Canu carolau'n codi'r galon mewn cartref dementia yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mewn cartref gofal ar gyrion Caernarfon mae'r cerddor Nia Davies Williams yn paratoi i gyflawni'r wyrth o deithio'n 么l mewn amser drwy gerddoriaeth.
Wrth iddi chware nodau cyntaf Dawel Nos ar y piano mae wynebau'r criw o breswylwyr, pob un ohonynt yn byw gyda dementia, yn troi at y piano ac yn ara' deg yn dechrau cofio, a chanu, geiriau'r garol Nadolig fytholwyrdd.
"Mae carolau Nadolig yn debyg i emynau felly maen nhw'n cofio nhw o'u plentyndod," meddai Nia, sy'n gweithio fel cerddor preswyl yng nghartref Bryn Seiont Newydd ers Hydref 2015.
"Gan mae dim ond am dros gyfnod byr rydym yn canu carolau mae angen iddyn nhw chwythu'r llwch o'r cof fel petai ond maen nhw yn dod yn eu h么l a pan maen nhw'n canu nhw, yn enwedig mewn un criw, mae'n eitha' infectious a buan iawn mae pawb yn mynd i mewn i ysbryd y Nadolig."
Un o'r preswylwyr sy'n wastad yn arwain y canu, boed yn Nadolig neu unrhyw amser arall o'r flwyddyn, yw David Edwards, sy'n 71 oed ac yn wreiddiol o Ddolwyddelan.
"Be' dwi'n hoffi fwy ydi cael gwneud gwahanol fath o ganeuon. Mae'n dod 芒 lot o bleser i mi na neud yr un rhai trwy'r amser," meddai David, oedd yn arfer bod yn aelod o G么r y Brythoniaid.
"Mae cael canu yn 'neud i mi deimlo'n dda a does dim byd yn neud i mi deimlo mor dda 芒 chael canu gyda'r c么r bach yma."
Yn 么l Nia mae effaith canu ar David a'r preswylwyr eraill bellach yn rhan allweddol o'r driniaeth ar gyfer dementia.
"Dwi'n meddwl bod pobl yn gweld bod cerddoriaeth gallu bod yn effeithiol iawn hefo pobl sy'n byw hefo dementia," meddai.
"'Dan ni yn defnyddio cerddoriaeth i helpu ffeindio'r person sydd tu 么l i'r dementia.
"Dwi'n meddwl pan mae rhywun yn byw 芒 dementia ac yn mynd drwy'r cyfnod canol i hwyr o'r salwch mae'r teuluoedd weithiau yn gallu teimlo bod nhw'n eu colli nhw er eu bod nhw'n dal i fod yn fyw.
'Gweld y person maen nhw'n ei gofio'
"Mae cerddoriaeth yn rhoi llygedyn bach o bwy oedden nhw cyn i'r salwch cymryd gafael.
"Dwi wedi gweld pobl yn eu dagrau yn gweld eu g诺r neu wraig yn canu pob pennill i g芒n pan 'dyn nhw methu rhoi brawddeg at ei gilydd.
"Maen nhw'n gweld y person maen nhw yn cofio ac wrth gwrs mae hynny yn rhywbeth positif - ti'n gweld nhw am bwy ydyn nhw ac nid y salwch yn gynta'."
Mae defnyddio cerddoriaeth fel rhan o'r driniaeth yn parhau drwy gydol y flwyddyn wedi i'r cyfnod canu carolau ddod i ben.
"Pan mae'r Dolig wedi ei pharcio am flwyddyn arall mae'n neis mynd yn 么l i'r pethau sydd wedi teilwra yn arbennig iddyn nhw a defnyddio'r rheina' hefyd," meddai Nia Davies Williams.
"Fedrwn ni gael sesiwn canu unrhyw beth o ganu carolau Nadolig i g芒n Elvis Presley. Mae'n dibynnu ar bwy sydd yn y gr诺p.
"Mae llawer o'n preswylwyr ni ddim ond yn eu 60au neu 70au a 'dyn nhw ddim eisiau clywed hen ganeuon oes a fu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2023
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023