Gwynedd: Effaith 'annheg' toriadau gwasanaeth bws ar gymuned
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o drigolion pentref yng Ngwynedd yn pryderu y bydd newidiadau i wasanaethau bws yn cael "effaith andwyol iawn" ar fywydau pobl yr ardal.
Ers Tachwedd y llynedd dydi gwasanaeth bws y T2 ddim yn ymweld 芒 Garndolbenmaen.
Er y bydd gwasanaeth T22 yn ymweld yn ei le o Chwefror 2024 ymlaen, bydd hynny dal ddim mor aml 芒'r gwasanaethau oedd y bodoli gynt.
Yn 么l Trafnidiaeth Cymru mae'r amserlen newydd yn cynnig gwasanaethau amlach ar hyd rhannau cyffredin y llwybr.
Dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd y gwasanaeth newydd yn "darparu bysiau trydan o'r radd flaenaf".
Bellach mae deiseb wedi ei chreu yn lleol yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r penderfyniad.
'Effaith andwyol'
Roedd gwasanaeth bws T2 yn ymweld 芒 Garndolbenmaen 18 gwaith y dydd, a phum gwaith bob dydd Sul.
Ond gyda'r newidiadau bydd y T22 yn teithio drwy'r pentref 12 gwaith y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn - gyda chwe bws i gyfeiriad Caernarfon, a chwe bws i gyfeiriad Porthmadog a Blaenau Ffestiniog.
Yn 么l Cyngor Gwynedd, ni fydd gwasanaeth bws drwy Garndolbenmaen ar ddyddiau Sul.
Mae Megan Lloyd Williams yn Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Dolbenmaen ac yn byw yn lleol. Dywedodd ei bod yn credu i'r newid ddigwydd "heb ymgynghoriad 芒'r pentref o gwbl".
"Mae 'na amddifadedd yn digwydd fan hyn o achos y newidiadau yma," meddai.
"Mae'n cael effaith andwyol iawn ar fywydau pobl."
Wrth son am y defnydd o'r gwasanaeth yn yr ardal, ychwanegodd: "Does dim siop yma na thafarn.
"Mae pobl angen mynd i apwyntiadau meddygol, mae'n rhaid mynd lawr am Port neu Gricieth"
'Mae 'na lot heb geir'
Un arall sy'n byw yn yr ardal ydy Bryn Jones, sydd hefyd yn anghytuno gyda'r penderfyniad i newid y gwasanaeth.
"Mae 'na lot o bobl sydd heb geir, ac mae nhw angen mynd i'r ysgol, i'r siop... mae'n annheg, dydi o ddim yn iawn," meddai.
"Mi oeddwn i'n defnyddio'r bws yn reit aml.
"Un rheswm oedd oherwydd eu bod wedi rhoi bus pass i mi, ond be' mae hwnnw'n da i mi os nad oes na fws."
Wrth ymateb i wasanaeth newydd y T22, dywedodd nad oedd yn ddigon da "o bell ffordd".
"Mae'n rhaid i chi gael bws ar bob amser o'r dydd - bore, prynhawn a nos, yn mynd a dod bob ffordd."
Yn 么l yr Aelod o'r Senedd dros yr ardal, Mabon ap Gwynfor, mae'r newid "wedi achosi pryder mawr i bobl leol".
"Mae gan Garndolbenmaen boblogaeth h欧n, llawer ohonyn nhw ddim yn gyrru a felly eu hunig ffordd o deithio y tu allan i'r pentref yw ar fws."聽
"Galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddod yn 么l at y bwrdd gydag amserlen ddiwygiedig sy'n mynd i'r afael 芒 phryderon y gymuned leol, adfer gwasanaeth y T2 i Garndolbenmaen a rhoi anghenion defnyddwyr trafnidiaeth cyn unrhyw benderfyniad masnachol."
'Bysiau trydan o'r radd flaenaf'
Mewn ymateb dywedodd Trafnidiaeth Cymru, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru: "Yn dilyn newidiadau diweddar i lwybr T2 TrawsCymru, bydd pentref Garndolbenmaen yn cael ei wasanaethu gan y gwasanaeth newydd y T22, sy'n dechrau ar 12 Chwefror ac yn defnyddio bysiau trydan o'r radd flaenaf.
"Mae'r amserlen newydd yn cynnig gwasanaethau yn amlach ar hyd rhannau cyffredin y llwybr. Bydd gwasanaeth newydd 1S yn gwasanaethu Garndolbenmaen dros dro nes y daw'r T22 i wasanaeth - gyda phum taith y dydd i Gaernarfon."
Cafodd Llywodraeth Cymru gais i ymateb ar wah芒n, ond doedden nhw ddim am ychwanegu at ymateb Trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno'r gwasanaeth bws T22 newydd rhwng Blaenau Ffestiniog, Porthmadog a Chaernarfon.
"Bydd y gwasanaeth eco-gyfeillgar hwn yn darparu bysiau trydan o'r radd flaenaf fydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer teithiau lleol a hirach gyda cysylltiadau hwylus i wasanaethau eraill, gan gynnwys y T2.
"Bydd y T22 yn gwasanaethu pentref Garndolbenmaen pob dwy awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd24 Medi 2023
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023