Diffyg trenau ar Ddydd Calan yn 'sefyllfa od'
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau wedi cael eu gwneud i ystyried trin Dydd San Steffan a Dydd Calan fel rhan o'r "flwyddyn waith arferol" ar y rhwydwaith drenau yng Nghymru.
Daw hynny wrth i'r rhan fwyaf o gymoedd y de weld dim trenau'n rhedeg ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn, yn wahanol i weddill y wlad.
Mae'n sefyllfa "od" yn 么l y newyddiadurwr trafnidiaeth Rhodri Clark, sy'n dweud nad yw cwmn茂au trenau wedi "dal lan" gyda gofynion y cyhoedd.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw'n buddsoddi yn yr isadeiledd, a bod ganddyn nhw "gynlluniau yn y dyfodol i gyflwyno gwasanaethau Dydd Calan i Linellau Craidd y Cymoedd".
'Cwmn茂au ddim wedi dal lan'
Mae'r diffyg gwasanaethau ar Ddydd Calan yn golygu unwaith eto na fydd trenau'n rhedeg rhwng Caerdydd a threfi mawr fel Merthyr Tudful, Pontypridd a Chaerffili.
Ond fe fydd gwasanaethau'n dal i redeg mewn rhannau eraill o Gymru ddydd Llun.
"Mae hi rywfaint yn od fod 'na ardaloedd gwledig - trefi bach fel Llandeilo, Pwllheli, Llanrwst - fydd i gyd efo trenau'n rhedeg ar y diwrnod yna," meddai Mr Clark.
"Ond bydd ardaloedd mwy lle mae 'na boblogaeth uchel, fel Cwm Rhondda, Cwm Cynon, Cwm Taf, Cwm Rhymni, lle bydd dim trenau o gwbl.
"Mae'n werth cofio ein bod ni ar hyn o bryd yn buddsoddi, fel trethdalwyr, biliynau o bunnoedd i foderneiddio llinellau craidd y cymoedd.
"Rhain yw'r rhai fydd heb wasanaeth ar Ddydd Calan. Mae'n od i fod yn gwario cymaint 芒 hynny o arian i beidio cael gwasanaeth ar y diwrnod hwnnw bob blwyddyn."
Ychwanegodd Mr Clark fod modd dadlau'r un peth ar gyfer Dydd San Steffan, gan fod galw uwch bellach gan bobl sydd eisiau teithio i'r brifddinas i siopa neu wylio gemau chwaraeon dros yr 诺yl.
"O'r blaen doedd y sales ddim yn dechrau nes tipyn ar 么l y Nadolig, a doedd dim cymaint o gemau chwaraeon 芒 'dyn ni nawr yn gweld ar Ddydd San Steffan," meddai.
"Ond yn anffodus dyw cwmn茂au trafnidiaeth gyhoeddus ddim wedi dal lan gyda hynny.
"Mae'n sefyllfa sy'n mynd yn 么l i ddyddiau British Rail yn y cymoedd, lle doedd dim yr un galw.
"Byddai'n dda gweld Trafnidiaeth Cymru'n siarad gyda'r undebau am wneud Dydd Calan a Dydd San Steffan yn rhan o'r flwyddyn waith arferol."
'Dylai'r traciau ddim fod yn wag'
Dywedodd un teithiwr o Bontypridd ar Nos Galan fod diffyg trenau'r diwrnod canlynol yn golygu ei fod wedi gorfod gwrthod shifft yn ei waith yng Nghaerffili.
"Yn bersonol dyw e ddim yn gyfleus," meddai Eniola Olusegun. "Alla i bendant ddim mynd i'r gwaith fory - hyd yn oed dod yn 么l heddiw, mae'n annhebygol.
"Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n rhedeg mor aml 芒 diwrnod arferol... dylai'r traciau ddim fod yn wag, dylen nhw redeg am hanner diwrnod, neu bob awr."
Ychwanegodd Laura Morgan fod y sefyllfa hefyd yn "anghyfleus iawn".
"'Dych chi i fod i helpu pobl i gyrraedd adref yn saff," meddai. "Mae tacsis mor ddrud, does dim llawer o bobl yn gallu eu fforddio nhw, yn enwedig ar Ddydd Calan."
Roedd Katlyn Edwards yn teithio i Gaerdydd gyda'i ffrindiau ar gyfer Nos Galan, ond yn wynebu gorfod dal tr锚n cynt yn 么l nag y bydden nhw wedi ei hoffi oherwydd yr amserlen.
"Fi yn meddwl dylen nhw fod yn rhedeg ar amseroedd normal, achos i rai pobl dyna'r unig ffordd o gyrraedd gartref - falle bod nhw methu cael lifft, neu bod tacsis rhy ddrud."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw yn y broses o "drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd".
"Gyda disgwyl llai o bobl yn teithio dros y gwyliau, mae TC wedi cymryd y cyfle i wneud gwaith isadeiledd sylweddol dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd er mwyn parhau gyda'n cynlluniau am waith peirianneg sylweddol ar gyfer Metro De Cymru.
"Mae cynlluniau yn y dyfodol i gyflwyno gwasanaethau Dydd Calan i Linellau Craidd y Cymoedd, yn ogystal 芒 sicrhau gwasanaethau mwy cyson ar hyd y llinellau hyn wrth i'r buddsoddiad yn yr isadeiledd yma gael ei gwblhau, ac mae hyn oll ochr yn ochr a chyflwyno ein trenau newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2023