Osian Roberts: 'Diolch i Thierry Henry am roi fy enw mlaen'
- Cyhoeddwyd
Mi oedd Osian Roberts wedi cymryd cam yn 么l o hyfforddi am naw mis, ond mae o wedi cael ei demtio'n 么l i'r byd p锚l-droed gan hen ffrind.
Fis diwetha' cafodd Osian ei benodi'n rheolwr dros dro ar Como 1907 yn Yr Eidal tan ddiwedd y tymor, diolch yn bennaf i un o'r chwaraewyr gorau yn hanes Uwch Gynghrair Lloegr.
"Mae Thierry Henry yn un o berchnogion y clwb a fo mewn gwirionedd roddodd y gair cyntaf i mewn," meddai Osian mewn cyfweliad 芒 大象传媒 Cymru.
"Trafod wedyn gyda pherchnogion y clwb, ond diolch i Thierry am roi fy enw ymlaen."
Mae Osian a Thierry Henry yn 'nabod ei gilydd ers rhai blynyddoedd bellach, a hynny ar 么l i gyn-ymosodwr Ffrainc wneud ei gymwysterau hyfforddi gyda Chymdeithas B锚l-droed Cymru ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd.
Mi oedd y cyrsiau yn cael eu rhedeg gan Osian, oedd yn gyfarwyddwr technegol CBDC ar y pryd.
"Dyna sut ddois i i nabod Thierry, sawl blwyddyn yn 么l bellach. Mae'r cyfeillgarwch yna a chyd-weithio ar ambell i beth wedi parhau ers hynny," meddai.
"Digwydd bod mi oedd 'na angen yn y clwb yma felly gafon ni sgwrs reit dda am y sialens sydd 'na, ac fe wnaeth bob dim ddisgyn i'w le."
Roedd swydd ddiwethaf Osian yn Crystal Palace fel is-reolwr i Patrick Vieira, ond fe ddaeth eu cyfnod gyda'r clwb i ben ym mis Mawrth 2023.
Mi oedd o hefyd yn rhan o d卯m hyfforddi Cymru rhwng 2010 a 2019, ac yn ddirprwy i Chris Coleman pan lwyddon nhw i gyrraedd Euro 2016, a chyrraedd rownd gynderfynol am y tro cyntaf yn eu hanes.
Rhwng ei gyfnod gyda Chymru a Crystal Palace mi dreuliodd ddwy flynedd fel cyfarwyddwr technegol Cymdeithas B锚l-droed Morocco rhwng 2019 a 2021.
"Dwi wedi dweud o'r dechrau fod yn rhaid i'r r么l nesaf fy nghyffroi i," meddai Osian.
"Mae 'na sawl elfen sy'n fy siwtio fi. Yn gyntaf dwi am fod yn rheolwr, ac mi oedd o yng nghefn fy meddwl i fod hynny'n rhywbeth o'n i eisiau ei wneud unwaith eto.
"Mae 'na r么l ehangach hefyd i adeiladu'r clwb, a dwi wastad yn licio'r sialens yna i adeiladu clwb ar gyfer y dyfodol a gadael sylfaen i rai eraill adeiladu arno.
"Ac wrth gwrs gweithio'n Yr Eidal am y tro cyntaf yn fy ngyrfa. Dwi wastad yn licio herio fy hun mewn gwahanol wledydd a gwahanol gyfandiroedd.
"Mae byw yn rhywle mor bleserus 芒 Como hefyd yn apelio i Lynne fy ngwraig a'r teulu i gyd."
'Gweledigaeth i fynd i Serie A'
Mi fydd Osian hefyd yn gweithio fel pennaeth datblygiad i Como 1907.
Mae'r clwb yn dweud y bydd yn canolbwyntio'n llawn ar y swydd honno ar 么l i'r tymor ddod i ben, pan fydden nhw'n penodi rheolwr parhaol.
Mae Como 1907 yn y trydydd safle yn Serie B, yr ail haen, gyda dau glwb yn ennill dyrchafiad yn awtomatig ar ddiwedd y tymor.
Felly be' fydd yn digwydd os fydd Osian yn eu harwain nhw i Serie A? Fydd o'n cael ei demtio i barhau fel rheolwr?
"Mae'n eithaf clir mai fy r么l i tan ddiwedd y tymor ydi rheoli'r t卯m. A wedyn gawn ni weld. Dwi ddim yn meddwl dim pellach 'na hynny.
"Dwi'n teimlo fod y rhan fwyaf ohonom ni fel rheolwyr yn rheolwyr dros dro.
"Ella fod gen ti gytundeb tair blynedd, ond dros dro ti yna go iawn. Amser a ddengys. Mae chwe mis yn y byd p锚l-droed yn amser hir iawn felly gawn ni weld sut mae pethau'n mynd.
"Da ni'n gwybod fod y clwb gyda gweledigaeth i fynd fyny i Serie A, ac wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth dwi'n hapus iawn eu bod nhw anelu ato fo oherwydd dwi efo'r un targed a breuddwyd.
"Boed hynny'n digwydd tymor yma neu tymor nesaf, gawn ni weld. Ond yn sicr dyna'r weledigaeth i'r clwb."
Mi fydd Osian yn cael ei gynorthwyo gan gyn-chwaraewr canol cae Arsenal, Chelsea a Barcelona, Cesc Fabregas, sydd wedi bod yng ngofal y t卯m ers mis Tachwedd.
Fe chwaraeodd y Sbaenwr 17 g锚m i Como 1907 y tymor diwethaf cyn ymddeol a dechrau hyfforddi'r timau ieuenctid a'r ail d卯m.
Fel Thierry Henry, mae Fabregas hefyd yn un o berchnogion y clwb.
'Wedi dechrau dysgu'r iaith'
"Yn barod mae gen i berthynas dda iawn efo Cesc. Mi oedd o'n chwaraewr arbennig ei hun," meddai Osian.
"Mae o wrthi'n gwneud ei gymwysterau hyfforddi ac yn gallu hyfforddi'n dda iawn ar y gwair.
"Ac wrth gwrs mae o'n un o'r perchnogion, felly mae hi'n bwysig iawn fod pobl fel Cesc ynghlwm 芒'r clwb ac ein bod yn eu defnyddio nhw.
"Mae o'n union yr un fath efo Thierry. Dwi'n gwybod ei fod o'n edrych ymlaen i fod yn rhan o be 'da ni'n anelu tuag ato fo ac mae ei brofiad a'i gyngor o yn mynd i fod yr un mor bwysig hefyd. Felly edrych ymlaen yn arw.
"Dwi wedi dechrau ar y gwaith o ddysgu'r iaith ac mae hynny'n bwysig i mi fel Cymro Cymraeg.
"'Dan ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig ydi hi i barchu ieithoedd pobl eraill felly yn sicr mi fyddai'n dysgu'r iaith yn drwyadl i'r gorau a medra i."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2023