大象传媒

Ap锚l National Theatre Wales am gyllid gan CCC wedi methu

  • Cyhoeddwyd
Actorion yn ymarfer perfformio The Cost of LivingFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelodau cast The Cost of Living - cynhyrchiad National Theatre Wales yn gynharach eleni

Mae ap锚l National Theatre Wales (NTW) i geisio sicrhau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wedi cael ei wrthod.

Roedd y sefydliad yn un o sawl enw amlwg oedd yn absennol o'r rhestr o sefydliadau sy'n derbyn cefnogaeth ariannol y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth NTW gyflwyno ap锚l "manwl a chynhwysfawr" oedd yn amlinellu pam y dylid ailystyried y penderfyniad.

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod yn cytuno'n unfrydol nad oedd yna unrhyw faterion yn y cais oedd yn haeddu adolygiad neu ailasesiad, ac yn sgil hynny eu bod nhw wedi cadw at y penderfyniad gwreiddiol.

Mewn ymateb dywedodd NTW eu bod wedi eu "siomi'n ddirfawr", gan barhau i alw am "fwy o gefnogaeth a thegwch i'r celfyddydau yng Nghymru".

Mae CCC, y corff sy'n dosbarthu arian Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol i gefnogi'r sector yng Nghymru, wedi cynnig grantiau amodol gwerth bron i 拢30m i 81 o sefydliadau eleni.

Mae nifer y sefydliadau sy'n derbyn arian yn gynnydd o'r 67 a gafodd y tro diwethaf, a hefyd mae cyfanswm yr arian sydd ar gael wedi cynyddu o 拢28.7m i 拢29.6m.

Wedi'r cyhoeddiad ym mis Medi, dywedodd National Theatre Wales bod y penderfyniad yn "sioc ddofn", a fyddai'n effeithio ar staff, cynhyrchwyr theatr a chymunedau.

Penderfyniad 'unfrydol'

Ond roedd penderfyniad CCC i gadw at y penderfyniad gwreiddiol yn "unfrydol".

Dywedodd y corff mewn datganiad: "Wrth ddod i'r penderfyniad yma fe wnaeth y cyngor roi pwyslais arbennig ar y canllawiau adolygiad buddsoddi, ac roedd y broses asesu wedi ei dilyn yn llawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae ymateb manwl, sy'n ymhelaethu ar y rhesymau penodol pam bod y penderfyniad yma wedi ei wneud, wedi cael ei anfon at NTW."

Ychwanegodd CCC mai dyma yw diwedd y broses ap锚l.

Galw am 'degwch'

Dywedodd National Theatre Wales eu bod wedi eu "siomi'n ddirfawr" gan y penderfyniad, ac er "wedi cymryd rhan yn y broses apelio mewn ewyllys da", roedd yn gofyn am "lawer o lafur a llawer o fanylion".

"Mae'r sefyllfa wedi bod yn anodd iawn i'n helusen ac i'r gwneuthurwyr theatr, y sefydliadau diwylliannol a'r cymunedau niferus rydyn ni'n gweithio gyda nhw.

"Byddwn bellach yn treulio amser yn trafod gyda'n rhanddeiliaid, ein partneriaid a'n cyllidwyr i ystyried ffyrdd posibl ymlaen, a byddwn yn gwneud datganiad llawnach fis Ionawr.

"Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i alw am fwy o gefnogaeth a thegwch i'r celfyddydau yng Nghymru."

Pynciau cysylltiedig