大象传媒

'Rhai plant methu 芒 fforddio citiau chwaraeon'

  • Cyhoeddwyd
citFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai disgyblion methu 芒 chwarae i glybiau oherwydd y gost, medd arolwg

Mae yna alw am gefnogaeth i helpu plant sydd methu 芒 fforddio citiau chwaraeon.

Yn 么l hyfforddwyr ac athrawon, mae mwy yn penderfynu peidio mynd i glybiau chwaraeon oherwydd y gost.

Maen nhw hefyd yn gweld effaith diffyg bwyd maethlon ar berfformiad plant gyda nifer yn methu perfformio cystal ag y gallent ar y cae chwarae.

Yn 么l elusen Sported UK, mae 95% o glybiau yng Nghymru yn poeni am eu dyfodol oherwydd costau cynyddol - y ffigwr uchaf o blith gwledydd y Deyrnas Unedig.

Dywed Llywodraeth Cymru bod darparu prydau ysgol am ddim a grant penodol i deuluoedd difreintiedig fforddio cit chwaraeon yn flaenoriaeth.

Cyn camu i'r cae mae angen cit penodol ac yn fuan mae chwaraeon i bobl ifanc yn gallu bod yn gostus.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o blant heb yr esgidiau cywir, medd Jason Cooke, hyfforddwr Clwb P锚l-droed Pendyrus

"Rydyn ni'n gweld plant yn dod i gemau, bydd ganddyn nhw trainers ymlaen oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio esgidiau iawn," meddai Jason Cooke, hyfforddwr Clwb P锚l-droed Pendyrus wrth siarad 芒 Newyddion S4C.

"Mae yna lawer o blant talentog y dylai gael y cyfle i chwarae chwaraeon, ond dydyn nhw ddim oherwydd bod rhai o'r teuluoedd yn cael trafferth, hyd yn oed, i roi bwyd ar y bwrdd.

"Rydym yn gofyn i rieni ddweud wrthom ni os ydyn nhw'n cael trafferth ond does dim llawer yn gwneud oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd."

Offer i rai campau yn ddrud

Yng nghanol yr argyfwng costau byw mae Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd yn helpu rhai disgyblion ond mae'n dal i fod yn her.

"Ni'n weddol ffodus efallai oherwydd talgylch yr ysgol. Ond chi yn gweld bod rhai o'r disgyblion methu fforddio i fynychu clybiau," meddai Gwennan Harries, athrawes a sylwebydd p锚l-droed.

"Mae offer i rai campau yn ddrud - so ni'n trio gweld lle ma 'na ddim cymaint o gostau [fel bod pob plentyn yn gallu] cymryd rhan.

"Ond i rai o'r gweithgareddau fel hoci, lle ma'r offer yn ddrud ac mae angen llwyth o offer - ma' hynny'n effeithio'n sylweddol ar faint sy'n cymryd rhan."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Gwennan Harries bod rhaid dewis yn ofalus pa gemau i chwarae fel bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan

Dywed hefyd bod diffyg bwyd maethlon yn cael effaith gweledol ar berfformiad rhai yn y gwersi.

"I rai sydd efallai heb gael brecwast cywir, maen nhw methu canolbwyntio," meddai.

"Mae'n ddiwrnod hir i fod mewn pump gwers ac yn sicr wedyn os ma'n nhw yn gwneud gweithgaredd chwaraeon ar ben hynna - mae jyst gyda nhw ddiffyg egni i gymryd rhan."

Yn 么l clybiau ledled Prydain, maen nhw wedi gweld gostyngiad yn eu harian dros y chwe mis diwethaf gydag thraean ohonyn nhw ddim yn derbyn unrhyw gymorth gan y llywodraeth nac awdurdodau lleol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Owen Hathway o Ymddiriedolaeth Geraint Thomas bod prynu beicio yn "sgil bywyd"

Mae Ymddiriedolaeth Geraint Thomas wrthi'n ariannu prosiect i helpu pobl ifanc anabl, gofalwyr ifanc a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

"Mae'n sgil bywyd mynd ar feic. Nid yn unig mae e'n rhoi hyder i blant ac yn helpu eu ffitrwydd mae'n rhoi ffordd iddyn nhw deithio o un lle i'r llall i greu ffrindiau ac yn y blaen," meddai Owen Hathway, o Ymddiriedolaeth Geraint Thomas.

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae darparu prydau ysgol am ddim - fel nad yw unrhyw blentyn yn llwglyd yn ystod y diwrnod ysgol yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Yn ogystal, mae yna grant hanfodion ysgolion ar gael lle gall teuluoedd difreintiedig hawlio cymorth ariannol i brynu offer a chit chwaraeon.