Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwastadeddau Gwent: Ardal 'hyfryd' dan fygythiad gan waith datblygu
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 大象传媒 Radio Cymru
Mae mudiadau amgylcheddol a phentrefwyr yn dadlau fod Gwastadeddau Gwent yn wynebu bygythiad newydd ac yn cael eu rhoi o "dan bwysau aruthrol gan ddatblygwyr".
Mae'r safle yn cael ei ddisgrifio fel un o bwys cenedlaethol ac yn un o'r darnau mwyaf o gorsydd a ffosydd pori sydd wedi goroesi ym Mhrydain.
Bellach mae miloedd o bobl wedi llofnodi deisebau yn galw am atal unrhyw ddatblygiad sylweddol ar y lefelau.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Natur Gwent (GWT) bod "ceisiadau cynllunio lluosog i ddatblygu'r ardal" wedi eu cyflwyno yn y blynyddoedd diwethaf.
Pryderu am ddatblygiadau'r dyfodol
Yn 2019 llwyddodd yr elusen i atal cynllun dadleuol ffordd liniaru'r M4 gwerth 拢1.4 biliwn a fyddai wedi golygu datblygu rhan o lefelau Gwent.
Erbyn hyn, maen nhw'n dweud bod pryderon o'r newydd yngl欧n 芒 datblygiadau yn y dyfodol gan gynnwys ffermydd solar, a'r effaith y gallai datblygiadau o'r fath gael ar y tirwedd.
Un o'r cynlluniau sy'n achosi pryder i ymgyrchwyr yw cynllun fferm solar Craig y Perthi a fyddai'n cael ei hadeiladu rhwng yr M4 ac i'r gogledd o waith dur Llanwern.
Yn 么l y datblygwyr, fe fyddai'n cynhyrchu digon o ynni i gwrdd ag anghenion ynni dros 45,000 o gartrefi ac yn arbed dros 3,180,000 tunnell o CO2.
Eisoes mae grwpiau lleol wedi lleisio pryder am y cynllun ac yn dweud eu bod yn poeni am yr effaith bosib ar y lefelau a'r dirwedd leol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wrthi yn ffurfio canllawiau cynllunio strategol i amddiffyn y gwastadeddau.
Dywedodd Diana Callaghan ei bod yn "ardal hyfryd, wrth ymyl y m么r. Lle gwych i fod, i fyw ac i gerdded."
"Ond fel un sy'n byw yma rwy'n poeni'n fawr fod yr ardal dan fygythiad."
Datblygiadau newydd yn 'siom'
Nid dyma'r tro cyntaf i'r ardal fod o dan fygythiad yn 么l Mike Webb, rheolwr cynllunio Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Dywedodd: "Mae'r ardal 'ma wedi bod o dan fygythiad gan wahanol fathau o ddatblygiad ers yr 80au, 70au."
Ychwanegodd: "Am ryw reswm mae'r awdurdodau yn ystyried yr ardal yma fel targed ar gyfer datblygiad caled.
"Mae'n SSSI - mae hynna'n meddwl bod e 'di cael ei dynodi ar lefel Prydain yn swyddogol ar gyfer ei bywyd gwyllt."
Dywedodd ei fod yn "siom i mi ac i'r ymddiriedolaeth ein bod ni wedi dod o dan fygythiad unwaith eto".
Mae'r ymddiriedolaeth yn dadlau mai dim ond 8% o dirwedd Cymru sydd wedi eu clustnodi fel safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu SSSIs, a dylid gwarchod y safleoedd yma, gan addasu rheolau cynllunio er mwyn sicrhau hyn.
Mewn ymateb mae Robin Johnson, o gwmni ynni adnewyddol RWE a rheolwr prosiect fferm solar Craig y Perthi, yn dweud fod y cwmni yn cydnabod ac yn deall y pryderon lleol.
Ond mae'n bwysig, meddai, i edrych a deall sut y gall y cynllun fod o fudd i fywyd gwyllt.
Dywedodd Mr Johnson: "Mae'r cyfleodd i fywyd gwyllt fan hyn yn enfawr o ran adar, ymlusgiaid a blodau.
"Fe fyddai'r prosiect yn agor ardal werdd hyfryd i'r gymuned gyda chyfanswm o 129 erw yn llawn blodau a bywyd gwyllt lle byddai modd i bobl grwydro ar dir fyddai ar wah芒n i hynny, yn dir preifat."
Mae Jonathan Hughes sy'n ffermio ar y tir yn cefnogi gwarchod y lefelau a'r alwad i beidio 芒 bwrw ymlaen 芒 datblygiadau mawr ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol, fel Gwastadeddau Gwent.
Dywedodd: "Mae yn wlyb yma ac rwy' wedi gwneud lot o waith draenio ar y tir.
"Dwi yn dal i ddyfalu sut ma' ffermio ar lefelau Gwent ac mae lot o heriau, felly rwy' dal yn dysgu!"
Dywedodd mai un ffordd o ddiogelu'r lefelau fyddai rhoi mwy o gefnogaeth i'r syniad o ddefnyddio'r dirwedd i dyfu llysiau organig, ac mae'n dweud bod cyfle yn cael ei golli.
Dywedodd: "Rwy'n gallu tyfu pob dim ar y tir yma os wyt ti yn edrych ar ei 么l e yn iawn."
Yn 么l llefarydd GWT mae dros 5,000 o bobl eisoes wedi cefnogi deisebau yn galw am atal datblygiadau mawr ar y lefelau.
Bu'r ymddiriedolaeth yn casglu enwau ar-lein ac mae deiseb arall i'w hystyried gan bwyllgor deisebau Senedd Cymru.
Os ydy'r ddeiseb yn llwyddo i sicrhau 10,000 o enwau erbyn 25 Ionawr, bydd wedi cyrraedd y trothwy o lofnodion sydd ei angen i'r pwyllgor deisebau ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio ar ganllawiau cynllunio strategol i amddiffyn Gwastadeddau Gwent rhag bioamrywiaeth annerbyniol ac unrhyw effaith ar y tirlun.
"Rydym hefyd wedi diweddaru y polisi cynllunio cenedlaethol er mwyn sicrhau fod pob safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cael eu diogelu."