大象传媒

Adam yn yr Ardd: 'Dathlu garddwriaeth yn y Sioe'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sioe Fawr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd yna ddim Adran Arddwriaeth yn y Sioe Fawr yn 2023

Fe fydd Pentref Garddwriaethol y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn 2024 yn atyniad cwbl newydd ac yn hyrwyddo garddwriaeth, yn 么l Adam Jones sydd wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol newydd Garddwriaeth Sioe Frenhinol Cymru.

Yn 么l Mr Jones, sy'n fwy adnabyddus fel Adam yn yr Ardd, bydd y cynllun yn hyrwyddo garddwriaeth sef un o amcanion elusennol allweddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a'r bwriad yw dathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru.

Er siom i lawer doedd yna ddim adran arddwriaethol yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn ystod haf eleni a hynny wedi iddi wneud colled o tua 拢400,000 bob blwyddyn.

Fe fydd Adam Jones yn goruchwylio datblygiad y pentref ac yn cysylltu ag arddangoswyr a noddwyr posib.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Adam Jones wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol newydd Garddwriaeth Sioe Frenhinol Cymru

"Rwy'n meddwl fod cael saib yn y cystadlu yn yr adran arddwriaeth a'r celf blodau, er yn siom efallai eleni, yn benderfyniad cywir er mwyn ailfywiogi'r adran," meddai.

"Mae cynllunie cyffrous nawr i weld sut ma' dathlu garddwriaeth yng Nghymru ar blatfform rhyngwladol."

Y bwriad yw defnyddio darn o borfa wrth y brif fynedfa i greu pentref garddwriaeth o'r newydd, creu cyfres o bebyll ar gyfer y cystadlu, ac yna clymu'r cyfan at ei gilydd.

'Denu to newydd sbon'

Bydd gerddi arddangos, stondin arddangos ac adloniant - gyda'r nod o greu ardal i bobl ymlacio a mwynhau .

"Gobeithio bydd hyn hefyd yn ffordd i addysgu pobl am fyd amaeth. O ble mae ein bwyd yn dod, sut mae tyfu bwyd?

"Ni'n awyddus i greu cystadlaethau a chreu gerddi arddangos i ysgolion a chreu dosbarthiadau i blant ifanc. Mae cyfle i gyfuno'r ochr addysgol gyda'r ochr gystadlu er mwyn denu to newydd sbon o bobl".

Yn y flwyddyn newydd fe fydd y cynllunio ar gyfer y prosiect newydd yn cychwyn o ddifri wrth baratoi ar gyfer y Sioe Fawr yn yr haf.

"Ry'n ni eisiau creu ardaloedd parhaol i faes y sioe achos mae y safle ei hun yn ardd a thirwedd hyfryd... dyw garddwriaeth ddim yn perthyn i un rhan o'r sioe yn unig," meddai Adam jones

"Fe welon ni frwdfrydedd anhygoel fan hyn ar faes y sioe yn y Ffair Aeaf a dros 3,000 o blant a phobl ifanc yn dod yma ar dripiau ysgol a choleg 芒'u brwdfrydedd yn heintus.

"Mae angen i ni gynnal y momentwm yna, ac os gallwn ni 'neud hynny bydd e yn anhygoel."

Ychwanegodd mai'r bwriad yw gwneud yr adran arddwriaethol yn lle "diddorol a bywiog" gyda ffocws ar addysg.

Fe fydd Adam Jones nawr yn cydweithio a th卯m o wirfoddolwyr a rhanddeiliaid o bob cwr o'r diwydiant er mwyn cyrraedd y nod o ddod 芒'r pentref garddwriaethol newydd yn fyw erbyn Sioe Frenhinol Cymru y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig