Bariau: Drama S4C yn 'rhoi gobaith' i gyn-weithwyr 2Sisters
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 20 o gyn-weithwyr ffatri prosesu cig ar Ynys M么n wedi bod yn gweithio ar gynhyrchiad drama newydd sy'n cael ei darlledu ar S4C.
Cafodd 'Bariau', drama am fywyd yn y carchar, ei ffilmio yn Llwyfan 1, Stiwdio Ffilm Aria yn Llangefni.
Ychydig filltiroedd i ffwrdd o'r stiwdio mae hen ffatri 2Sisters, a gaeodd y llynedd gan adael mwy na 700 o bobl yn ddi-waith.
O'r 80 o bobl oedd yn gweithio ar y ddrama, roedd 18 o artistiaid cynorthwyol parhaol yn gyn-weithwyr 2Sisters.
Un o'r rheiny oedd James Mellor, 35, a gollodd ei swydd fel rheolwr gyrru pan gaeodd ffatri 2Sisters.
"Nes i weithio yn y ffatri yna am ddwy flynedd a hanner ac mae gynno fi deulu sy' 'di gweithio yno dros y blynyddoedd," meddai James, trydydd cyfarwyddwr cynorthwyol Bariau.
Yn 么l James, sy'n wreiddiol o'r ardal, roedd gweld y ffatri yn cau wedi "taro'r ynys" a'i phobl yn fawr, yn ogystal 芒'r busnesau lleol.
'Rhoi gobaith yn 么l ar yr ynys'
Fel rhan o'i waith ar gynhyrchiad Bariau, roedd James wedi gorfod dod o hyd i bobl a'u recriwtio i fod yn y ddrama.
Roedd gweld y set yn cael ei adeiladu gan weithwyr lleol yn "anhygoel", meddai.
"Nath o roi gobaith yn 么l ar yr ynys. Mae Stiwdio Aria was dangos bod mwy i dd诺ad i Ynys M么n.
"Drwy'r cynhyrchiad 'da ni 'di rhoi gwaith yn 么l i bobl yn yr ardal."
Mae James yn parhau yn rhan o'r byd drama, gan weithio bellach ar gyfres Rownd a Rownd ar S4C.聽
Ei obaith ydy gweld ail gyfres Bariau yn cael ei chomisiynu er mwyn ail-gydio yn ei waith ar y ddrama yn y dyfodol.
"Mae'n rili bwysig i fi '诺an i gael gweithio yn y Gymraeg," ychwanegodd.
Gwylio 'anghyfforddus'聽
Ymhlith yr actorion sy'n serennu yn y ddrama mae Gwion Tegid, Adam Woodward, Bill Skinner ac Annes Elwy.
Mae'r ddrama chwe rhan yn dilyn bywyd mewn carchar dwyieithog yng Nghymru a chafodd ei hysgrifennu gan Ciron Gruffydd.
"Mae'r ddrama am y penderfyniadau mae'r cymeriadau yna yn 'neud a chanlyniad y penderfyniadau," meddai.
"Mae pawb yn euog o rywbeth. Mae hynna'n cynnwys ni tu allan a phobl tu fewn i'r carchar."
Prif gymeriad y ddrama ydy Barry Hardy, cymeriad o'r gyfres Rownd a Rownd, sydd bellach yn y carchar.
"O'dd o fel chwarae r么l newydd," meddai Gwion Tegid, sy'n chwarae rhan Barry.
"O'dd rhaid fi gadw yng nghefn fy mhen hanes y cymeriad, wrth gwrs, ond o'dd o fel creu cymeriad newydd, yn enwedig gan fod o mewn sefyllfa newydd hefo pobl newydd o'i gwmpas o."
Mae Rolant Prys Davies yn chwarae cymeriad Ned, un o'r wardeniaid sydd "wedi bod yn y busnes ers blynyddoedd."
Wrth baratoi ar gyfer y ddrama, roedd yr actorion wedi gallu siarad gyda wardeniaid go iawn yngl欧n 芒'u profiadau nhw, meddai Rolant.
Mae'r ddrama, meddai, yn gyfle i fod "yn bry ar wal o fewn carchar" oherwydd bod y stori wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn.
Er bod y ddrama yn un "anghyfforddus" i wylio ar adegau, mae Rolant yn s么n bod ganddi "densiwn, caru, gwrthdaro a chyfeillgarwch" hefyd fel rhan o'r plot.
Mae o'n disgrifio'r profiad o ffilmio ar Ynys M么n am ddau fis yn un "arbennig" gyda chriw oedd "fatha teulu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023