大象传媒

Graddau arbennig i'r brodyr a'r cricedwyr Eifion ac Alan Jones

  • Cyhoeddwyd
Y brodyr Jones wedi'r seremoni raddioFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraeodd Eifion ac Alan Jones sawl g锚m gyda'i gilydd dros Forgannwg

Fel cricedwyr y mae'r brodyr Eifion ac Alan Jones yn fwyaf adnabyddus, ac am eu cyfraniad i'r g锚m honno y mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu graddau er anrhydedd iddyn nhw.

Rhwng y 1960au a'r 1980au buon nhw'n chwarae'n gyson gyda'i gilydd dros Forgannwg ac roedden nhw'n ganolog i lwyddiant y sir pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969.

"Mae'n anrhydedd arbennig i'r ddau ohonon ni," meddai Alan, "oherwydd ry'n ni 'di chwarae gyda'n gilydd ers blynyddoedd - wedi chwarae yn y pentref, yn y Felindre wrth gwrs, a wedyn dod trwyddo i chwarae i Forgannwg, ac mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod braf, pwysig iawn i'r ddau ohonon ni."

Fel "diwrnod pwysig' y disgrifiodd Eifion yr achlysur: "Tase rhywun yn dweud wrtha i bo fi'n cael y cap and gown yr un diwrnod 芒 gas yn grandchildren i eu cap and gown, bydden i byth wedi credu fe.

"Ydy mae'n ddiwrnod pwysig iawn yn y mywyd i."

'Cyfraniad rhyfeddol'

Am eu cyfraniad i griced y cafodd y ddau frawd eu hanrhydeddu, mewn seremoni dafliad carreg o faes Sain Helen lle profon nhw gymaint o lwyddiant.

Dywedodd Syr Roderick Evans, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae eu hanes nhw mor arbennig - dau frawd lleol, yn dod o deulu mawr yn Felindre, wedi gwneud cyfraniad rhyfeddol i'r ddinas ac i Forgannwg ac wrth gwrs i Gymru ym maes criced.

"Maen nhw yn bobl mor hyfryd ac mae'r brifysgol am ddathlu llwyddiannau ac arwyr lleol."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y brodyr yn ystod y seremoni ym Mhrifysgol Abertawe

Roedd Eifion yn wicedwr heb ei ail - hawliodd 94 o wicedi yn ystod tymor 1970 a oedd yn record ar y pryd.

Ac roedd yr un mor llwyddiannus gyda'r bat - yn sgorio 146 o rediadau heb fod allan yn 1968 mewn partneriaeth o 230 gyda'i frawd Alan.

"Roedd e'n fatiad hapus i'r ddau ohonon ni," meddai Alan, oherwydd roedd yn neis i fi fod yr ochr draw i Eifion pan sgoriodd e ei 100 cyntaf i Forgannwg.

"Ti'n cofio'r pethau 'ny oedd yn digwydd yn dy yrfa di."

Batiwr dewr a meistrolgar oedd Alan Jones, a gafodd ei benodi yn gapten ar y sir ym 1977 a 1978.

Ar 么l ymddeol parhau wnaeth ei gysylltiad 芒 Morgannwg fel hyfforddwr ac yna fel llywydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alan Jones yn derbyn cap Lloegr ddwy flynedd yn 么l

Ddwy flynedd yn 么l, derbyniodd gap rhyngwladol, a hynny hanner canrif ers iddo gynrychioli Lloegr yn ei unig g锚m ryngwladol yn erbyn gweddill y byd.

Ar y pryd roedd iddi statws rhyngwladol lawn ond cafodd hynny ei newid ddwy flynedd yn ddiweddarach. Bellach mae'r cap yn atgof o'r dyddiau da.

"Mae popeth wedi digwydd i fi ers troi'n 80 a dweud y gwir," meddai Alan gan chwerthin.

"Ges i gap Lloegr pan o'n i'n 80 ryw dair neu bedair blynedd yn 么l. Roedd e'n hir yn dod, cofia, ond roedd e'n neis ei gael e!"