Cyhuddo dau ddyn ar 么l llofruddiaeth 'mab a brawd arbennig'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dyn 30 oed fu farw yn dilyn ymosodiad yn Rhondda Cynon Taf ddydd Calan.
Roedd Conall Evans yn 30 oed ac yn dod o Pentre.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw fore Llun yn dilyn adroddiadau bod dyn ag anafiadau difrifol y tu allan i faes parcio Ysbyty Cwm Rhondda, Tonypandy.
Bu farw Mr Evans o'i anafiadau ac mae dau ddyn bellach wedi eu cyhuddo o'i lofruddio.
Mae disgwyl i Ashley Davies, sy'n 30 oed ac yn dod o Pentre, a Dewi Morgan, sy'n 24 oed ac yn dod o Donypandy, i ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau.
Dywedodd teulu Mr Evans mewn datganiad ei fod yn "fab, brawd ac aelod arbennig o'r teulu" ac y byddai "colled enfawr ar ei 么l".
Mae'r heddlu'n dal i alw ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu 芒 nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr