大象传媒

Dyn wedi ei ladd gan fuwch wnaeth ddianc o fart Hendy-gwyn

  • Cyhoeddwyd
Huw EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Huw Evans yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Bu farw dyn ar 么l cael ei sathru gan fuwch oedd wedi dianc o farchnad gyfagos, mae cwest wedi clywed.

Roedd Huw Evans, 75, yn croesi'r ffordd yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin ar 19 Tachwedd 2022 pan wynebodd fuwch a oedd "wedi cynhyrfu'n fawr".

Clywodd Llys Crwner Llanelli fod y cyn-weithiwr cyngor wedi dioddef sawl anaf difrifol a bu farw yn yr ysbyty chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Ers y digwyddiad mae Mart Hendy-gwyn, sy'n farchnad da byw, wedi gosod grid gwartheg.

Clywodd y cwest i Mr Evans, a gafodd ei ddisgrifio fel tad a thad-cu annwyl, gael ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r digwyddiad.

Roedd y fuwch, brid Limousin brown naw oed, wedi dianc wrth gael ei dadlwytho o drelar yn y farchnad.

Fe ddarllenwyd datganiadau gan dystion, gan gynnwys perchennog y fuwch Paula Wilson, a ddywedodd ei bod yn "ofidus iawn" am yr hyn ddigwyddodd i Mr Evans ac i'r fuwch, a gafodd ei saethu gan yr heddlu.

Dywedodd nad oedd y fuwch "wedi cynhyrfu" pan gafodd ei llwytho er mwyn ei chludo.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y fuwch ddianc o farchnad Hendy-gwyn

Disgrifiodd Elgan Rees Williams, porthmon gyda 36 mlynedd o brofiad, sut yr aeth y fuwch "yn wyllt" wrth iddo a'i gydweithiwr, Gordon Silwyn George, baratoi i'w dadlwytho.

"Gwthiodd hi'r gi芒t, plygu'r gi芒t a hedfan allan," meddai Mr Williams wrth y gwrandawiad.

"Rhedodd hi allan yn syth am y ffordd... Fe geision ni ei rhwystro, roedd tri neu bedwar ohonom wrthi erbyn hynny."

'Gyda'i phen i lawr fel petai'n mynd amdanon ni'

Disgrifiodd Mr Williams sut y dilynon nhw'r fuwch i Hendy-gwyn ar Daf a cheisio ei chau i iard yr orsaf d芒n ond fe lwyddodd i ddianc drwy gi芒t gefn cyn ymosod ar Mr Evans.

Dywedodd nad oedd erioed wedi gweld buwch yn ymddwyn yn y fath fodd.

Clywodd y cwest i Mr George gael ei daflu ar gefn tryc gan y fuwch wrth iddo geisio ei rhwystro rhag rhedeg at y ffordd fawr.

Dywedodd Sian Murrow, sydd hefyd yn borthmon, fod y fuwch wedi rhedeg tuag at siop y Co-op yn Hendy-gwyn ar Daf ar 么l dianc o iard yr orsaf d芒n.

"Fe welon ni'r fuwch yn rhedeg i'n cyfeiriad gyda'i phen i lawr fel petai'n mynd amdanon ni," meddai.

"Fe redon ni'n 么l i osgoi cael ein taro gan y fuwch. Gwelais ddyn oedrannus yn croesi'r ffordd.

"Ar y pwynt yma, roedd y dyn hanner ffordd ar draws y ffordd. Gwelais y fuwch yn mynd amdano... roedd [y fuwch] mewn cyflwr hynod gynhyrfus."

Gosod grid gwartheg yn y mart

Daeth y rheithgor i'r casgliad bod marwolaeth Mr Evans wedi ei achosi gan niwmonia, sawl toriad i'w asennau, anafiadau sathru gan y fuwch, ailchwydiad [regurgitation], methiant arennol a henaint.

Dywedodd Finley Harrison, o'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, fod Mart Hendy-gwyn ar Daf wedi derbyn hysbysiad ffurfiol i osod grid gwartheg yn dilyn y digwyddiad, ac roedd wedi gwneud hynny.

"Roedd yna gydweithrediad llawn," ychwanegodd Mr Harrison.