Brennan Johnson yn 么l i Gymru i wynebu Armenia a Thwrci
- Cyhoeddwyd
Mae Brennan Johnson yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer dwy g锚m dyngedfennol yn eu hymgais i gyrraedd Euro 2024.
Fe fethodd ymosodwr Tottenham Hotspur y fuddugoliaeth ym mis Hydref yn erbyn Croatia.
Ond gydag Aaron Ramsey yn parhau i fod yn absennol o'r garfan oherwydd anaf, mae Ben Davies yn cadw'r gapteniaeth.
Bydd Cymru'n llwyddo i gyrraedd Euro 2024 os ydyn nhw'n ennill y ddwy g锚m, gan ddechrau yn erbyn Armenia yn Yerevan ar 18 Tachwedd.
Yna bydd t卯m Robert Page yn wynebu arweinwyr y gr诺p, Twrci, yng Nghaerdydd.
Mae Joe Morrell hefyd yn dychwelyd yn dilyn gwaharddiad, ac mae lle yn y garfan am y tro cyntaf i amddiffynnwr Sunderland, Niall Huggins.
Y garfan yn llawn
Wayne Hennessey (Nottingham Forest), Danny Ward (Leicester City), Tom King (Wolves);
Ben Davies (Tottenham Hotspur), Joe Rodon (Leeds - ar fenthyg o Tottenham Hotspur), Tom Lockyer (Luton), Chris Mepham (Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley), Niall Huggins (Sunderland);
Ethan Ampadu (Leeds), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Birmingham), Joe Morrell (Portsmouth), Harry Wilson (Fulham), David Brooks (Bournemouth), Dan James (Leeds), Nathan Broadhead (Ipswich);
Liam Cullen (Abertawe), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Kieffer Moore (Bournemouth), Tom Bradshaw (Millwall).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2023