大象传媒

Cymru v Barbariaid: Ymddangosiad cyntaf i Fairbrother

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Leigh Halfpenny yn 'un o'r bois mwya' proffesiynol', meddai Jac Morgan

Bydd y prop Lloyd Fairbrother yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Fe fydd Fairbrother yn dechrau, gyda Harri O'Connor hefyd i wneud ei ymddangosiad cyntaf oddi ar y fainc, am fod pum prop pen-tynn yn absennol i Gymru yn sgil anafiadau neu ymrwymiadau i'w clybiau.

Bydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn dechrau yn ei ymddangosiad olaf dros ei wlad.

Dim ond pedwar o'r t卯m a wynebodd Ariannin yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd fydd yn chwarae i'r crysau cochion ddydd Sadwrn, sef Jac Morgan, George North, Adam Beard ac Aaron Wainwright.

Nid yw chwaraewyr clybiau o Loegr, Ffrainc a Japan ar gael ar gyfer y g锚m, sy'n cynnwys Liam Williams, Gareth Anscombe, Nick Tompkins, Louis Rees-Zammit, Henry Thomas, Dillon Lewis, Tomas Francis, Will Rowlands, Christ Tshiunza, Dafydd Jenkins a Tommy Reffell.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lloyd Fairbrother, 31, wedi cynrychioli'r Dreigiau ers 2014

Mae'r maswr Dan Biggar wedi ymddeol tra bod Taulupe Faletau, Gareth Thomas a Ryan Elias wedi'u hanafu.

Fe ymunodd Fairbrother, sy'n 31 ac yn enedigol o Gernyw, 芒'r Dreigiau yn 2014 ac mae wedi ymddangos 166 o weithiau i'r rhanbarth.

Nid yw O'Connor, 23, wedi ennill cap eto chwaith, ond fe deithiodd gyda charfan Cymru i Dde Affrica yn haf 2022.

Halfpenny yn ffarwelio 芒'r llwyfan rhyngwladol

Bydd Halfpenny yn ffarwelio 芒'r llwyfan rhyngwladol ddydd Sadwrn wedi gyrfa o 15 mlynedd.

Hyd yma mae wedi sgorio 801 o bwyntiau mewn 101 o gemau i Gymru.

Bydd yn parhau i chwarae ar lefel clwb, ac mae disgwyl iddo o ymuno 芒'r Crusaders yn Seland Newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydd Sadwrn fydd g锚m ryngwladol olaf Leigh Halfpenny

Mae carfan y Barbariaid yn cynnwys Alun Wyn Jones a Justin Tipuric.

Fe wnaeth y ddau ymddeol o rygbi rhyngwladol ar yr un diwrnod yn gynharach eleni 2023.

Eddie Jones - sydd newydd adael ei r么l fel prif hyfforddwr Awstralia - sydd wrth y llyw i'r Barbariaid.

Y timau

Cymru: Leigh Halfpenny; Tom Rogers, George North, Johnny Williams, Rio Dyer; Sam Costelow, Tomos Williams; Corey Domachowski, Dewi Lake, Lloyd Fairbrother, Ben Carter, Adam Beard, Dan Lydiate, Jac Morgan (capt), Aaron Wainwright.

Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Harri O'Connor, Teddy Williams, Taine Plumtree, Kieran Hardy, Cai Evans, Mason Grady.

Barbariaid: Ilasia Droasese (Fiji); Shaun Stevenson (Seland Newydd), Len Ikitau (Awstralia), Izaia Perese (Awstralia), Selestino Ravutaumada (Fiji); Nicolas Sanchez (Ariannin), Simione Kuruvoli (Fiji); Joe Moody (Seland Newydd), Tevita Ikanivere (Fiji), Taniela Tupou (Awstralia), Rob Leota (Awstralia), Alun Wyn Jones (Cymru, capt) Justin Tipuric (Cymru), Michael Hooper (Awstralia), Rob Valetini (Awstralia).

Eilyddion: Angus Bell (Awstralia), Asafo Aumua (Seland Newydd), Peni Ravai (Fiji), Api Ratuniyarawa (Fiji), Tom Hooper (Awstralia), Lautaro Bazan Velez (Ariannin), Ben Donaldson (Awstralia), Andrew Kellaway (Awstralia).