大象传媒

Mererid Hopwood: 'Mae angen newid y drafodaeth am ryfel'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mererid Hopwood ar faes Eisteddfod Boduan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mererid Hopwood fydd yr ail ddynes i fod yn Archdderwydd

Mae'r darpar Archdderwydd wedi gofyn am "newid yn y drafodaeth" yngl欧n 芒 rhyfel.

Wrth ymuno 芒 rhaglen Dros Frecwast fel golygydd gwadd ddydd Mercher, fe rannodd y Prifardd a'r Prif Lenor Mererid Hopwood neges o heddwch, gyda'r nod o "droi arfau lladd yn offer er budd cymdeithas" a "dadarfogi'r byd".

"Mae rhyfel [yn Gaza] wedi bod yn y newyddion yn gyson eleni, gyda'r drafodaeth yn mynd i gyfeiriad pa ochr sy'n achosi'r trais mwyaf dieflig," meddai.

"Mae'n amser newid cyfeiriad y drafodaeth a holi pam y'n ni derbyn y trais yma o gwbl."

Cafodd Mererid Hopwood ei hethol i fod yn Archdderwydd yr Orsedd ar gyfer 2024-2027 ym mis Mehefin, ac bydd yn dilyn yr Archdderwydd presennol, Myrddin Ap Dafydd.

Yn ogystal 芒'i gwaith fel bardd, mae Mererid Hopwood yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, ac yn ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mererid Hopwood yw ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.

"Rhaid perswadio pobl bod ffordd arall," ychwanegodd.

"Mae arwyddair UNESCO yn dweud gan mai yn ein meddyliau ni mae rhyfela'n dechrau, yn ein meddyliau hefyd mae angen i ni adeiladu amddiffynfeydd heddwch.

"Felly mae angen i ni drefnu'n hunain yn decach, mae'n rhaid rhannu adnoddau'r cyfalaf y byd, a rhoi pin yn swigen y diwydiant arfau fel ein bod ni'n chwalu'r gafael y sydd gyda nhw arnom ni."

'Byd delfrydol'

Mewn ymateb i'r drafodaeth, dywedodd yr Uwchgapten Alan Davies bod y syniad yn un "uchelgeisiol" ond yn un da mewn byd delfrydol

"Pwy fydd yn meddwl bod o'n syniad gwael?" meddai. "Ond mae'n anghofio ychydig o bethau."

"Y prif beth yw natur dyn - ni'n gymdeithasol, mae rhai yn defnyddio trais yn ddiamod.

"Nid diwydiant amddiffyn wnaeth ddechrau rhyfel yn Wcr谩in a'r rhyfel yn Gaza, ond gwleidyddion - pobl. Dyna'r brif broblem.

"Rhaid edrych ar y bobl, a sut allwn ni newid natur dynol i wneud pobl yn barod i fyw mewn gwledydd a byd sy'n roi blaenoriaeth i heddwch."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Uwchgapten Alan Davies

Dywedodd bod natur rhyfela wedi newid dros y blynyddoedd i symud oddi wrth rhyfela: "Gweinyddiaeth am ryfel oedd gennym ni am y wlad i baratoi am ryfel, ac mae natur wedi newid erbyn hyn i weinyddiaeth amddiffyn.

"Falle ein bod ni ar ryw lethr i symud ymlaen i weinyddiaeth diogelwch ac, yn y pen draw, weinyddiaeth dros heddwch, ond ar hyn o bryd rydym yn byw mewn gwlad ddemocrataidd sydd yn parchu heddwch ac sy'n fodlon edrych ar 么l ein hunain i sicrhau diogelwch y bobl.

"Fel rhywun oedd yn y lluoedd arfog, oeddem ni ddim mo'yn rhyfela - ond roedd rhaid i ni baratoi ar gyfer rhyfela er mwyn amddiffyn beth oedd y wlad yma'n parchu sef rhyddid a bywyd rhydd mewn gwlad ddemocrataidd."

Ychwanegodd Mererid Hopwood: "Falle mod i ychydig mwy optimistaidd, ond ry'n ni ar yr un ochr.

"Pe bydden ni'n gallu dwyn persw芒d ar bobl, a dod 芒 phobl ynghyd - dwi'n meddwl bod hi'n bosib, ond dyw hi ddim yn mynd i fod yn hawdd, ac am ddigwydd dros nos.

"Rhaid i ni roi syniad arall, opsiwn arall, er mwyn gadael pobl gredu nad fel hyn sydd rhaid iddi fod.

"Dydi'r syniad negyddol yma o natur ddynol ddim yn anorfod. Allwn ni newid hwn.

"Mae angen i ni drafod y syniadau yma, rhoi'r delwedd yma a'r ddelfryd yma yn gyson nad oes rhaid i ni ymddwyn fel hyn."