大象传媒

Gollwng d诺r heb ei drin yn 'anochel', medd D诺r Cymru

  • Cyhoeddwyd
Afon Teifi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l data D诺r Cymru, y Teifi yw un o'r afonydd mwyaf llygredig yng Nghymru

Roedd gollwng d诺r heb ei drin yn anghyfreithlon o rwydwaith D诺r Cymru yn "anochel" o ystyried maint ac oedran ei seilwaith, meddai penaethiaid y cwmni.

Fis diwethaf fe gyfaddefodd D诺r Cymru eu bod wedi torri dwsinau o drwyddedau.

Ond yn y Senedd ddydd Iau, mynnodd eu prif weithredwr Peter Perry fod y cwmni wedi bod yn "agored a thryloyw".

Ac eto cyhuddodd prif weithredwr y rheoleiddiwr d诺r Ofwat y cwmni o fod yn "llawer llai uchelgeisiol" na chwmn茂au yn Lloegr wrth leihau lefel a nifer gollyngiadau carthion.

Dywedodd David Black wrth bwyllgor amgylchedd y Senedd nad oes gan D诺r Cymru "mewn gwirionedd gynllun a fydd yn sicrhau gostyngiadau ystyrlon erbyn 2030".

Ychwanegodd bod gan y cwmni "faterion mawr i fynd i'r afael 芒 nhw o ran buddsoddi mewn d诺r gwastraff" ac "o ran gwella gwytnwch eu rhwydweithiau a systemau triniaeth".

Holwyd prif weithredwr y cwmni, Mr Perry, am ollwng d诺r heb ei drin yn anghyfreithlon o orlifau carthffosydd cyfun a dywedodd fod y trwyddedau a dorrwyd yn cyfateb i tua 6% o'r 3,500 o drwyddedau sydd ganddo.

"Gyda'r nifer hwnnw o drwyddedau, gyda 36,000 cilomedr o garthffosydd, 830 o weithfeydd carthffosiaeth, 2,500 o orsafoedd pwmpio, a 2,500 o orlifiadau carthffosydd cyfun, mae'n anochel gyda seilwaith amherffaith rydych chi'n mynd i ddod o hyd i bethau," meddai.

"Ond rydyn ni wastad wedi cael polisi o fod yn gwbl agored a thryloyw. Pan rydyn ni'n dod o hyd i'r problemau hynny rydyn ni'n tynnu sylw atynt."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae biliau D诺r Cymru ymhlith yr uchaf yng Nghymru a Lloegr

Roedd Mr Perry yn cydnabod fod yr achosion o dorri amodau trwydded yn anghyfreithlon, ond ychwanegodd nad oedd y cwmni erioed wedi ymddwyn mewn ffordd "lechwraidd".

Eglurodd fod buddsoddiad yn ei le i wneud y gwelliannau angenrheidiol erbyn 2030.

Gofynnwyd iddo hefyd am berfformiad ehangach D诺r Cymru ar 么l i sg么r y cwmni gael ei israddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'u disgrifio fel cwmni "ar ei h么l hi" gan Ofwat.

'Siomedig iawn'

Dywedodd Mr Perry fod y cwmni'n "siomedig iawn" i gael eu gradd wedi'i hisraddio ond bod cynlluniau ar y gweill i "adfer ein perfformiad".

Roedd yn credu bod anawsterau'r cwmni oherwydd eu seilwaith sy'n heneiddio ac effaith newid hinsawdd.

Dywedodd prif swyddog ariannol D诺r Cymru, Mike Davis, wrth y pwyllgor fod y cwmni yn buddsoddi 拢3.5bn erbyn 2030.

Cafodd y ffigwr hwnnw ei gwestiynu'n ddiweddarach gan uwch swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Mr Davis y gallai'r cwmni d诺r fuddsoddi mwy ond bod angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o'r effaith ar filiau cwsmeriaid.

"Mae ein biliau yn uchel. Rydym yn gwasanaethu rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn unrhyw le yng Nghymru neu Loegr," meddai Mr Davis.

"Mae'n rhaid i gynnydd mewn biliau fod yn gydbwysedd i ni ac os edrychwch chi ar y codiadau biliau rydyn ni wedi'u cynnig o gymharu 芒 chwmn茂au eraill, maen nhw'n llawer mwy cymedrol.

"Oherwydd y cyfaddawd hwnnw y mae'n rhaid i ni wneud," meddai.

Esboniodd Mr Davis hefyd y byddai'r arian sy'n cael ei wario yn cael ei adennill dros 25 mlynedd "felly mae effaith y bil gwirioneddol yn eithaf bach".

Mae biliau D诺r Cymru ymhlith yr uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Mr Davis mai'r rheswm pennaf am hynny oedd y diffyg buddsoddiad hanesyddol mewn trin carthion arfordirol sy'n effeithio'n benodol ar D诺r Cymru.

Gwadodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddarach nad oedd wedi llwyddo i ddal "traed D诺r Cymru i'r t芒n".

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, Gareth O'Shea, fod y prosesau a ddilynodd yn gyfrifol am i'r cwmni d诺r ymrwymo i'w rhaglen fuddsoddi "fwyaf eto".

Ond ychwanegodd: "Byddwn i'n dweud ffigwr o 拢1.2bn o fuddsoddiad cyfalaf.

"Rwy'n gwybod pam y byddai'r cwmni d诺r yn defnyddio ffigwr o dri a hanner [拢3.5bn] oherwydd y byddent yn cynnwys cynnal a chadw, ond mae hynny ar y lefel uchaf erioed i ddelio 芒 rhai o'r problemau, a'r broses reoleiddio honno sydd wedi cyflawni hynny."

Pynciau cysylltiedig