dd诺r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cae p锚l-droed Abergwili ger Caerfyrddin o dan dd诺r brynhawn Mercher

Mae awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys yn rhybuddio'r cyhoedd i ddisgwyl gwyntoedd cryfion a glaw trwm wrth i Storm Ciar谩n daro Cymru.

Mae nifer o rybuddion tywydd wedi dod i rym yng Nghymru o ddiwedd prynhawn Mercher ymlaen.

Gallai hyrddiau o hyd at 70mya (110km/h) achosi trafferthion teithio a difrod i adeiladau, gyda rhagolygon yn dweud y gall rhai ardaloedd weld hyd at 80mm (3.1 modfedd) o law.

Mae un rhybudd difrifol o lifogydd - - wedi ei gyhoeddi ar gyfer Afon Ritec yn Ninbych-y-Pysgod.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod hyn "yn cynnwys Safle Gwyliau Kiln Park sydd eisoes wedi profi llifogydd ac sydd eisoes yn gwac谩u gwesteion".

Ffynhonnell y llun, Kirk Merrick
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl wedi gorfod gadael Safle Gwyliau Kiln Park yn Ninbych-y-pysgod am ei fod eisoes dan dd诺r

Dywedodd Katie Walters, 33 o Bort Talbot, oedd yn aros yn Kiln Park gyda'i g诺r a thri o blant, eu bod wedi cael "cnoc ar ddrws y garafan am 14:30".

"Dywedodd y staff bod y parc dan dd诺r, mae storm ar y ffordd, dy'n ni angen i chi adael," meddai.

"Mae mwyafrif y parc dan dd诺r, ac mae'n mynd i godi, felly maen nhw ar gau nawr tan ddydd Llun, gyda phob booking dros y dyddiau nesaf wedi'u canslo."

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhybudd am law mewn grym i Gymru gyfan, a rhybudd gwynt i rannau o'r de a'r gorllewin

Mae rhybudd melyn am law trwm yn weithredol ers 18:00 ddydd Mercher ar gyfer Cymru gyfan, ac yna rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau o'r de o 21:00 ymlaen.

Fe fydd y ddau rybudd yna mewn grym trwy gydol dydd Iau hefyd, tan hanner nos.

Mae'r RNLI yn rhybuddio apelio ar bobl i gymryd pwyll arbennig mewn ardaloedd arfordirol gan fod bod disgwyl gwyntoedd cryfion a thonnau mawr.

"Er mor apelgar gallai fod i fynd allan a phrofi'r tywydd, oherwydd y gwyntoedd cryf sy'n cael eu darogan rydym yn cynghori'n gryf rhag gwneud hynny," dywedodd Chris Cousens, arweinydd materion diogelwch d诺r yr RNLI yng Nghymru.

"Arhoswch bellter diogel o ymyl clogwyni, pierau a lan y m么r."

Canslo trenau ddydd Iau

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd gwasanaethau yn rhedeg ar linellau Calon Cymru na Dyffryn Conwy ddydd Iau, a bydd llai o wasanaethu ar linell y Cambrian.

Mae'r cwmni yn cynghori teithwyr i wirio'r amserlen cyn teithio.

Disgrifiad,

Mae d诺r eisoes wedi mynd i mewn i rai cartrefi yn Sir G芒r hyd yn oed cyn i Storm Ciar谩n daro

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi eu bod yn gweithredu protocol brys o ganlyniad i'r tywydd garw.

Bydd y cyngor yn agor lloches argyfwng i bobl sy'n cysgu y tu allan o 19:00 nos Fercher tan 08:00 fore Iau.

Mae trafferthion pellach yn bosib mewn mannau ble mae'r tir eisoes yn wlyb iawn wedi stormydd mawr cyntaf yr hydref.

Yn Sir Gaerfyrddin, bu'n rhaid cau ffordd rhwng Cynwyl Elfed a Threfechan yn dilyn tirlithriad, ac fe lifodd d诺r i nifer o dai ym mhentref Bronwydd.

Mae Cyngor Sir G芒r yn "annog pob defnyddiwr ffordd a cherddwyr i gymryd pwyll ychwanegol wrth deithio yn y dyddiau nesaf".

'Afonydd eisoes yn uchel'

Er taw yn ne Cymru y mae disgwyl y cawodydd gwaethaf, dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod disgwyl glaw trwm yn "rhannau helaeth o Gymru".

Ychwanegodd y gallai hynny "achosi i afonydd sydd eisoes yn uchel godi'n gyflym wrth i'r glaw daro tir llawn d诺r".

Mae CNC wedi cyhoeddi yn y de-orllewin.

Pynciau cysylltiedig