大象传媒

Branwen: 'Cynhyrchiad Cymraeg mwyaf Canolfan y Mileniwm'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae hi'n gyfnod "cyffrous ac arswydus" yn 么l un o'r awduron, Elgan Rhys

Mae'r cynhyrchiad theatr iaith Gymraeg mwyaf erioed i gael ei lwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm yn agor nos Fercher.

Mae'r sioe gerdd Branwen: Dadeni yn gyd-gynhyrchiad rhwng Cwmni'r Fr芒n Wen a Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Bydd y sioe - sy'n ailddychmygu un o'n chwedlau mwyaf adnabyddus - hefyd yn cael ei pherfformio yn Aberystwyth a Bangor.

Yn 么l Elgan Rhys, un o awduron y sioe, mae hi'n gyfnod "cyffrous ac arswydus", ond mae'n "hyderus iawn y bydd pobl yn cael profiad bythgofiadwy".

Cafodd y sioe ei hysgrifennu ar y cyd gan Hanna Jarman, Gethin Evans, Seiriol Davies ac Elgan Rhys.

Ffynhonnell y llun, Canolfan y Mileniwm
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mared Williams sy'n chwarae rhan Branwen yn y cynhyrchiad newydd

Ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru, fe soniodd Mr Rhys yngl欧n 芒'r hyn wnaeth ysbrydoli'r awduron.

"'Nath yr holl beth ddechrau ryw bedair blynedd yn 么l pan ddaeth y pedwar ohonom ni at ein gilydd i drafod ein huchelgais ni i greu rhywbeth uchelgeisiol, oedd yn dechrau efo stori Branwen," meddai.

"Roedd y pedwar ohonom ni yn awyddus iawn i greu rhywbeth beiddgar, hyderus a dewr oedd yn adlewyrchiad o gelfyddyd Gymreig."

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cast ymarfer olaf o flaen cynulleidfa nos Fawrth cyn agor yn swyddogol nos Fercher

Mae'r sioe yn teithio ar hyd Cymru, ac mae llefarydd ar ran Canolfan y Mileniwm wedi cadarnhau mai dyma yw'r cynhyrchiad mwyaf iddyn nhw ei lwyfannu yn yr iaith Gymraeg.

Mae'r cast yn cynnwys nifer o enwau cyfarwydd gan gynnwys Mared Williams, Tomos Eames a Gillian Elisa.

'Moment hasesyddol'

"Fe wnaethon ni ymdrochi ein hunain yn y stori, yn y fersiynau sy' wedi bod, ac mi oedd diddordeb gennym ni yn ei ail diffinio hi, a dod a hi i heddiw.

"Mae'r Mabinogi yn straeon enfawr ac yn epig yng ngwir ystyr y gair... them芒u mawr, cymeriadau mawr - yn llythrennol - ac mi oedd gwneud sioe gerdd yn teimlo'n addas oherwydd hynny.

"Mae sioe gerdd fel arddull yn cynnig ei hun i ofod mawr fel yna, ac i gynulleidfa fawr... ond 'da ni'n trio peidio cael ein harswydo gan y pwysau yna hefyd!"

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymhlith y cast mae'r actores Gillian Elisa

Ychydig iawn o docynnau oedd ar 么l ar gyfer y perfformiadau yng Nghaerdydd erbyn bore Mercher.

Dywedodd canolfan Pontio ym Mangor bod ail berfformiad a gafodd ei ychwanegu ar 么l gwerthu pob tocyn i'r sioe wreiddiol bellach wedi gwerthu hefyd.

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gethin Evans yw cyfarwyddwr y sioe, sy'n gyd-gynhyrchiad rhwng Cwmni'r Fr芒n Wen a Chanolfan y Mileniwm

Ychwanegodd Mr Rhys: "'Da ni'n teimlo'n ffodus iawn, ac yn gweld hi'n fraint i fod yn rhan o rywbeth sy'n teimlo fel moment hanesyddol.

"Mae hi'n really calonogol i weld bo' 'na awch gan gynulleidfaoedd Cymraeg i weld gwaith fel hyn ar y raddfa yma.

"Mae'r tocynnau yn Pontio ac Aberystwyth wedi gwerthu allan eisoes, ac mae'r tocynnau yn y Donald Gordon ar eu ffordd i werthu allan."

Pynciau cysylltiedig