Gaza: Galw ar arweinwyr crefyddol i annog datrysiad
- Cyhoeddwyd
Yn 么l Archesgob Cymru, y Gwir Barchedicaf Andrew John, mae angen i unrhyw ddatrysiad yn y Dwyrain Canol rhwng Israel a Gaza gynnwys arweinwyr crefyddol o sawl cred.
Roedd yn ymateb i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Israel ers i luoedd Hamas ymosod ar 7 Hydref gan ladd 1,400 o bobl a chymryd 240 o wystlon.
Ers hynny mae lluoedd Israel wedi ymateb ac ymosod ar Gaza, gyda'r adroddiadau diweddaraf yn dweud bod dros 8,000 o bobl wedi eu lladd yn Gaza.
Mae'r ymosodiadau yn Israel wedi cael effaith ar Esgobion yr Eglwys yng Nghymru ac maen nhw wedi rhyddhau datganiad ar y cyd.
Yn y datganiad maen nhw yn s么n eu bod wedi "eu herio gan yr erchylltra a'r trais a welwyd yn Israel a Gaza yn y mis diwethaf".
"Bydd dioddefaint gwystlon a'r trawma a achoswyd i blant a theuluoedd cyffredin eisoes yn parhau am flynyddoedd tu hwnt i'r gwrthdaro hwn."
Blynyddoedd o densiwn
Fe wnaeth Archesgob Cymru ymweld ag Israel a Gaza ym mis Mai eleni.
Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast Radio Cymru ddydd Iau dywedodd bod y tensiwn yno yn enfawr bryd hynny, ac mai dyna sydd wedi arwain at y brwydro diweddaraf.
"Yr hyn 'da ni yn ei weld heddiw ydi canlyniad y tensiynau sydd wedi bod yna ers blynyddoedd," meddai.
"Pan o'n i yno oedd hi'n bosib siarad 芒 phobl o bedwar ban byd bron, a phawb yn dweud bod y tensiynau yn cynyddu a hynny am nad oedd 'na unrhyw gynllun ar gyfer sicrhau gwlad ar gyfer Palestiniaid na datrys y problemau sydd wedi bod yna ers blynyddoedd."
Eglurodd bod Gaza yn le anodd iawn am sawl rheswm - nifer y rhai sy'n byw yno a'r gwaith papur sydd ei angen i fynd i mewn.
"Ond wrth gwrs, mae 'na broblemau arferol hefyd fel tlodi, sy'n broblem enfawr yn Gaza," meddai.
"Mae pobl yn byw eu bywydau o dan gysgod y posibilrwydd o ryfel bob dydd, a'r tensiynau yn fywiog yno."
Dyletswydd arweinwyr crefyddol
Aeth ymlaen i ddweud, gan ei bod yn ardal mor bwysig i gymaint o grefyddau gwahanol a bod tensiynau hanesyddol yn rhan o'r broblem, bod 'na ddyletswydd ar yr arweinwyr crefyddol ar y ddwy ochr i fod yn rhan o'r datrysiad.
"Os ydi pobl grefyddol yn rhan o'r broblem, mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r datrysiad hefyd," meddai.
"Wrth gwrs, rhaid delio efo'r rhai sy'n dal credoau gwahanol a'r ffordd maen nhw yn delio efo'i gilydd.
"Does 'na ddim fframwaith i gael y drafodaeth sy'n real a bod datrysiad ar yr agenda.
"Dwi ddim yn bositif ar hyn o bryd, ond os oes 'na unrhyw ddatrysiad, mae'n rhaid iddo gynnwys dealltwriaeth newydd ymhlith y prif grefyddau, yn Gristnogion, Mwslemiaid ac Iddewon hefyd."
Ar hyn o bryd dywedodd mai anodd iawn ydi hi i unrhyw un gael dylanwad, ond roedd yn obeithiol am gael oedi yn y rhyfel, a allai efallai arwain at gadoediad ac yna trafodaethau.
"Mae 'na s么n am gynllun wedi bod yn y gorffennol ond mae angen sicrhau bod unrhyw gynllun newydd yn cael cymorth ac ewyllys da a bod unrhyw gynllun yn cynnwys datrysiad sy'n cynnwys Palestiniaid," ychwanegodd.
O ran datganiad yr Esgobion, dywedodd mai eu prif fwriad oedd cydnabod bod Hamas wedi bod yn gyfrifol am yr ymosodiadau, ond hefyd bod y rhan fwyaf o bobl Gaza am gael cymorth gyda meddygaeth, d诺r glan, a bwyd yn prinhau.
Ymhlith yr hyn maen nhw'n ei annog mae:
Cydnabyddiaeth gan bawb na fedr cyfiawnhau gweithredoedd Hamas ar 7 Hydref;
Cydnabyddiaeth gan Wladwriaeth Israel na fedr seilio heddwch yn y Dwyrain Canol ar sylfeini dial, trais a dioddefaint pobl ddiniwed;
Cydnabyddiaeth gan Israeliaid Iddewig a Phalestiniaid Mwslim a Christnogol na all eu ffyniant ei hun gael ei seilio ar drallod eu gelynion;
Saib yn yr ymosodiadau yn Gaza i ganiat谩u i gyflenwadau angenrheidiol gyrraedd y rhai sydd yn yr angen mwyaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2023