大象传媒

Disgwyl i Jeremy Miles sefyll i fod yn Brif Weinidog

  • Cyhoeddwyd
Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Jeremy Miles ei benodi yn Weinidog Addysg Cymru yn 2021

Mae gan Weinidog Addysg Cymru ddigon o gefnogwyr i allu ymuno 芒 ras arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Nid yw Jeremy Miles eto wedi cadarnhau y bydd yn sefyll, ond bellach mae o leiaf pum aelod o'r Senedd wedi datgan eu cefnogaeth, sy'n ddigon iddo roi ei enw ymlaen.

Cyhoeddodd ei wrthwynebydd, Vaughan Gething, ei fod yn sefyll i fod yn Brif Weinidog ddydd Iau.

Cafodd y ras i arwain Llafur Cymru ei sbarduno ar 么l i Mark Drakeford gyhoeddi ddydd Mercher y bydd yn ildio'r awenau ym mis Mawrth.

Mae modd i ymgeiswyr ymuno 芒'r ras os oes ganddyn nhw gefnogaeth o leiaf pum aelod Llafur arall o'r Senedd.

Daeth i'r amlwg ddydd Iau bod gan Mr Gething gefnogaeth o leiaf wyth o ASau Llafur.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gyhoeddodd Vaughan Gething ddydd Iau ei fod yn sefyll i fod yn Brif Weinidog

Erbyn bore Gwener roedd Mr Miles hefyd wedi sicrhau pum aelod, sef y gweinidogion Julie James a Lesley Griffiths, AS Rhondda Buffy Williams, AS Ogwr Huw Irranca Davies a dirprwy lywydd y Senedd, David Rees.

Dywedodd Ms Williams: "Mae angen i ni fod yn oedolion, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ac mae angen i ni adeiladu ar y cysylltiadau rydym eisoes wedi'u datblygu gyda'r gwrthbleidiau er mwyn llwyddo yn ystod y cyfnod anodd yma.

"I mi, dim ond drwy ethol Jeremy Miles fel Prif Weinidog y bydd hynny yn bosib."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n parhau fel Aelod o'r Senedd hyd at etholiad 2026

Mae cyn-ysgrifennydd Cymru, yr Arglwydd Hain, hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi Mr Miles.

Mae Mr Miles, 52, wedi gwasanaethu fel Gweinidog Addysg i Gymru ers mis Mai 2021.

Wedi'i eni a'i fagu ym Mhontarddulais, aeth Mr Miles i Rydychen i astudio'r gyfraith cyn symud i weithio mewn swyddi cyfreithiol a masnachol o fewn sefydliadau cyfryngau gwahanol, gan gynnwys ITV a NBC Universal.

Cafodd ei ethol i'r Senedd yn 2016 fel aelod dros Gastell-nedd.

Yn y cyfamser, bydd un o bwyllgorau Llafur Cymru yn llunio amserlen ar gyfer yr etholiad arweinyddiaeth ddydd Gwener.

Mae Mark Drakeford yn bwriadu ymddiswyddo ym mis Mawrth, a'r disgwyl yw y bydd y broses i ddod o hyd i'w olynydd fel Prif Weinidog yn gorffen cyn y Pasg.