Awgrym y dylai'r 大象传媒 gymryd rheolaeth o S4C

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Maggie Brown fod sefyllfa bresennol S4C yn ei thristau
  • Awdur, Gwyn Loader a Meleri Williams
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae arbenigwr ar y cyfryngau wedi awgrymu mai'r 大象传媒 fyddai yn y safle gorau i reoli S4C yn sgil trafferthion presennol y sianel.

Dydd Gwener diwethaf, fe gafodd y prif weithredwr Si芒n Doyle ei diswyddo mewn "penderfyniad anodd ond unfrydol" gan aelodau annibynnol bwrdd S4C.

Fe wnaethon nhw honni fod y penderfyniad wedi ei seilio ar dystiolaeth - sydd heb ei chyhoeddi eto - gan ymchwiliad annibynnol cwmni cyfreithiol Capital Law.

Mae Ms Doyle yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Diwylliant ddydd Iau, fe ddywedodd Ms Doyle fod cadeirydd y sianel, Rhodri Williams, yn "ymgorffori diwylliant o ofn" yn S4C.

Wrth i'r ffrae gyhoeddus barhau, mae'r newyddiadurwr cyfryngau, Maggie Brown, wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod y sefyllfa "ranedig ac amhleserus" yn ei thristau.

"Os ydych chi am i S4C ffynnu, mae'n rhaid gweld a yw'n gallu rhedeg ei hun yn iawn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Huw John

Disgrifiad o'r llun, Mae Si芒n Doyle wedi beirniadu'r penderfyniad i'w diswyddo

Ychwanegodd Ms Brown bod angen gwybod os yw'r problemau yn rai y mae modd eu datrys, neu ydi hi'n achos o fod angen "ail-ddyfeisio".

"Dwi wedi codi hyn - a dwi'n gwybod ei fod yn ddadleuol - hyd yn oed, o bosib, fod yr amser wedi dod i 大象传媒 Cymru gael uned ar wah芒n sy'n rhedeg system cynnwys darlledu Cymraeg pur."

Mae S4C wedi gwrthod ymateb, tra dywedodd llefarydd ar ran y 大象传媒 mai "Bwrdd S4C sy'n gyfrifol am redeg y gwasanaeth" a'i fod yn "annibynnol o'r 大象传媒 yn olygyddol ac yn weithredol".

Disgrifiad o'r llun, Mae Ms Doyle yn honni ei bod wedi lleihau nifer y comisiynau sy'n cael eu rhoi i'r cwmn茂au cynhyrchu mwyaf

Mewn datblygiad arall ddydd Gwener, fe darodd y sector cynhyrchu annibynnol yn 么l yn dilyn sylwadau yn llythyr Si芒n Doyle yngl欧n 芒'r lleihad yn nifer y comisiynau a gafodd y 'Pump Mawr'.

Fe wnaeth Ms Doyle honni ei bod wedi torri'r status quo o leihau nifer y comisiynau oedd yn cael eu rhoi i gwmn茂au cynhyrchu Tinopolis, Cwmni Da, Afanti, Rondo a Boom.

Honnodd eu bod yn darparu dros ddwy ran o dair o raglenni'r sianel pan ymunodd a'r sianel, ac o fewn dwy flynedd, fe ostyngodd y ffigwr hwnnw i 54%.

Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd cyn-gomisiynydd gydag S4C a phennaeth ei ddarpariaeth cynnwys, Llion Iwan, sydd bellach yn rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Da, fod y datganiad yn bryderus.

"Os fydda'r fath bolisi yn cael ei weithredu, pa mor deg ydy o? Achos mae'n tynnu gwaith - nid am resymau cyllidebol - dim ond achos bod cwmn茂au'n llwyddiannus.

"Ym mha gwmni arall fyddai hynny'n digwydd?"

Disgrifiad o'r llun, Mae Llion Iwan wedi cwestiynu tegwch unrhyw bolisi fyddai'n lleihau comisiynau'r 'pump mawr'

Fe gwestiynodd sylwadau Ms Doyle gan ofyn a yw gweld cynnwys S4C ar Netflix a phlatfformau Maximum Effort wir yn llwyddiant.

"Ydyn ni wirioneddol mor daeogaidd a bo' ni'n dathlu bod chwech awr o gynnwys ar blatfform fel Netflix. Ai fan 'na 'dan ni 'di suddo?" meddai Mr Iwan.

"Ry'n ni wedi bod yn gwerthu cynnwys yn rhyngwladol fel sector ers blynyddoedd lawer a 'di cael llawer mwy o lwyddiant.

"Ma' 'na dipyn mwy o arian wedi dod i mewn i'r sector yn sgil hynny hefyd.

"A'r platfform yn America [Maximum Effort] gafodd ei gyhoeddi eleni, 'dan ni'n dal i ddisgwyl y dystiolaeth am faint o arian ma' hwnna'n mynd i ddod i fewn."

'Angen cwmn茂au o bob maint a bob math'

Wrth ymateb i sylwadau Ms Doyle am y 'Pump Mawr', dywedodd cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, Dyfrig Davies: "'Dw i'n rhyfeddu bod hyn wedi cael ei roi mewn heb fod 'na ryw drafodaeth wedi bod.

"Pe bai 'na strategaeth yn bodoli - a dwi ddim yn credu bod e - bydde' hwnna wedi mynd, does bosib, drwy'r awdurdod, bydde' hwnna wedi ei gyfathrebu gyda ni'n gyffredinol.

"Mae angen cwmn茂au o bob maint ac o bob math."

'Comisiynu ar sail cryfder syniadau'

Dywedodd llefarydd ar ran S4C "nad oes polisi gan S4C o leihau comisiynau y pum cwmni 'mawr' ac nid yw'r Bwrdd wedi cymeradwyo polisi o'r fath".

"Rydym ni yn comisiynu ar sail cryfder y syniadau sy'n cael eu cynnig.

"Mae'n holl bwysig fod yna gymysgedd o ddarparwyr cynnwys yn cyflenwi S4C, a hynny yn gwmn茂au bychain a rhai mwy."

Dywedodd Ms Doyle mewn datganiad: "Cafodd strategaeth gyffredinol S4C ei chymeradwyo'n unfrydol gan fwrdd y sianel a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Chwefror 2022.

"Fe'i cynlluniwyd i sicrhau cystadleuaeth deg, creadigrwydd, a thryloywder ym mhroses gomisiynu S4C, ac i amrywio sylfaen gyflenwi'r sianel.

"Pan oeddwn i'n brif weithredwr S4C, roedd penderfyniadau comisiynu'n seiliedig ar deilyngdod, gofynion y gynulleidfa, gwerth i dalwyr ffi'r drwydded, ac ar y graddau yr oeddent yn cynrychioli pobl Cymru.

"Mae unrhyw awgrym i'r gwrthwyneb yn ddi-sail ac yn anghywir."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ddadl yn "rhoi mwy o fwledi i'r rheiny sy' falle' eisiau tanseilio'r sianel", yn 么l Jamie Medhurst

Dywedodd yr Athro Jamie Medhurst o adran Ffilm a Chyfryngau Prifysgol Aberystwyth ei fod yntau hefyd yn bryderus dros ffrae gyhoeddus S4C a'r effaith bosib ar ddyfodol y sianel.

"Y peth sy'n 'y mhoeni i yw bod y ddadl gyhoeddus yma yn rhoi mwy o fwledi i'r rheiny sy' falle' eisiau tanseilio'r sianel neu sydd 芒 rhywbeth yn erbyn y sianel yn barod.

"Mae'n drueni bod e mor gyhoeddus."

Dydy S4C ddim wedi dweud pryd y byddan nhw'n cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad Capital Law i honiadau o fwlio.

Mae disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.