大象传媒

Storm Debi: Gwyntoedd 77mya yn Aberdaron ar 么l rhybudd tywydd

  • Cyhoeddwyd
Tonnau'n chwalu ar y draethlin ger Cricieth, Gwynedd, yn gynnar ddydd LlunFfynhonnell y llun, 大象传媒 WEATHER WATCHERS / SNAPPER SIMON
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tonnau'n rhuo ger Cricieth, Gwynedd, yn gynnar ddydd Llun

Mae hyrddiau gwynt o hyd at 77mya wedi taro rhannau o arfordir Cymru ddydd Llun yn sgil rhybudd tywydd ar draws y gogledd, canolbarth a'r gorllewin.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod ansicrwydd o hyd ynghylch lle y gallai Storm Debi achosi problemau wrth iddi symud i'r gorllewin o arfordir M么r Iwerddon.

Fore Llun roedd 24 o rybuddion llifogydd mewn grym, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n golygu bod llifogydd yn bosib.

Fe allai hyrddiau gwynt mewndirol arwain at anafiadau a pherygl i fywyd, rhybuddiodd.

Cafodd y cyflymder gwynt uchaf o 77mya (124km/awr) ei gofnodi yn Aberdaron ym Mhen Ll欧n, Gwynedd.

Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd i rym am 04:00 a bydd yn parhau tan 18:00.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i ardaloedd yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Penfro, Powys, Wrecsam ac Ynys M么n.

Fe allai'r amodau gwaethaf achosi anafiadau a risg i fywydau yn sgil difrod i adeiladau, malurion yn cael eu chwythu, a thonnau uchel.

Mae trafferthion i deithwyr hefyd yn bosib yn ogystal 芒 thoriadau i gyflenwadau trydan.

Pynciau cysylltiedig