Pum munud gyda Bardd y Mis: Meleri Davies

Ffynhonnell y llun, Meleri Davies

Disgrifiad o'r llun, Meleri Davies

Meleri Davies o Gwm Prysor yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Nyffryn Ogwen yw Bardd y Mis, Radio Cymru ar gyfer mis Rhagfyr. Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.

Rydych yn ddatblygwr cymunedol ac amgylcheddol sydd wedi gweithio ym maes cynaladwyedd a gweithredu cymunedol ers blynyddoedd. O ble ddaeth eich diddordeb yn yr amgylchedd?

Cefais fy magu ar fferm fynydd felly mae byd amaeth, anifeiliaid a natur wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd. Dim mewn ffordd academaidd ond jesd fel ffordd o fyw.

Dwi ddim yn disgrifio fy hun fel amgylcheddwr ond dwi'n teimlo'r cyfrifoldeb yna dros ddyfodol ein plant a'n cymunedau ni a dwi'n gweld plethiad naturiol rhwng gweithredu amgylcheddol a chymunedol.

Ffynhonnell y llun, Meleri Davies

Disgrifiad o'r llun, 'Dwi'n teimlo'r cyfrifoldeb yna dros ddyfodol ein plant a'n cymunedau'

Mae'n debyg mai'r trobwynt mawr yn fy niddordeb i yn y maes amgylcheddol oedd arwain datblygiad cynllun Ynni Ogwen - cynllun ynni d诺r sy'n creu budd amgylcheddol ond budd cymunedol i'r ardal hefyd.

Ers sefydlu cynllun Ynni Ogwen, rydan ni wedi symud ymlaen i ddatblygu nifer o gynlluniau amgylcheddol eraill - o geir a beics trydan cymunedol i ddatblygu rhandiroedd. Mae mwy a mwy o gymunedau rwan yn mentro i faes perchnogi ynni cymunedol a mae hynny mor bwysig.

Ydych chi'n ysgrifennu am faterion gwyrdd ac a oes yna ddigon o bobl yn gwneud hynny yn Gymraeg?

Mae lot o fy ngherddi i yn deillio o brofiadau personol iawn - galar, magu teulu, iechyd meddwl - ond dwi wedi dechra sgwennu am faterion mwy gwleidyddol, yn cynnwys yr argyfwng newid hinsawddd yn ddiweddar.

Mae'r lens bersonol dal yna ond ella mod i'n teimlo'r panig cynyddol yna am ba fath o ddyfodol 'da ni'n gadael i'n plant a mod i'n defnyddio barddoniaeth fel ffordd o ddelio efo hynny.

Mae 'na bobol yn sgwennu am yr argyfwng hinsawdd yn Gymraeg ond y cwestiwn pwysig ydy oes na ddigon o bobol yn darllan a gwrando?

Mae cerddi'r Goron gan Rhys Iorwerth a cherddi 'Gwersi Nofio' Iestyn Tyne yn trafod difodiant ac mae cylchgrawn Modron yn rhoi llwyfan i leisiau sydd eisiau trafod yr argyfwng ond mae wastad lle i fwy.

Mae 'na fwlch enfawr ar hyn o bryd yn ein dealltwriaeth ni a'n parodrwydd ni i sylweddoli pa mor fawr ydy'r argyfwng newid hinsawdd. Hynny'n rhannol oherwydd gwleidyddiaeth ond hefyd oherwydd apathi.

Mae'n bwysig felly fod beirdd a llenorion yn codi llais i lenwi'r bwlch yna - i'n harfogi ond hefyd i'n helpu i ddelio efo'r heriau gwirioneddol anodd fydd yn dod yn sgil y newidiadau i'n hamgylchfyd.

Rydych yn wreiddiol o Gwm Prysor ond yn byw bellach yn Nyffryn Ogwen. Ydi'r llefydd hyn wedi dylanwadu arnoch?

Yndi, bendant. Hogan o Feirionnydd fydda i am byth er i mi adael Cwm Prysor 27 mlynedd yn 么l yn ddeunaw oed. Fan'na mae fy ngwreiddiau.

Gwreiddiau gwledig o safbwynt y dirwedd a'r fagwraeth amaethyddol ond dylanwadau 么l-ddiwydiannol y fro chwarelyddol yn ardal Blaenau Ffestiniog hefyd lle es i i'r ysgol uwchradd.

Ffynhonnell y llun, Meleri Davies

Disgrifiad o'r llun, 'Mei a fi ar Moel Faban'

Er na ddychwelais adra i Gwm Prysor ar ol byw yng Nghaerdydd a theithio'r byd, dwi wedi ymgartrefu r诺an mewn ardal sydd yn rhannu'r un egwyddorion cymunedol 'na dwi'n meddwl.

Mae Dyffryn Ogwen yn ardal fynyddig, wledig, drefol ac 么l ddiwydiannol i gyd mewn un!

Ac fel fy mro enedigol, mae 'na gymuned andros o glos ym Methesda hefyd. Mae 'na bobol dda yma. Pobol garedig sy'n gweithio'n galad - dau rinwedd pwysig i fi.

Beth fyddai eich noson ddelfrydol?

Bwyd a gwin efo ffrindia' agos sy'n chwerthin o waelod eu bolia. Dydy pobol ddim yn chwerthin digon. Mae o'n dda i'r enaid.

Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Unrhyw fardd arall mewn gwirionedd i weld sut mae nhw'n gweld y byd yn wahanol i fi. Ond mi fysa nhw'n gorfod bod yn feirdd sy'n licio gwin a bwyd a chwerthin.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Dwi wrth fy modd efo'r gerdd 'Duwiesau' gan Elin ap Hywel sy'n canu'n gynddeiriog i dduwiesau Cymreig - "Brenhinesau'r gwyllt, y lloerig, y bobol o'u coeau, y distawrwydd anghynnes, yr anesmwythyd mawr" ac yn cloi efo'r linell anfarwol "Ynysoedd gwyr cedyrn sy'n dymchwel wrth odre eich peisiau."

Dwi hefyd yn caru'r gerdd 'Creu' gan Llyr Gwyn Lewis. Cerdd sy'n disgrifio'r petheuach beunyddiol sy'n clymu rhywun ond hefyd yr eiliadau prin hyfryd yna ti'n gorfod cydio ynddyn nhw, fel pigo " ysbeidiau oddar lawr fel cheerios". Fel rhiant i 3 o blant ifanc, roeddwn i'n gallu uniaethu gymaint efo'r gerdd yma.

Ffynhonnell y llun, Meleri Davies

Disgrifiad o'r llun, 'Fi a'r teulu ar Ynys Enlli'

Un o'm hoff gyfrolau o farddoniaeth Gymraeg ydy 'Mynd' gan Marged Tudur - cyfrol wnaeth fy llorio a'm helpu i ddelio efo galar.

Dwi hefyd yn edmygu gwaith Sioned Erin yn fawr. Mae hi mor gynnil a dewr yn y ffordd mae hi'n sgwennu - boed yn gerddi, ll锚n meicro neu straeon byrion.

Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?

Y peth mwya dwi'n gweithio arno ar hyn o bryd ydy prosiect Yr Hen Bost i ddatblygu Canolfan Dreftadaeth ym Methesda; prosiect fydd gobeithio'n rhoi gofod cymunedol newydd i ddathlu hanes a diwylliant anhygoel yr ardal yma. Dwi hefyd yn edrych ymlaen i gydweithio efo Llenyddiaeth Cymru i gefnogi prosiect Ll锚n Mewn Lle yn yr ardal yn y flwyddyn newydd.

O ran sgwennu, does gen i ddim cynllun. Dim ond dal i ddianc fyny Moel Faban efo fy llyfr bach i weld be ddaw! Mae sgwennu'n dda i fi.

Hefyd o ddiddordeb: