Marwolaethau Coedel谩i: Chwech o bobl mewn car a darodd fws
- Cyhoeddwyd
Mae cwestau i farwolaethau tri dyn ifanc mewn gwrthdrawiad rhwng car a bws yn Rhondda Cynon Taf wedi eu hagor a'u gohirio.
Fe gafodd Callum Griffiths, 19, Jesse Owen, 18, a Morgan Smith, 18, eu lladd yn y digwyddiad yng Nghoedel谩i ar 11 Rhagfyr.
Cafodd dau ddyn ifanc arall, 18 ac 19 oed, eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Clywodd agoriad y cwestau ym Mhontypridd fod chwech o bobl yn y car Audi A1 - car sydd 芒 phedair neu pum sedd - at Stryd Elwyn y noson honno.
Y gred yw mai Jesse Owen oedd yn gyrru'r car.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw Mr Owen, o Donypandy, am 20:19.
Mae'r patholegydd wnaeth gynnal archwiliad post-mortem yn credu ei fod wedi marw o anafiadau i'w ben a'i frest.
Bu farw Callum Griffiths, o ardal Porth, am 20:00 ac mae'r patholegydd yn credu ei fod wedi marw o ganlyniad i anaf i'w ben.
Bu farw Morgan Smith, o Donypandy, am 20:09 gyda'r patholegydd yn dweud mai anafiadau i'w ben a'i wddf oedd achos ei farwolaeth.
Dywedodd y crwner Graeme Hughes fod ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad yn parhau ac nad yw'n disgwyl clywed casgliadau'r swyddogion tan un ai mis Ebrill neu fis Mai.
Fe fynegodd ei gydymdeimlad tuag at deuluoedd y tri g诺r ifanc.
Cafodd y cwestau eu gohirio tan y gwanwyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023