´óÏó´«Ã½

Llywodraeth 'wedi gadael teulu ni lawr yn ddychrynllyd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Maldwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maldwyn Jones wedi'i siomi a'i ddychryn gan y dystiolaeth yn yr ymchwiliad

Mae gŵr a gollodd ei wraig o Covid, ac sy'n dioddef o Covid hir ei hun, yn dweud ei fod wedi dychryn o glywed tystiolaeth sydd wedi'i roi i'r ymchwiliad cyhoeddus i'r pandemig yr wythnos hon.

Ar Dros Frecwast, bu Maldwyn Jones o'r Felinheli, Gwynedd yn ymateb i'r dystiolaeth gafodd ei roi gan - ymysg eraill - gyn-ymgynghorydd Llywodraeth y DU, Dominic Cummings.

Dros y dyddiau diwethaf, mae'r ymchwiliad wedi clywed am y camweithredu oedd yn Downing Street ar y pryd - gyda Mr Cummings yn disgrifio "anhrefn llwyr" o dan y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson.

Bu farw gwraig Maldwyn, Heather, o Covid fis Ebrill 2020, yn 82 mlwydd oed ac mae yntau yn dal i ddioddef o sgil effeithiau Covid hir.

"Dwi'n teimlo oeddan nhw 'di gadael ni lawr yn ddychrynllyd," meddai Mr Jones.

Wrth wrando ar dystiolaeth Mr Cummings, fe gafodd ei synnu gyda'r iaith liwgar gafodd ei defnyddio.

"O'n i 'di dychryn efo un peth… gwrando arnyn nhw'n siarad, yr araith anweddus roedden nhw'n gyrru o'r naill i'r llall… Oedd o'n warthus."

Roedd Mr Jones wedi gwylltio o ystyried profiad ei deulu ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw, Heather, gwraig Maldwyn Jones, yn Ebrill 2020

"Mynd i gladdu'r wraig a 'mond wyth o bobl, hanner awr a dyna fo, ac oedden ni o'na. Ac roedd y rhain yn cael partïon ac ati.

"Oedd Dominic Cummings yn mynd 200 o filltiroedd ar y trên i gael testio'i lygada'."

Fe glywodd yr ymchwiliad ddarnau o ddyddiadur y prif ymgynghorydd gwyddonol, Syr Patrick Vallance, o Ragfyr 2020, lle dywedodd fod Mr Johnson "ag obsesiwn gyda phobl hŷn yn derbyn eu tynged a gadael i'r ifanc fwrw ymlaen â bywyd".

Mewn cofnod arall o fis Rhagfyr 2020, ysgrifennodd Syr Patrick fod Mr Johnson wedi dweud bod ei blaid yn "meddwl bod yr holl beth yn pathetig a Covid yn ffordd natur yn unig o ddelio â hen bobl - a dwi ddim yn hollol siŵr fy mod i'n anghytuno â nhw".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu mewn cyfnod hapusach

Bydd y cyn-brif weinidog, Boris Johnson yn rhoi tystiolaeth yn yr wythnosau nesaf.

Yn y cyfamser, mae Mr Jones yn dal i ddioddef o sgil effeithiau Covid hir, fel colli'i wynt.

Mae'n dal i ganmol y gofal a'r cymorth gafodd o a'i deulu ar y pryd gan staff meddygol.

"Y bobl sy 'di tynnu ni drwodd ydy'r meddygon a'r nyrsys a'r staff yn yr ysbytai, llefydd fel Hafan Iechyd yng Nghaernarfon aeth allan o'u ffordd i helpu pobl tra bod hyn yn mynd ymlaen," meddai.

"Hebddyn nhw, fysan ni heb 'di tynnu drwodd."