Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trafferthion S4C yn 'arfogi pobl sydd am waed y sianel'
Mae cyfarwyddwr cwmni teledu annibynnol blaenllaw yn dweud fod yr anghydfod cyhoeddus yn S4C yn "arfogi" pobl sydd "am waed" y sianel.
Yn 么l Bedwyr Rees, cyfarwyddwr cwmni Rondo, mae yna "ddyfodol ffyniannus i S4C," a hynny "er bod unrhyw anfodlonrwydd yn achosi ansicrwydd".
Dywedodd wrth raglen Post Prynhawn ei bod hi'n bwysig camu'n 么l o'r sefyllfa bresennol am eiliad a sylweddoli "be 'di'r trysor sydd gynnon ni ar ein dwylo".
Daw ei sylwadau wedi i gyn-brif weithredwr y sianel, Si芒n Doyle, a'r cyn-bennaeth cynnwys, Llinos Griffin-Williams gael eu diswyddo ddiwedd 2023.
Mae'r ddwy wedi dweud bod eu diswyddiadau yn annheg.
"Fy mhoen i ydy, wrth i ni chwarae hyn i gyd allan yn gyhoeddus mai'r hyn 'dan ni'n ei 'neud ydy arfogi ymhellach y rhai sy'n hogi cyllyll am waed S4C ac am annibyniaeth S4C," meddai Mr Rees.
Ychwanegodd Bedwyr Rees bod S4C yn "rhywbeth sy'n annwyl iawn, iawn i'r gynulleidfa" a bod yna nifer o bobl o fewn y diwydiant yn gweithio'n ddiflino i sicrhau dyfodol y sianel.
"Dwi wedi siarad 芒 nifer iawn o bobl yn ystod y Nadolig ac yn y tafarndai ac ar lawr gwlad - mae nifer o bobl wedi dod ata'i i siarad am gynnwys S4C gan ofyn: 'Be ti'n feddwl o hwn. Be ti'n feddwl o'r llall?'
"Mae pobl yn dadansoddi'r cynnwys, yn trafod ydy o'n eu herio ac yn isymwybodol maen nhw'n gwybod bod y peth yma yn annwyl iawn ac yn agos at eu calonnau nhw," ychwanegodd.
Dywedodd bod yn rhaid cofio am deyrngarwch y gynulleidfa wrth symud ymlaen ac am ddycnwch nifer o weithwyr yn y maes.
"Mae 'na bobl o fewn S4C na 诺yr y cyhoedd amdanyn nhw, na'u henwau nhw - 'nathon nhw 'neud o yn ystod Covid ac mae wedi digwydd eto yn ystod y misoedd diwethaf.
"Maen nhw'n bobl sy'n coelio be ydy S4C yn ei sylfaen. Yn sylfaenol mae S4C yn hawl dynol a gwaelodol i gael darlledu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
"Mae'r bobl yma yn dawel bach - dim ots be sy'n digwydd o'u cwmpas nhw, yn iro'r peirianwaith - yn g'neud yn si诺r fod pob dim yn dal i droi.
"Mae'r cyfuniad o'r bobl yma a sector annibynnol sydd wir yn credu yn S4C... a grym creadigol y sector annibynnol yna - mae'r cyfuniad yna yn golygu bod y llong yn dal i hwylio waeth beth ydy'r storm o gwmpas."
Ychwanegodd ei fod yn "ffyddiog iawn ein bod ni i ddod i dd诺r tawelach a dyfodol ffyniannus i S4C".
Mae cwmni Rondo yn cynhyrchu nifer o raglenni i S4C - yn eu plith Rownd a Rownd a Sgorio, a nos Fercher bydd y ddrama Bariau yn cael ei darlledu.
Wrth drafod y dyfodol ychwanegodd Mr Rees bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i gwmn茂au annibynnol ar draws y DU ond "gyda heriau mae 'na gyfleon hefyd".
Ychwanegodd bod y sector annibynnol yng Nghymru yn "rymus eithriadol" a bod adroddiad blynyddol diwethaf S4C yn dangos bod 71 o gwmn茂au wedi bod yn rhan o baratoi cynnwys i'r sianel.
"Mae gan bob un o'r rheina rywbeth i'w gynnig, nid yn unig i Gymru ond i'r byd. Dwi'n teimlo bo' ni'n edrych ymlaen gyda gobaith," ychwanegodd.