Mam 'mewn hunllef' wedi marwolaeth pedwar dyn ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae mam un o bedwar dyn ifanc a gafodd eu canfod yn farw mewn car yng Ngwynedd wedi dweud ei bod "mewn hunllef".
Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Fitchett a Hugo Morris ger pentref Garreg ddydd Mawrth.
Roedd y dynion ifanc - un yn 16 oed, dau yn 17 ac un yn 18 oed, ac i gyd o ardal Amwythig - ar goll ers y penwythnos.
Dywedodd mam Harvey, Crystal Owen, na fyddai "unrhyw beth yn gwneud i'r hunllef yma ddiflannu".
Yn y cyfamser, mae cariad Wilf wedi ei ddisgrifio fel "y bachgen anwylaf a mwyaf cariadus i mi ei adnabod erioed".
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y cyrff wedi cael eu darganfod mewn car oedd wedi dod oddi ar ffordd yr A4085.
Y gred yw fod y criw wedi teithio o Sir Amwythig i Harlech ddydd Sadwrn gyda chynlluniau i wersylla yn Eryri ddydd Sul.
Mewn neges ar Facebook, dywedodd Crystal Owen: "Roeddwn eisiau dweud fy mod yn gwerthfawrogi caredigrwydd pobl, ond nid oes unrhyw negeseuon yn mynd i'm helpu i oresgyn hyn.
"Ni fydd unrhyw beth yn gwneud i'r hunllef yma ddiflannu."
Mewn teyrnged dywedodd cariad un o'r dynion ifanc mai ef oedd "y bachgen anwylaf a mwyaf cariadus i mi ei adnabod erioed".
Dywedodd Maddi Corfield, cariad Wilf: "Byddaf yn dy golli am byth."
"Rwy'n gobeithio dy fod yn gwybod faint rwy'n dy garu di," ysgrifennodd mewn teyrnged ar-lein.
"Diolch am yr holl amser rwyt wedi ei dreulio gyda mi ... diolch am fy ngharu'n ddiddiwedd. Rwy'n addo y gwnaf yr un peth i ti, fy angel.
"Alla i ddim dychmygu fy myd hebddat ti. Rwy'n dy golli di gymaint yn barod, ond rwy'n mynd i fwynhau bywyd fel y byddet ti wedi ei ddymuno, y ffordd y gwnest ti i mi deimlo."
Dywedodd ei mam, Lisa Corfield, 37, ar Facebook bod ei "chalon yn torri dros Maddi a'r holl deuluoedd".
"Roedd Wilf yn fachgen mor hyfryd a charedig ac wedi trin Maddi mewn ffordd allai mam ond gobeithio y bydd ei merch yn cael ei thrin."
Fe wnaeth yr A4085 ailagor nos Fawrth ond roedd Heddlu'r Gogledd yn 么l yno fore Fercher ac unwaith eto wedi cau'r ardal i'r cyhoedd.
Cadarnhaodd y llu ddydd Mawrth bod y car Ford Fiesta arian roedd y bechgyn yn teithio ynddi wedi ei ddarganfod "ben i lawr", ac "yn rhannol dan dd诺r".
Mewn diweddariad nos Fercher, dywedodd yr Uwcharolygydd Owain Llewellyn bod swyddogion lleol a chydweithwyr o D卯m Chwilio Tanddwr y Gogledd Orllewin "bellach wedi cwblhau ymchwiliad trylwyr" o leoliad y gwrthdrawiad ar yr A4058.
"Bydd y ffordd yn cael ei hailagor gan Adran Briffyrdd yr Awdurdod Lleol yn hwyrach heno a hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd heddiw".
"Rydym yn parhau i ddiweddaru a chefnogi'r teuluoedd ar yr adeg anodd hon."
Mae manylion yr achos wedi eu hanfon at Grwner Ei Fawrhydi.
O'r safle, gohebydd 大象传媒 Cymru, George Herd:
"Mae'r ffyrdd o amgylch safle'r gwrthdrawiad yn parhau ar gau, gyda'r heddlu ond yn caniat谩u mynediad i drigolion lleol a swyddogion eu hunain.
"Yn 么l Heddlu'r Gogledd mae'r ymchwiliad yn parhau.
"Yn ogystal 芒 chynnal archwiliad manwl o'r ardal, mae t卯m o swyddogion sy'n arbenigo mewn plymio dan dd诺r wedi cyrraedd i gynorthwyo gyda'r gwaith.
"Mi fydd yr ardal o amgylch safle'r gwrthdrawiad yn aros ynghau tan fod swyddogion yn sicr eu bod nhw wedi casglu pob darn o dystiolaeth all fod o gymorth wrth geisio darganfod beth yn union arweiniodd at farwolaethau'r pedwar dyn ifanc."
'Diolch i'r gwasanaethau brys'
Yn siarad fore Mercher, dywedodd yr AS lleol, Liz Saville Roberts: "Roedd pob un ohonom ni'n gobeithio am ddiweddglo gwahanol, ei bod hi'n stori am bedwar bachgen yn rhywle heb signal, wedi mynd am antur yn y mynyddoedd.
"Ond wrth i amser basio fe ddaeth i'r amlwg fod hyn am gael diweddglo gwahanol iawn.
"Dwi'n meddwl i bob un ohonom ni sy'n rhieni, sydd wedi gweld ein plant 17 oed yn mynd allan am y tro cyntaf ar 么l pasio eu prawf gyrru... mae ein calonnau'n mynd allan i'r teuluoedd, ond beth rwyf eisiau ei ddweud ydi faint oedd y gymuned eisiau i hwn orffen yn hapus.
"Gwylwyr y glannau, achubwyr mynydd, rwy'n gwybod bod yr heddlu wedi mynd y filltir ychwanegol ac rydym yn anfon pob cydymdeimlad i'r teuluoedd."
Yn 么l June Jones, sy'n cynrychioli ward Glaslyn ar Gyngor Gwynedd, roedd yn "drychineb 'sa neb yn medru'i ragweld".
"Cyn gynted a glywon ni eu bod wedi dod o hyd i'r car yn yr afon, roedd yn neud i chi feddwl yn syth fod rhywbeth eithaf difrifol wedi digwydd," meddai ar Radio Wales Breakfast.
"Mae ein meddyliau gyda'u teulu. Heddiw maen nhw'n deffro i hunllef gwaethaf pob rhiant a dweud y gwir. Mae'r gymuned gyfan yn meddwl am eu teuluoedd ar hyn o bryd."
'Torcalonnus'
Mae eglwysi yn yr ardal leol - gan gynnwys Eglwys y Santes Fair, Beddgelert, Eglwys Sant Cyngar, Borth-y-Gest ac Eglwys Santes Catrin, Cricieth - ar agor i bobl sy'n dymuno mynd yno i fyfyrio neu gynnau cannwyll er cof am y bechgyn.
Mewn neges ar ran esgobaeth Bangor, fe fynegodd Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Y Gwir Barchedicaf Andrew John "fy nhristwch dwfn" gan ddweud bod hi'n "dorcalonnus bod bywydau y pedwar bachgen ifanc hyn wedi eu byrhau mewn dull mor drasig".
Dywedodd y Parchedig Kim Williams, ficer eglwys yn yr ardal lle daethpwyd o hyd i'r cyrff, eu bod yn gwedd茂o dros y bechgyn a'u teuluoedd, ynghyd ag aelodau'r "gwasanaethau brys lleol, yr heddlu, ambiwlans, gwasanaeth t芒n a thimau achub y mynyddoedd a oedd wedi bod yn chwilio am y bechgyn".
Fe ddiolchodd AS Amwythig, Daniel Kawczynski, y gwasanaethau brys a'r timau achub mynydd lleol, yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd am eu cymorth gyda'r chwilio.
"Mae'r newyddion hwn yn wirioneddol dorcalonnus, ac mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi'u heffeithio," meddai.
Wrth annerch T欧'r Cyffredin brynhawn Mercher, dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak bod "meddyliau pawb yn y Senedd gyda theulu a ffrindiau'r pedwar person ifanc a fu farw mewn damwain yng ngogledd Cymru".
Mae Cyngor Tref Amwythig wedi canslo dathliad rhoi goleuadau Nadolig y dref ymlaen oedd i fod i ddigwydd nos Fercher.
Rydym wedi newid cyfenw Wilf Fitchett yn yr erthygl hon ar gais ei deulu. Roedd fersiwn flaenorol o'r erthygl yn cynnwys cyfenw gwahanol a gyhoeddwyd gan yr heddlu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023