大象传媒

Tad cyn-bennaeth S4C yn anfon llythyr chwyrn ar 么l gorddos

  • Cyhoeddwyd
Sian DoyleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Si芒n Doyle ei diswyddo fel prif weithredwr S4C fis diwethaf

Mae tad cyn-brif weithredwr S4C Si芒n Doyle wedi ysgrifennu llythyr chwyrn at Lywodraeth y DU a'r sianel yn eu beirniadu am y ffordd wnaethon nhw drin ei ferch, a rhoi'r bai arnyn nhw am iddi gymryd gorddos.

Mewn llythyr a gafodd ei anfon ddydd Mawrth a'i rannu gyda 大象传媒 Cymru, mae Dennis Jones yn dweud ei fod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn Llywodraeth y DU a Bwrdd S4C am eu hymddygiad honedig "yn y saga druenus hon".

Ar 么l gwneud y "penderfyniad anodd ond unfrydol" i ddiswyddo Ms Doyle ym mis Tachwedd, dywedodd Awdurdod S4C fod "natur a phwysau'r dystiolaeth a ddarparwyd" gan ymchwiliad i fwlio honedig yn "bryderus iawn" a bod angen iddyn nhw wneud newidiadau "ar unwaith".

Yn gynharach yn y mis, ddiwrnod ar 么l cyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad, dywedodd g诺r Ms Doyle ei bod wedi cael triniaeth ysbyty ar 么l cymryd gorddos.

Dywedodd S4C fod y newyddion bod Ms Doyle wedi bod yn yr ysbyty yn "bryderus iawn" a'u bod wedi "cynnig eu cefnogaeth i'r teulu".

Dywedodd y DCMS fod eu "meddyliau a'n gwedd茂au gyda Si芒n Doyle", a'u bod yn "disgwyl i fwrdd S4C fynd i'r afael 芒'r materion a gafodd eu nodi yn yr ymchwiliad annibynnol gan Capital Law fel mater o frys".

Ychwanegodd llefarydd eu bod "wedi bod mewn cysylltiad cyson gydag S4C drwy gydol yr ymchwiliad hwn a bydd yn parhau felly".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Si芒n Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau yn ei herbyn yn yr adroddiad

Yn ei lythyr, dywed Mr Jones fod Si芒n Doyle wedi ei rhuthro i'r ysbyty "oherwydd cyfres o fethiannau gan [y DCMS] ac S4C" a bod ei ferch "wedi goroesi ond yn dal heb ddod trwy'r perygl".

Mae'n honni bod ei ferch wedi gwneud cwyn i'r DCMS ac i gyfarwyddwyr S4C am "fwlio cyson gan Gadeirydd y sianel - Rhodri Williams".

Dywedodd S4C yr wythnos ddiwethaf nad oes unrhyw ganfyddiad o fwlio wedi'i wneud yn erbyn Mr Williams.

Mae Mr Jones yn honni bod y DCMS wedi "dewis anwybyddu" y g诺yn honno.

Mae'n honni bod Mr Williams wedi "gweithredu trefn o ddesbotiaeth" trwy gydol cyfnod ei ferch gyda'r sianel ac yna wedi ei "diswyddo heb ymgynghori".

Comisiynodd Awdurdod S4C gwmni cyfreithiol Capital Law i ymchwilio i honiadau o fwlio gan aelodau o d卯m rheoli S4C ar 么l i undeb Bectu godi pryderon ym mis Ebrill eleni.

Cafodd Mrs Doyle ei diswyddo ym mis Tachwedd mewn penderfyniad unfrydol gan Awdurdod S4C.

Fe wnaethon nhw ddyfynnu canfyddiadau adroddiad Capital Law fel y rheswm dros ei diswyddo.

Roedd yr adroddiad cryno wedi'i olygu i sicrhau fod y rhai a gafodd eu cyfweld yn aros yn anhysbys.

Roedd yn cynnwys honiadau bod arddull rheoli Si芒n Doyle yn "unbenaethol" ac yn "creu diwylliant o ofn".

Dywedodd rhai a gafodd eu dyfynnu bod Ms Doyle wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd.

Ymatebodd Ms Doyle gan ddweud nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau.

Adroddiad yn 'unochrog'

Dywed ei thad fod yr adroddiad yn rhan o "ymgyrch o erledigaeth" yn erbyn ei ferch a'i fod yn unochrog - dim ond yn nodi'r ymatebion negyddol.

Mae Mr Jones hefyd yn datgan yn ei lythyr: "Y ffaith eironig yw iddi gael ei denu allan o ymddeoliad er mwyn caniat谩u i'w henw gael ei ystyried ar gyfer y swydd, ac yn ystod y flwyddyn a'r 11 mis a hanner o'i chyfnod yn y swydd roedd hi wedi cyflawni'r amcanion a osodwyd gan y Bwrdd, ac a gadarnhawyd ganddynt yn ddiweddar."

Mae'n honni hefyd "nad ydym wedi derbyn cydnabyddiaeth hyd yn oed o ohebiaeth gyda'r naill sefydliad na'r llall".

Nid yw'r DCMS wedi ymateb i'r honiadau yma.

Ar 么l i fersiwn wedi'i olygu o adroddiad Capital Law gael ei ryddhau yn gynharach y mis hwn, dywedodd awdurdod S4C eu bod "wedi ymrwymo i sicrhau bod S4C yn fan lle mae ein staff yn hapus a diogel - yn fan lle maen nhw'n teimlo y gallant berfformio ar eu gorau a ffynnu".

Ychwanegon nhw eu bod yn cydnabod fod angen iddynt "adfer hyder ac ymddiriedaeth yn y sefydliad - nid yn unig ymhlith ein staff ond gyda'n partneriaid yn y sector creadigol, cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt".

Dywedodd y DCMS eu bod yn dymuno gwellhad buan i Si芒n Doyle a bod "gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, fel pob sefydliad, gyfrifoldeb i gynnal dyletswydd gofal i bob gweithiwr".

Os ydy cynnwys yr erthygl hon wedi eich effeithio, mae cyngor ar gael ar wefan 大象传媒 Action Line.

Pynciau cysylltiedig