大象传媒

Ai 538,300 neu 906,000 o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg?

  • Cyhoeddwyd
newid % siaradwyr, ardaloedd dros 50%Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru/Dafydd Elfryn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mapiau'n dangos newid yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng Cyfrifiad 2011 a 2021 (glas = dirywiad, melyn = cynnydd); ar y dde: ardaloedd yng Nghymru ble mae dros 50% dal yn siarad yr iaith

Mae gwaith sydd wedi'i wneud i ganfod pam fod canlyniadau dau holiadur am y defnydd o'r Gymraeg mor wahanol yn "bwysig" ac yn "ddiddorol", yn 么l Gweinidog y Gymraeg.

Yn 么l Cyfrifiad 2021, roedd 538,300 o bobl tair oed neu'n h欧n yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru, neu 17.8% o'r boblogaeth - gostyngiad ers Cyfrifiad 2011.

Ond roedd yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos bod 906,000 o bobl tair oed neu h欧n yn gallu siarad Cymraeg yn y flwyddyn a ddaeth i ben ddiwedd Mawrth 2023, neu 29.7% o'r boblogaeth.

Roedd arbenigwr ar bolisi iaith a chynllunio ieithyddol wedi dweud mai canlyniadau'r Cyfrifiad llynedd fyddai'r prawf cyntaf o bolisi iaith Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni yn 2016 - targed sydd wedi'i seilio ar ddata'r cyfrifiad, nid yr arolwg blynyddol.

Pam fod y ffigyrau mor wahanol?

Mae dadansoddiad cychwynnol o'r gwahaniaethau rhwng canfyddiadau Cyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd yn awgrymu pa bobl a roddodd ymatebion anghyson i'r cwestiwn am yr iaith.

Yn 么l gwaith ar y cyd rhwng y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a Llywodraeth Cymru, y grwpiau oedd yn tueddu i anghytuno ar draws y ddwy ffynhonnell fwyaf aml oedd:

  • pobl iau na 25 oed;

  • pobl sy'n byw yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain;

  • pobl a anwyd mewn mannau eraill o'r DU;

  • a phobl heb hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

Y grwpiau oedd yn tueddu i gytuno ar draws y ddwy ffynhonnell fwyaf aml oedd:

  • pobl 65 oed neu h欧n;

  • pobl sy'n byw yn y gogledd-orllewin;

  • pobl a anwyd yng Nghymru;

  • a phobl 芒 hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles bod "rhai elfennau diddorol iawn" yn y dadansoddiad "sydd yn gallu cynnig syniadau inni sut i fynd i'r afael gyda'r darlun".

"Mae'r gwaith sydd wedi digwydd i ddadansoddi'r gwahaniaeth rhwng y cyfrifiad a'r arolwg yn bwysig," meddai.

Mae'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn defnyddio data o fwy nag un ton o'r Arolwg o'r Llafurlu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ymhlith canfyddiadau eraill y dadansoddiad:

  • Roedd tua dau o bob pump (39.9%) o'r bobl a gofnododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu neu yng Nghyfrifiad 2021 wedi cofnodi nad oeddent yn gallu gwneud hynny yn y ffynhonnell arall;

  • Dywedodd mwy o bobl eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021 na'r gwrthwyneb;

  • O'r bobl oedd yn cytuno y gallent siarad Cymraeg ar y ddwy ffynhonnell, nododd dros ddwy ran o dair (68.6%) eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd. O'r bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ond nid yng Nghyfrifiad 2021, dim ond tua chwarter (24.8%) oedd yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd;

  • Mae cyfran lai o aelwydydd cwpl yn cytuno ar eu gallu i siarad Cymraeg rhwng y ddwy ffynhonnell lle nad oes yr un, neu ddim ond un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg o'i gymharu ag aelwydydd cwpl sy'n cynnwys dau neu fwy o oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg.

'Ffigyrau sy'n cyfri'

Dywedodd y Ceidwadwr Samuel Kurtz "bod y Gymraeg yn derbyn adnoddau a sylw sylweddol trwy gydol cyfnod plant a phobl ifanc mewn addysg, [ond] mae cwymp sylweddol wedi hynny".

"Felly dylid craffu'n fanwl ar ddarpariaeth Gymraeg yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys rhaglen waith Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-26, ac ehangu'r rhaglen drochi hwyr ar gyfer dysgwyr yn nes ymlaen yn eu bywydau," meddai.

Dywedodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru: "O ran y ffigyrau gwahanol o ran y Cyfrifiad ac arolygon Llywodraeth Cymru; dwi ddim yn derbyn nhw'n llwyr oherwydd mae'r mesur yna.

"Y gwir amdani ydy, o ran y mesurau sydd yn 'Cymraeg 2050', i gynyddu'r canran o ddysgwyr blwyddyn un sy'n cael eu haddysgu yn y Gymraeg, y targed ydy 26% erbyn 2026.

"Cwymp sydd wedi bod o 23.9% yn 2021-22 i 23.4% yn 2022-23. O ran blwyddyn saith sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, cwymp o 20.1% i 19.3%.

"Dyma'r ffigyrau sy'n cyfri o ran faint sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Felly, fedrwn ni ddadlau os ydy ffigyrau'r Cyfrifiad yn gywir neu beidio... ond dyma'r ffigyrau sydd yn y targed o ran miliwn o siaradwyr Cymraeg."

Er bod arolygon aelwydydd fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch o allu yn y Gymraeg, dyma oedd y tro cyntaf i'r Cyfrifiad ddangos gostyngiad yn nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg tra bo'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos cynnydd.

'Ffynhonnell allweddol'

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod "yn ystyried mai'r cyfrifiad o'r boblogaeth ydy'r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru".

"Ond gan fod yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae'n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau," meddai llefarydd.

Maint sampl yr arolwg poblogaeth blynyddol yw tua 320,000 o ymatebwyr, tra bod y Cyfrifiad unwaith y ddegawd yn gyfrif o'r holl bobl a chartrefi mewn ardal benodol.