大象传媒

Cymru i wynebu Ffrainc os yn cyrraedd Euro 2024

  • Cyhoeddwyd
tlws Euro 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images

Os yn llwyddo i gyrraedd Euro 2024 bydd Cymru yn wynebu Ffrainc, Yr Iseldiroedd ac Awstria yn y grwpiau.

Mewn seremoni yn Hamburg, daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn yr Almaen ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Gan nad yw'r gemau ail gyfle wedi eu cwblhau, roedd y timau sydd heb gyrraedd y rowndiau terfynol eto yn cael eu nodi fel 'Enillydd llwybr A', 'Enillydd llwybr B' ac 'Enillydd llwybr C'.

Mae Cymru yn llwybr A - a bydd rhaid iddyn nhw ennill yn erbyn Y Ffindir, ac un ai Gwlad Pwyl neu Estonia er mwyn cyrraedd Euro 2024.

Ffynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Cymru yn wynebu'r Ffindir ar 21 Mawrth yn y rownd gyn-derfynol llwybr A y gemau ail gyfle

Bydd 'Enillydd Llwybr A' yn chwarae yn gr诺p D gyda Ffrainc, Yr Iseldiroedd ac Awstria.

Pryd fydd y gemau?

16 Mehefin - 'Enillydd Llwybr A' v Yr Iseldiroedd yn Hamburg

21 Mehefin - 'Enillydd Llwybr A' v Awstria yn Berlin

25 Mehefin - 'Enillydd Llwybr A' v Ffrainc yn Dortmund

Bydd Cymru yn wynebu'r Ffindir yng Nghaerdydd ar 21 Mawrth yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Euro 2024.

Os yn fuddugol, bydd Cymru'n chwarae enillwyr y g锚m rhwng Gwlad Pwyl ac Estonia, eto yng Nghaerdydd, ar 26 Mawrth i benderfynu pwy fydd yn cyrraedd y rowndiau terfynol.