'Dylid eithrio lonydd bysiau o'r terfyn 20mya'
- Cyhoeddwyd
Dylid eithrio lonydd bysiau o'r terfyn cyflymder 20mya newydd ble mae hynny'n ddiogel, yn 么l ymchwil melin drafod.
Dywed adroddiad Centre for Cities y byddai mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau bws pe bai'r gwasanaethau yn cael eu hehangu i'r eithaf.
Mae'r ymchwil yn dangos bod rhwydwaith bws Cymru wedi crebachu yn fwy nac yng ngwledydd eraill y DU, gyda'r lefelau isaf ond un o bobl yn teithio ar fysiau.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi datgan o'r dechrau fwriad i fonitro effeithiau terfyn 20mya ar wasanaethau bws.
Nod y llywodraeth yw sicrhau bod 45% o'r holl deithiau yn cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed neu ar feic erbyn 2040.
Mae dinasoedd Cymru'n allweddol o ran cyrraedd y nod, medd yr adroddiad, ac fe allai tagfeydd uwch wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy apelgar na'r car, ond byddai angen buddsoddi'n sylweddol yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
"Os ydym am weld pobl yn symud o geir i fysiau, rhaid newid pa mor gyfleus ydy'r bysiau," meddai Paul Swinney, cyfarwyddwr polisi ac ymchwil Centre for Cities.
"Yr her ar hyn o bryd yw nad ydy'n bysiau'n teithio'n ddigon aml, dydyn nhw ddim yn ddibynadwy a dydyn nhw ddim wastad yn sydyn iawn.
"Un ffordd o wella hynny yw eithrio bysiau o'r terfyn cyflymder 20mya, ble mae hynny'n ddiogel.
"Byddai hynny'n caniat谩u i fysiau symud yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy, ac yn troi'r fantol o ran a ydych chi am deithio yn eich car ynteu ar fws.
"Y broblem yw bod yna fwlch mawr rhwng cyfleustra'r car a chyfleustra'r bws neu dr锚n.
"Yn amlwg mae'n rhaid cael gwelliannau mawr yn y ffordd mae trafnidiaeth Cymru'n gweithredu yng Nghymru i newid hynny.
"Bydd pobl yn parhau i ddefnyddio'r car os yw'n fwy cyfleus."
Mae'r adroddiad yn datgelu bod cyfanswm y cilomedrau a gafodd eu gyrru gan fysiau wedi gostwng 20% yng Nghymru yn y flwyddyn cyn y pandemig o'i gymharu ag yn 2004/05.
Dywed Mr Swinney bod y rhwydwaith bysiau "wedi perfformio'n wael ers y 1980au" ar draws y DU, ond "yr hyn sy'n arbennig o bryderus yw bod maint rhwydwaith bysiau Cymru wedi crebachu i'r graddau ag y mae".
Mae'n amlygu'r angen, meddai, am fuddsoddi er mwyn ehangu'r rhwydwaith yn hytrach, os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd eu targed erbyn 2040.
Rhaid mynd i'r afael, meddai, "芒'r cylch dieflig ble mae llai o bobl yn defnyddio'r bws, sy'n golygu bod teithiau'n cael eu torri", a'r unig ffordd o wneud hynny yw "elfen o gymhorthdal i ddarparu rhwydwaith bws helaeth".
Byddai hynny, ynghyd 芒 rhwydwaith metro a mwy o wasanaethau tr锚n wedi eu hintegreiddio'n dda, "yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis mwy cyfleus, a dyna ddylai nod y polisi fod os yw am wireddu'r targed o gael mwy o bobl o'u cerbydau".
Mae Mr Swinney yn canmol "uchelgais" targed Llywodraeth Cymru, ond mae'n rhybuddio bod yr ymchwil yn dangos "nad yw am fod yn 45% ymhob rhan o Gymru".
"Mewn ardaloedd gwledig bydd y ffigwr yn is ond fe allai ardaloedd dinesig helpu cyrraedd y targed yna," dywedodd.
Caerdydd, medd yr adroddiad, yw'r ddinas yn y sefyllfa orau i gynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, gan fod canran uwch o swyddi yng nghanol y brifddinas nag yn Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.
Er mwyn cyrraedd y targed, mae'r adroddiad yn awgrymu sawl ffordd o ariannu cymhorthdal at wella trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys codi ffi tagfeydd a bod ffi o'r fath "yn fwy priodol" yng Nghaerdydd nag yn unrhyw le arall.
Ond mae'n dadlau mai "yn wahanol i'r model sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd" y byddai'n well codi ffi tagfeydd yng nghanol Caerdydd yn unig.
Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddatblygiadau fel Metro De Cymru a fydd yn gwella'r rhwydwaith, gan ddweud mai'r camau mwyaf llwyddiannus fyddai cynyddu nifer y gwasanaethau i stadau diwydiannol a pharciau busnes a'u cydlynu gyda phatrymau gwaith.
'Monitro effaith 20mya'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi bod yn glir o'r dechrau y byddwn yn monitro unrhyw effeithiau'r terfyn 20mya ar wasanaethau bws.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda chwmn茂au bws, awdurdodau lleol a Thrafnidiaeth Cymru i fynd i'r afael 芒'r heriau mae'r diwydiant yn eu hwynebu.
"Mae lonydd bysiau penodol a mesurau syml wrth oleuadau traffig a chyffyrdd yn helpu clirio tagfeydd a rhoi hwb ychwanegol i fysiau mewn mannau o dagfeydd difrifol, gan wneud teithiau'n fwy dibynadwy.
"Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod 拢6m ar gael eleni, a 拢5m y flwyddyn nesaf ar gyfer mesurau i flaenoriaethu teithiau bws."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023