Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dydi'r cymdeithasu ddim yn gorfod stopio os ti'n sobor'
Ar 么l blynyddoedd o nosweithiau meddwol ac atgofion niwlog, penderfynodd Emily Power roi'r gorau i yfed alcohol ddwy flynedd yn 么l, a dydi hi ddim wedi edrych n么l.
Mae gallu aros yn sobor wedi bod yn 'hawdd' iddi, meddai, yn enwedig ers sefydlu Social Gals Wales, sef gr诺p sy'n cysylltu merched sobor ledled Cymru, ac yn cynnal achlysuron i gymdeithasu sydd ddim yn cynnwys alcohol.
Dyma ei stori:
Yfed, difaru... ac ailadrodd...
Cyn dod yn sobor, roedd yn teimlo fel tasai fy mywyd yn cylchdroi o amgylch yfed.
Bob wythnos, o'n i'n edrych mlaen at y penwythnos, lle fyddwn i'n cael sesiynau hirfaith o yfed ac yn gwneud casgliad di-ri o benderfyniadau o'n i'n eu difaru. Gweddill y penwythnos wedyn, byddwn i'n pryderu am y penderfyniadau hynny, ac yn gorwedd yn y gwely yn teimlo'n s芒l ac yn sori drosta fi fy hun.
Er mod i wastad wedi bod yn uchelgeisiol ac yn benderfynol, o'n i'n aml yn canslo cynlluniau achos hangofyr, ac o edrych n么l, mae'n si诺r byddai fy ffrindiau wedi teimlo bod dim modd dibynnu arna i.
Fy mywyd cymdeithasol i oedd yfed - roedd unrhyw achlysur cymdeithasol yn cael ei nodi gyda shots, ac o ganlyniad yn achosi i unrhyw atgofion melys posib fod yn llawer mwy niwlog. Doedd fy iechyd meddwl ddim y gorau, gan fy mod i'n aml yn diodde' o or-bryder. Ro'n i hefyd mewn patrwm rheolaidd o geisio cadw at raglen ffitrwydd, ond o'n i jyst methu bod yn gyson.
Y tro cynta' i mi ddod yn agos at weld fod fy mherthynas i gydag alcohol ddim yn un iach oedd pan o'n i'n y brifysgol, a 'naeth cwnselydd gynnig mod i'n stopio er mwyn helpu fy iechyd meddwl; y gor-bryder a theimlo'n isel.
Roedd y syniad yn chwerthinllyd, a 'nes i barhau i wadu fod bywyd heb alcohol yn bosib.
Fodd bynnag, wrth i amser basio, 'nes i sylweddoli os o'n i eisiau byw'r bywyd o'n i wir ei eisiau, roedd yn rhaid i'r alcohol fynd.
'Nes i fy ymgais gyntaf at sobrwydd yn 2021, a barodd rhyw fis neu ddau, cyn i mi i syrthio n么l mewn i'r un hen arferion gwael. Dyna pryd 'nes i sylweddoli, os o'n i am wneud ymgais arall, roedd rhaid i'r ymgais yna fod Yr Un.
'Nes i ymrwymo i fywyd heb y booze ar 1 Ionawr 2022, a dydw i ddim wedi edrych n么l!
'Penderfyniad hawdd'
A bod yn hollol onest, ar 么l ei wneud, dwi wedi ffeindio mai peidio yfed ydi un o'r penderfyniadau mwyaf hawdd dwi erioed wedi ei wneud. Dwi'n berson 'styfnig, ac unwaith dwi'n cael syniad i 'mhen, dwi'n taflu fy hun yn llwyr i mewn iddo.
Roedd y triggers yn fwy aml yn y dechrau - y gig byw cynta', y tro cynta' es i i'r dafarn - ond wrth i mi lwyddo i beidio cael fy nhemtio ar yr holl achlysuron yna, daeth hi hyd yn oed yn haws i ymwrthod.
Mae cael 'cynllun dianc mewn argyfwng' (fel dweud ymlaen llaw wrth ffrindiau y gallwn i fod angen gadael yn gynnar) a chael opsiynau di-alcohol wedi bod o help mawr. Nawr, mae'n dod yn naturiol i mi, a does gen i ddim awydd i yfed o gwbl.
Ro'n i'n ffodus iawn fod fy holl ffrindiau yn gefnogol iawn o fy mhenderfyniad. Dwi'n meddwl fod nifer ohonyn nhw'n falch mod i wedi gwneud y penderfyniad yma er fy iechyd a fy lles fy hun, ac roedden nhw'n hapus i gael eu ffrind dibynadwy yn 么l.
Dwi ddim wedi cael llawer o ymateb negyddol - y gwaethaf oedd gan bobl dwi'n eu lled-adnabod a fyddai'n chwerthin ac yn dweud na fyddwn i'n hwyl ddim mwy, ond dwi wastad wedi meddwl efallai fod unrhyw un sydd 芒 theimladau negyddol tuag at sobrwydd rhywun arall, yn cuddio teimladau tuag at eu perthynas nhw eu hunain gydag alcohol.
Er fod cymdeithasu ac alcohol yn arfer mynd law-yn-llaw i mi, fel nifer o bobl yn y DU, 'nes i ddechrau llunio bywyd newydd i mi fy hun, a herio fy hun i edrych tu fas i'r bocs wrth drefnu i gwrdd 芒 ffrindiau (nid 'beth am fynd mas i yfed'). Nawr ry'n ni'n cwrdd am weithgareddau fel gemau bwrdd neu gwis tafarn.
Sober Gals Wales
Roedd Sober Gals Wales yn syniad a ddechreuodd mewn sgwrs gyda gr诺p o ferched sobor tebyg yng Nghymru o'n i wedi dod ar eu traws. O'n i'n teimlo mod i eisiau creu rhwydwaith i gefnogi merched sydd o bosib yn mynd drwy'r un profiadau 芒 fi. Wrth greu'r gr诺p, dwi wedi dod o hyd i fwy na hynny ac wedi gwneud ffrindiau am byth.
Ry'n ni'n trefnu digwyddiadau rheolaidd, gyda phob aelod yn cymryd rhan yn trefnu digwyddiadau sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Ein nod yw i brofi nad wyt ti angen alcohol i gael hwyl. Ry'n ni wedi mwynhau pethau fel paentio crochenwaith, escape rooms, gwyliau cerdded, creu torchau Nadolig, gwersi dawnsio a mwy, ynghyd 芒 chlwb llyfrau sy'n cyfarfod yn fisol.
Mae'r gr诺p wedi bod o help enfawr i nifer, gan fy nghynnwys i, drwy gynnig cefnogaeth, ond i mi, y peth mwyaf gwerthfawr yw cyfarfod gymaint o bobl o brofiadau, oedrannau a siwrneiau sobrwydd gwahanol. Dwi wedi gwneud gymaint o ffrindiau newydd ac mae fy nghalendr cymdeithasol bob amser yn llawn o hwyl!
Mae hi hefyd yn wych i wybod fod gen i bobl alla i siarad gyda nhw os oes gen i unrhyw broblemau o ran fy sobrwydd - mae'r gefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae fy nyfodol yn un sobor, dwi'n gwybod hynny. Mae sobrwydd wir wedi newid fy mywyd er gwell ym mhob ffordd. Dwi'n gwybod fod yfed ddim i mi ddim mwy - mi wnes i'n sicr lawer ohono, ac mae fy mywyd newydd sobor yn rhoi gymaint i mi, wn i ddim am reswm call pam fydden i'n codi peint eto.
Mae Sober Gals Wales yn parhau i dyfu bob dydd, ac ar hyn o bryd, mae gennym ni ryw 700 o aelodau. Hoffwn i i'r gr诺p barhau i dyfu a dwi'n gobeithio fydd ein digwyddiadau yn gwella ac yn tyfu!
Ond yn bwysicach na hynny, dwi'n gobeithio y gallwn ni barhau i gefnogi'r rheiny sydd ar eu siwrne eu hunain tuag at sobrwydd.
Hefyd o ddiddordeb: