Ai meddygon preifat yw'r ateb i achub y Gwasanaeth Iechyd?
- Cyhoeddwyd
Fe all gofal iechyd preifat "ysgafnhau'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol" yn 么l un meddyg sydd newydd adael y GIG wedi bron i 20 mlynedd fel meddyg teulu.
Yn ddiweddar, agorodd Dr Beth Howells feddygfa breifat yng ngorllewin Cymru - y cyntaf o'i math yn yr ardal.
Mae hi'n credu y bydd nifer o ddarparwyr gofal iechyd cynradd yn ehangu yng Nghymru - ar adeg pan mae gwasanaethau meddyg teulu o dan bwysau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai penderfyniad i unigolion yw hi os ydynt yn dymuno defnyddio gofal iechyd preifat yn lle'r Gwasanaeth Iechyd.
'Amhosib darparu popeth i bawb'
Dyw gofal iechyd preifat ddim yn rhywbeth newydd - mae nifer o bobl yn troi at y sector breifat am lawdriniaethau a gofal deintyddol bob blwyddyn.
Ond mae meddygfa breifat yn sicr yn rhywbeth anghyffredin yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Ym mis Tachwedd, wedi bron i 20 mlynedd fel meddyg teulu gyda'r Gwasanaeth Iechyd, fe wnaeth Dr Howells adael y gwasanaeth i sefydlu meddygfa breifat, Iechyd Teifi, yng Nghastellnewydd Emlyn.
"Dwi wedi fy synnu, ar yr ochr orau, bod ni wedi cael nifer uwch o alwadau, ymholiadau ac apwyntiadau gan bobl i ddod i'r feddygfa mor gynnar 芒 hyn ers i ni agor," meddai Dr Howells.
"Yn anecdotaidd, mae'r adborth ni 'di cal, yn enwedig cyn Dolig, pan ma' 'na bwysau ychwanegol - y pwysau'r gaeaf ni'n gwybod sy'n wahanol.
"Mae rhai pobl yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu aros dau neu dri wythnos, neu weithiau'n hirach, am apwyntiad gyda'r meddyg teulu yn y gwasanaeth iechyd, ac wedi penderfynu talu a dod i weld meddyg preifat."
Mae Dr Howells yn credu y bydd ei gwaith hi fel meddyg teulu preifat yn codi ychydig o'r pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd, ar adeg pan fo gwasanaethau meddyg teulu yn y penawdau.
"Mae'n anodd rhagweld y dyfodol, a sut y bydd pethau'n datblygu, a ble yn gwmws fydd y galw. Ond yn bersonol, dwi'n credu bod hi'n amhosib i'r gwasanaeth iechyd ddarparu popeth i bawb," meddai.
"Mae'r boblogaeth wedi tyfu'n sylweddol, mae pobl yn byw yn hirach - diolch i ofal iechyd da - ac mae hynny'n golygu y bydd na le i wasanaethau ychwanegol na fydd y gwasanaeth iechyd mewn lle i'w cynnig.
"Yn sicr dwi'n credu bydd rhyw fath o dwf."
'Byddai byth yn gallu fforddio fe'
Wedi 32 mlynedd yn gweithio fel nyrs yn y Gwasanaeth Iechyd, mae Neris Davies hefyd wedi penderfynu symud i'r sector preifat - gyda'r pwysau cynyddol mae staff y gwasanaeth yn eu hwynebu yn rhan o'r rheswm dros y newid.
"Pan o'n i'n gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd, o'n i ddim yn edrych ymlaen i fynd i'r gwaith. O'n i ddim yn edrych ymlaen i'r llond lle o patients oedd gyda ni a rhwystr o ffili roi'r sylw oedd angen ar bob person," meddai Ms Davies.
"A falle ar ddiwedd y dydd o ti'n falch mynd o 'na, ond hefyd oeddet ti'n gwybod bod ti ddim wedi rhoi'r gofal iawn dyle ti 'di rhoi.
"Dod 'ma, fi'n edrych 'mlaen dod mewn i'r gwaith - o'n i wedi cal amser i ffwrdd dros y Nadolig. Bydda hynny'n anodd iawn yn y gwasanaeth iechyd, ac o'n i'n edrych 'mlan i ddod 'n么l."
Ar strydoedd Castellnewydd Emlyn, roedd 'na rai oedd 芒 diddordeb mewn talu i sicrhau gwasanaeth meddyg teulu yn gynt, ond eraill yn credu bod angen gwella'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
"Fi di gweld prisiau'r doctor newydd yn dre," meddai Aled Thomas, 47, wrth s么n am Iechyd Teifi, "a byddai byth yn gallu fforddio fe."
Ond fe fyddai Debbie Adams, sy'n 55 oed ac yn byw gyda diabetes, yn fodlon talu: "Byddwn i'n mynd amdano fe, achos gyda fy iechyd i, mae e'n priority i fi."
Gyda'r angen i aros yn aml am apwyntiad, fe fyddai May Lewis, 81, hefyd yn fodlon talu: "Os byddai'n rhaid i fi dalu, byddai'n rhaid i fi dalu os bydda fe'n bwysig, ac nad oedd fy iechyd i'n dda."
'Symptom tanfuddsoddi cronig'
Dywedodd BMA Cymru mewn datganiad bod symud at waith preifat yn "gam sylweddol" ac yn "symptom o'r problemau yr ydym wedi'u hamlygu", gan ddweud ei fod yn ganlyniad i "danfuddsoddi cronig mewn meddygfeydd cyffredinol".
"Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i wrthdroi'r tanfuddosoddiad yma ac adfer meddygfeydd cyffredinol y GIG - fel sylfaen system iechyd cost-effeithiol o ansawdd uchel," ychwanegwyd.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw "am i bobl allu cael mynediad at wasanaethau meddyg teulu ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mor gyflym 芒 phosib yn ddibynnol ar yr angen" a bod hi'n "ddewis i'r unigolyn os ydyn nhw am ddefnyddio gofal iechyd preifat yn lle".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023