Cyn-isbostfeistr yn galw am gosbi penaethiaid Swyddfa'r Post
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-isbostfeistr o Gymru a gafodd ei chyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug wedi galw am gosbi cyn-benaethiaid Swyddfa'r Post.
Dywedodd Lorraine Williams, cyn-isbostfeistr Llanddaniel-fab ar Ynys M么n, y dylai'r rheiny oedd yn rhedeg Swyddfa'r Post pan gafodd cannoedd o isbostfeistri eu herlyn ar gam oherwydd nam cyfrifiadurol gyda rhaglen Horizon orfod "wynebu achosion llys" a "chael eu hitio yn eu pocedi".
Daw ei sylwadau wedi i gyn-brif weithredwr Swyddfa'r Post, Paula Vennells, gyhoeddi ei bod am ddychwelyd anrhydedd CBE y derbyniodd hi yn 2019 am wasanaeth i Swyddfa'r Post.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Vennells ei bod hi'n parhau i gefnogi a chyd-weithio gyda'r ymchwiliad cyhoeddus i'r hyn aeth o'i le.
Dywedodd iddi gadw'n dawel hyd yma gan ei bod hi'n teimlo y byddai'n anaddas iddi wneud sylw wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.
Gan ymddiheuro am y "dinistr" a achoswyd i fywydau is-bostfeistri a'u teuluoedd gan system Horizon, dywedodd聽na fyddai hi'n gwneud sylw pellach.
Mewn cyfweliad 芒 rhaglen Newyddion S4C dywedodd Lorraine Williams y dylai camau pellach nawr gael eu cymryd yn erbyn Paula Vennells.
"Pam ddylai hi gael siawns i ddychwelyd o? Dylai rhywun arall fod wedi cymryd o oddi wrthi hi," meddai.
"Mae fel bod hi'n dweud 'na fo, gwrandewch, gewch chi fo n么l r诺an, bob dim yn iawn'.
"Mi ddylia hi orfod mynd i lys fel 'dan ni wedi gorfod gwneud - iddi hi deimlo sut oeddan ni'n ei deimlo.
"Ydi hi'n cael hunllefau dros hyn? Ydi o'n mynd i effeithio ar ei theulu hi? Ydi o'n mynd i effeithio arni'n ariannol? Nadi mae'n si诺r.
"Dyna ddylai ddigwydd iddi - pethau sydd wedi digwydd i bobl gyffredin fel ni."
Ym mis Mehefin 2011 cafodd Lorraine Williams ei chyhuddo o ddwyn 拢14,600 o Swyddfa'r Post Llanddaniel-fab.
Ar 么l derbyn cyngor cyfreithiol fe blediodd yn euog yn Llys y Goron Caernarfon yn 2012 i gyhuddiad o gadw cyfrifon ffug.
Llwyddodd i osgoi carchar, ond derbyniodd ddedfryd o 52 wythnos o garchar wedi'i ohirio, ynghyd 芒 gorfod "ad-dalu'r" 拢14,600 a gwneud 200 awr o waith yn y gymuned.
Mae'n dweud iddi ddioddef yn ddifrifol o ran ei hiechyd yn y blynyddoedd wedi hynny, gan fynd i lefydd tywyll iawn.
Fe wnaeth sawl un droi cefn arni, ond mae'n diolch i'w theulu am fod yn gefn iddi drwy'r profiad.
'Jesd isio fo drosodd'
Wedi i ddrama Mr Bates v The Post Office roi sylw o'r newydd i'r sgandal, mae Ms Williams yn gobeithio y bydd y rhai o fewn Swyddfa'r Post a chwmni Fujitsu - oedd yn gyfrifol am raglen gyfrifiadurol Horizon - yn gorfod ateb am ddioddefaint cyn-isbostfeistri.
"Dwi jesd isio fo drosodd a 'di gorffen hefo unwaith ac am byth, ac i bwy bynnag sydd yn gyfrifol i gael eu cosbi yn iawn," meddai.
Mae Fujitsu wedi ymddiheuro am eu rhan nhw yn nioddefaint cyn-isbostfieistri.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021