大象传媒

Ymddiheuro i deulu am amlosgi'r corff anghywir

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Faenor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Agorodd Ysbyty'r Faenor, Cwmbr芒n ym mis Tachwedd 2020

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi "ymddiheuro o waelod calon" yn dilyn adroddiadau fod y corff anghywir wedi ei amlosgi ar 么l cael ei ryddhau o'r ysbyty.

Mae papur newydd y South Wales Argus yn adrodd fod y teulu mewn profedigaeth - sydd heb eu henwi - wedi gorfod cynnal ail amlosgiad unwaith y ddaeth y camgymeriad i'r amlwg yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbr芒n, Torfaen.

"Ni all geiriau fynegi pa mor flin ydym ni," meddai Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Nid ydyn nhw'n credu fod y claf arall "a theulu sy'n hysbys".

"Rydym yn gwbl dorcalonnus am yr hyn sydd wedi digwydd i'r teulu ac rydym yn cymryd cyfrifoldeb am y digwyddiad eithriadol hwn," ychwanegodd Ms Prygodzicz.

"Rydym wedi cyfarfod 芒'r teulu i'w hysbysu'n llawn am y sefyllfa hon ac i gynnig cymaint o gefnogaeth ag sydd ei angen arnynt."

Dywedodd ei bod am "sicrhau'r cyhoedd bod hwn yn achos eithriadol".

Fe wnaeth y bwrdd iechyd "nodi'r camgymeriad hwn trwy ein prosesau ein hunain," meddai.

Ar 么l adolygiad cychwynnol, roedd yn "hyderus mai camgymeriad dynol mewn achos unigol sy'n gyfrifol am hyn".

"Fodd bynnag, rydym yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad hwn a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r teulu drwy gydol ein hymchwiliad.

"Ni all unrhyw eiriau y gallwn eu dweud, na chamau y gallwn eu cymryd, unioni hyn.

"Mae'n ddrwg gennym ni ac mae ein meddyliau a'n cefnogaeth lawn yn parhau gyda'r teulu."

Pynciau cysylltiedig