'Cyffrous iawn' enwi Aberteifi yn un o drefi harddaf y DU
- Cyhoeddwyd
Mae'n gyfnod anodd i fusnesau a strydoedd siopa ar draws y wlad, ond mae gobaith y bydd adnewyddu marchnad yn Aberteifi a chydnabyddiaeth genedlaethol o harddwch y dref yn sbardun dros gyfnod yr 诺yl ac ymhellach.
Mae 拢3.1m yn cael ei wario ar ddiweddaru'r cyfleusterau ym marchnad y Guildhall, sydd yn dyddio n么l i'r cyfnod Fictoraidd.
Yn ogystal, mae'r Times wedi enwi Aberteifi fel un o saith o drefi prydferth i siopa ble mae modd "aros am wyliau byr a phrynu anrhegion unigryw".
Mae , tu 么l i lefydd fel Pont Hebden yn Sir Gorllewin Efrog, St Andrews yn Fife a Frome yng Ngwlad yr Haf.
Un o'r busnesau sydd yn cael eu henwi yn yr erthygl ydy siop syrffio Tonnau.
Yn 么l Joanna Robbins o'r siop, mae cryfder busnesau annibynnol yn reswm am lwyddiant y dref.
"Ma' fe'n bwysig iawn. Mae Aberteifi yn brydferth iawn a mae lot i wneud fan hyn.
"Dwi wedi tyfu lan yn Aberteifi a ma' lot o siope ar gal ond ar hyn o bryd mae llawer o siopau independent a mae hwn yn bwysig iawn iddyn nhw achos ma fe'n helpu creu busnes a jobs i bobl."
Fe ddechreuodd y busnes U Melt Me fel stondin yn y farchnad, ond erbyn hyn mae'r siop ar y stryd fawr wedi ehangu.
Yn 么l perchennog a sylfaenydd y siop, Becky Oldfield, mae'r ffaith bod Aberteifi wedi cael sylw ym mhapur newydd y Times yn hwb aruthrol ar gyfer cyfnod y Nadolig.
"Mae'n anhygoel ond dyw e ddim yn syndod. Mae'n deillio o'r ffaith ein bod ni mor unigryw.
"I'r holl fusnesau annibynnol yn y dref, mae'n newyddion gwych. Ni mor bles."
'Cyffrous iawn i Aberteifi'
Un o fusnesau mwyaf newydd y dref ydy gwesty'r Albion ar lannau Afon Teifi. Mae'r Times yn dweud bod "dyluniad y gwesty wedi ei ysbrydoli gan hanes morwrol Bae Ceredigion".
Jack Scott yw'r rheolwr cyffredinol: "Fel busnes, ni wedi bod ar agor ers rhyw flwyddyn nawr.
"Mae'n gyffrous iawn i gael y math hynny o sylw yn y wasg. Mae'n gyffrous iawn i Aberteifi.
"Dwi'n meddwl bod y dref wedi bod yn tyfu'n gyflym dros y pum i chwe blynedd diwethaf, ac mae'n hyfryd i weld Aberteifi yn datblygu i'w llawn botensial fel tref fach fywiog a chartrefol ar arfordir gorllewin Cymru."
Mae gwaith adnewyddu mawr yn digwydd ar hyn o bryd i hen Neuadd y Farchnad o'r 19eg ganrif.
Mae'r prosiect 拢3.1m yn cynnwys atgyweirio'r to, gosod system wresogi, creu mynedfa newydd a lifft, toiledau cyhoeddus tu 么l y farchnad a chyflwyno gwelliannau i'r stondinau.
Mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau yn 2024.
'Arbrofi'r farchnad'
Yn 么l y Cynghorydd Clive Davies, sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd ar gabinet Cyngor Sir Ceredigion, mi fydd y datblygiadau yn atyniad arall i ddenu ymwelwyr i Aberteifi: "Mae lot o arian wedi cael ei wario ar greu y gofod yma.
"Ma' fe'n rhywbeth unigryw eto sy'n gallu ychwanegu at y dre'.
"Yna, mae nifer o siope sydd gyda ni ar y stryd fawr wedi dechre.
"Fi'n gallu meddwl am bedwar neu bump ddechreuodd yna a bydd hwnna'n gret wedyn ar gownt pobl sydd moyn arbrofi'r farchnad a gobeithio dod i'r stryd fawr yn Aberteifi yn y tymor hir ond gobeithio bydd pobl yn gallu dod mewn I'r farchnad a gweld rhywbeth ychwanegol mae'r dref yn gallu ei roi iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2022