大象传媒

S4C: Galw am fwy o gymorth ariannol i gynyrchiadau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Dal y MelltFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ail gyfres Dal y Mellt wedi ei seilio ar nofel newydd Iwan 'Iwcs' Roberts, 'Dal Arni'

Mae disgwyl i ail gyfres y ddrama 'Dal y Mellt' gael ei darlledu'r flwyddyn nesa' ar S4C, ac mae'r gwaith ffilmio ym Mangor, Caerdydd a Llundain bron a gorffen.聽

Cafodd y gyfres wreiddiol ei gwerthu i Netflix dan yr enw Rough Cut, y ddrama iaith Gymraeg gyntaf i gael ei dangos ar y gwasanaeth ffrydio.聽

Y bwriad ydy datblygu mwy o gynyrchiadau tebyg, ond gyda chostau cynhyrchu yn uwch nag erioed, mae S4C a chynhyrchwyr yma yng Nghymru yn galw am fwy o gymorth ariannol drwy gynlluniau ad-daliadau treth.

Dal Arni

Mae'r gyfres wedi ei seilio ar nofel newydd Iwan 'Iwcs' Roberts, 'Dal Arni', sydd yn ddilyniant i'w nofel 'Dal y Mellt'.聽

Mae'r actor o F么n, Gwion Morris Jones yn dychwelyd fel y prif gymeriad, Carbo, tra bod Mici, Gronw, Antonia, Dafydd Aldo, Meri J锚n, Cidw, Jiffy a Julia yn ail ymuno hefyd.聽

Bydd nifer o gymeriadau newydd yn ymddangos y tro yma, gyda Matthew Gravelle yn portreadu Blew.

Yn 么l Llyr Morus, pennaeth cynhyrchu Vox Pictures, "mae'r prif floc ffilmio o 10 wythnos wedi dod i ben, ond mae chwe diwrnod o waith ffilmio ar 么l i'w wneud yng Nghaerdydd ddiwedd mis yma". 聽

Bydd y nofel yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Mae'r proffil jest wedi tyfu", meddai Gwion Morris Jones wrth Newyddion S4C.

"Gafo ni ymateb lyfli ar S4C i ddechra', ond wedyn mae clywed fod pobl o America ac o Awstralia, a phobl o jest dros y ffin yn Lloegr sydd ddim yn siarad Cymraeg wedi mwynhau'r cynhyrchiad yn galonogol iawn."聽聽

Ad-daliadau treth

Yn ogystal 芒 s么n am ei falchder o waith t卯m a chydnabyddiaeth fyd-eang Dal y Mellt, mae'r cynhyrchydd, Llyr Morus yn pryderu nad ydy gwerthoedd cynhyrchu cyfresi uniaith Gymraeg yn gallu cystadlu 芒 chynyrchiadau mwy.聽

"Yr her fwyaf ydy sicrhau bod y gwerthoedd cynhyrchu yn gallu bod mor uchel 芒 phosib, neu mor uchel 芒 maen nhw ar gyfresi y mae'r streamers yn eu comisiynu," meddai.

"Achos prynu'r cyfresi unwaith maen nhw 'di cael ei gnweud hyd yma ma' nhw efo'r fersiynau Cymraeg."

"Felly mae'r cyllidebau yn llai a dyna be' ma' nhw'n chwilio amdano fo, ydy rhywbeth efo gwerthoedd cynhyrchu uchel."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n anodd i gynyrchiadau Cymraeg gystadlu gyda chyllidebau mawr y cwmn茂au ffrydio, yn 么l Llyr Morus

Yn 2013 mi gafodd trefn rhyddhad treth ei chyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r bwriad oedd ysgogi cwmn茂au i greu cynnwys ffilm a theledu ym Mhrydain.

I fod yn gymwys, mae'n rhaid i wariant y cynhyrchiad gyrraedd trothwy o dros 拢1m yr awr. 聽

"Y rhwystr ar hyn o bryd," yn 么l Mr Morus, "ydy nad yda' ni'n gymwys ar gyfer y tax credit sydd ar gael i neud ffilmiau."

"Mae'n rhaid i ddrama daro 拢1m yr awr spend i gael hawlio'r tax credit a 'da ni o dan y bar yna.

"A chan mai cynhyrchiad uniaith ydy Dal y Mellt er enghraifft, tydi'r gwariant ddim yn agos at 拢1m yr awr."

Mewn dogfen gafodd ei chyflwyno i'r Pwyllgor Diwylliant yn San Steffan fis diwethaf, mae S4C yn amlinellu eu barn yngl欧n 芒 chredydau treth ar gyfer y diwydiant ffilmiau.

Yn y dystiolaeth, mae S4C yn dweud eu bod yn falch fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio 芒 chynyddu'r trothwy gwariant lleiaf, ond eu bod yn pryderu nad ydy cynyrchiadau Cymraeg yn elwa.

"Gan fod cyllidebau darlledwyr ieithoedd lleiafrifol fel S4C yn sylweddol is na'r prif ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, sianeli mawr eraill a phlatfformau ffrydio, o ganlyniad, nid yw cynyrchiadau a gomisiynir gan S4C fel arfer yn gymwys ar gyfer buddion HETV (high-end television production)."

Mae'r cyllidebau cyfartalog ar gyfer "cynyrchiadau drama S4C o safon uchel" yn "tua 拢250k-拢300k yr awr", medd y ddogfen.

"Mae hyn yn golygu bod buddion HETV allan o gyrraedd ar gyfer y mwyafrif helaeth o gynyrchiadau S4C." 聽

Pe bai'r trothwy'n cael ei ostwng, byddai S4C, yn 么l y ddogfen, mewn gwell sefyllfa i gomisiynu mwy o ddram芒u safonol a thrwy hynny yn gallu "creu cyflogaeth ychwanegol a chynhyrchu incwm ychwanegol i economi Cymru."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Gwion Morris Jones (canol) yn dychwelyd fel y prif gymeriad, Carbo, yn y gyfres newydd

Mae S4C yn nodi yn y ddogfen fod cynhyrchwyr Cymraeg yn "fwy na dal eu pwysau" o ran ansawdd y cynnwys y maent yn ei gynhyrchu ar gyllidebau tynn.

"Mae'n her gyson cystadlu yn erbyn dewis cynyddol o gynnwys o safon uchel ar draws llwyfannau amrywiol, gan gynnwys gwasanaethau ffrydio sydd wedi'u hariannu'n dda."

"Er enghraifft, nid yw S4C wedi gallu fforddio comisiynu cyfresi drama cyfnod ers blynyddoedd lawer. Mae pwysau cynyddol ar bob cyllideb drama wedi dod yn fwyfwy llym, oherwydd chwyddiant cyffredinol a'r gystadleuaeth ddwys gan wasanaethau ffrydio."

Mae S4C yn galw am gyflwyno trothwy is, o 拢250,000 yr awr ar gyfer cynnwys sain a llun sydd mewn iaith frodorol.

'Creu sefyllfa sy'n decach'

Mi fyddai hynny yn arwain, meddan nhw at "werthoedd cynhyrchu uwch a mwy o gynnwys ar y sgrin i gynulleidfaoedd yng Nghymru", yn ogystal 芒 helpu i greu "sefyllfa sy'n decach" fel bod darlledwyr cyhoeddus sydd 芒 chyllidebau llai yn gallu elwa.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi galwad S4C gan ddweud "bod y newidiadau diweddaraf i'r credydau treth ar gyfer teledu yn cael eu croesawu".

"Nid yw'r lefelau credyd treth cyffredinol yn y DU yn gystadleuol o'i gymharu 芒 gwledydd eraill ledled y byd, gan ei gwneud hi'n fwyfwy anodd i ni gystadlu ar lefel ryngwladol."

Dywedodd llefarydd ar ran Trysorlys Llywodraeth y DU: "Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod heriol yn y diwydiant ffilm a theledu.

"Dyna pam rydyn ni wedi cefnogi stiwdios gyda gostyngiadau treth sector-benodol sydd wedi cefnogi dros 6,000 o gynyrchiadau ffilm a theledu ac wedi darparu bron i 拢1.4bn o gymorth y llynedd."

Pynciau cysylltiedig