Meddygon iau Cymru i streicio am 72 awr dros gyflogau
- Cyhoeddwyd
Bydd meddygon iau yng Nghymru yn streicio am 72 awr ym mis Ionawr yn dilyn anghydfod dros eu t芒l.
Roedd 98% o'r 1,740 wnaeth fwrw pleidlais o blaid streicio, gyda'r streic i'w chynnal o 07:00 ar 15 Ionawr.
Yn 么l Cymdeithas Feddygol y BMA mae cyflogau meddygon iau wedi gostwng 29.6% mewn termau real ers 2008-2009.
Roedd BMA Cymru wedi cyhoeddi anghydfod ffurfiol gyda Llywodraeth Cymru ym mis Awst.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad ond "nid oedden nhw mewn sefyllfa i gynnig rhagor ar hyn o bryd".
Daeth y bleidlais wedi i BMA Cymru wrthod y cynnig diweddaraf o 5% o gynnydd i gyflogau gan y llywodraeth.
Mae meddygon wedi cael y codiad cyflog yna gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r BMA yn dweud fod hynny wedi cael ei orfodi ar aelodau.
Mae'r codiad 1% yn is na'r 6% oedd wedi'i awgrymu gan y corff sy'n cynghori'r llywodraeth ar d芒l.
Yn 么l y gymdeithas gallai'r streic olygu bod dros 3,000 o feddygon yn gweithredu.
65% o'r rheiny oedd yn gymwys wnaeth fwrw eu pleidlais.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru: "Mae'r bleidlais hon yn amlwg yn dangos cryfder y teimlad.
"Rydym yn rhwystredig ac yn ddig ac rydym wedi pleidleisio'n glir i ddweud, 'yn enw ein proffesiwn, ni allwn ac ni fyddwn yn erydu ein cyflog ymhellach'.
"Bydd meddyg sy'n dechrau eu gyrfa yng Nghymru yn ennill cyn lleied 芒 拢13.65 yr awr, ac fe allen nhw fod yn perfformio triniaethau i achub bywydau pobl, a chael cyfrifoldebau enfawr.
"Dydyn ni ddim yn gofyn am godiad cyflog - rydyn ni'n gofyn i'n t芒l ddychwelyd lefelau 2008, i gyd-fynd 芒 chwyddiant, sef pryd y dechreuon ni weld ein cyflog yn cael ei dorri mewn termau real."
Beth yw meddyg iau?
Mae bron i 4,000 o feddygon iau yn gweithio yn ysbytai a meddygfeydd Cymru.
Maen nhw'n feddygon sydd wedi cymhwyso, ac yn cynnwys y rheiny sydd newydd adael y brifysgol hyd at y rheiny sydd wedi bod yn y swydd am flynyddoedd lawer.
Mae pob meddyg sy'n dal i hyfforddi - boed hynny'n hyfforddi i fod yn feddyg teulu neu'n ymgynghorydd mewn ysbyty - yn cael ei ystyried yn feddyg iau.
Ar hyn o bryd, t芒l sylfaenol meddyg iau sydd yn eu blwyddyn gyntaf ar 么l cymhwyso fel meddyg ydy 拢27,115, neu tua 拢13 yr awr os yn gweithio wythnos 40 awr.
'Ddim mewn sefyllfa i gynnig rhagor'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n siomedig bod meddygon wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol ond rydym yn deall cryfder eu teimladau am y cynnig cyflog o 5%.
"Er ein bod yn dymuno mynd i'r afael 芒'u huchelgeisiau cyflog, mae ein cynnig ar derfyn y cyllid sydd ar gael i ni ac yn adlewyrchu'r sefyllfa a gyrhaeddwyd gydag undebau iechyd eraill ar gyfer eleni.
"Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn sefyllfa i gynnig rhagor ar hyn o bryd.
"Byddwn yn parhau i bwyso arnynt i drosglwyddo'r cyllid sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gyda'r BMA a chyflogwyr y GIG a byddwn ar y cyd yn sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei ddiogelu yn ystod gweithredu diwydiannol."
Dywedodd llefarydd o Lywodraeth y DU fod "Llywodraeth Cymru wedi'i ariannu'n dda er mwyn cyflawni ar ei gyfrifoldebau datganoledig - gan gynnwys iechyd - gan ein bod ni'n rhoi 拢18bn y flwyddyn iddo, sef y mwyaf ers dechrau datganoli.
"Yn y pendraw rhaid iddo ateb i'r Senedd a phobl Cymru yngl欧n 芒 sut mae'n penderfynu ariannu gwasanaethau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023