大象传媒

Disgyblion Sir G芒r yn taclo heriau amgylcheddol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Max o Ysgol Bryngwyn o flaen posteri amgylecheddol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Max o Ysgol Bryngwyn yn un o 400 o blant ar draws Sir G芒r sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun

Mae criw o bobl ifanc o Sir Gaerfyrddin wedi bod yn ceisio llunio atebion ymarferol i rai o'n problemau amgylcheddol mwyaf mewn cystadleuaeth yn yr Ardd Fotaneg yng Nghaerfyrddin.

Cafodd 24 o ddisgyblion eu dewis i gymryd rhan mewn "sialens fawr" sydd wedi cael ei drefnu gan fenter addysgiadol Cymbrogi.

Nod y fenter yw hyfforddi a meithrin pobl ifanc fel y gall Cymru gyrraedd dyfodol Sero Net.

Bu'r disgyblion yn cyflwyno eu syniadau i banel arbennig mewn digwyddiad sy'n cael ei lwyfannu gan gwmni gwastraff Cwm Environmental.

Mae'r disgyblion sydd wedi cyrraedd yr her derfynol yn gorfod ymateb i un o dri her bosib a pharatoi cyflwyniadau yn amlinellu eu syniadau:

  • Gwastraff Feps Electronig: Sut mae lleihau effaith e-sigarennau ar yr amgylchedd ac iechyd pobl?

  • Ynni: Sut mae cynorthwyo pobl Llanelli i leihau biliau a'u defnydd o ynni?

  • Cymunedau Cynhwysol: Sut mae dod a phobl o bob oedran at ei gilydd i fynd i'r afael 芒 phynciau o bwys?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ava yn un o "Newidwyr Yfory"

Roedd panel o feirniaid - o fusnesau fel Cwm Environmental, Castell Howell, Bluestone ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau - wedi bod yn mentora'r bobl ifanc cyn y rownd derfynol, pan fydda nhw'n cyflwyno eu syniadau i'r panel.

Mae 400 o blant ysgolion Bryngwyn a Choedcae yn Llanelli wedi bod yn rhan o gynllun "Newidwyr Yfory" - sydd wedi ei ysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cwricwlwm newydd i Gymru, a thargedau byd eang y Cenhedloedd Unedig.

Maen nhw wedi cael hyfforddiant ar-lein am broblemau cyfoes, sy'n cynnwys pynciau fel yr economi gylchol a chynaliadwyedd.

Gr诺p Cariad Community o Ysgol Bryngwyn Llanelli oedd yn fuddugol yn y rownd derfynol ddydd Gwener, am eu cyflwyniad ar sut i greu cymuned fwy cynhwysol, a chymdeithas fwy iach a hapus yn Llanelli.

Y wobr oedd taleb ar gyfer gwers syrffio ar draeth Pen-bre.